Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin ac etoposide 103 a 321

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw carboplatin ac etoposide. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am garboplatin ac etoposide ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi carboplatin ac etoposide?

Cwrs triniaeth sy’n cynnwys dau gyffur yw hwn:

  • Carboplatin 
  • Etoposide 

Pam ydw i’n cael cemotherapi carbonplatin ac etoposide? 

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan y gwyddom ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi? 

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch carbonplatin ac etoposide bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Mae modd rhoi’r driniaeth hon mewn dwy ffordd. Caiff y rhain eu hesbonio isod. Byddwn yn dweud wrthych ym mha ffordd y caiff eich triniaeth ei rhoi.

  1. Unwaith bob tair wythnos, byddwn yn rhoi’r cemotherapi carbonplatin ac etoposide i chi mewn drip. Bydd hyn yn cymryd rhyw awr a hanner. Yna byddwn yn rhoi rhai tabledi etoposide i chi eu cymryd am y ddeuddydd nesaf gartref.
    Neu
  2. Unwaith bob tair wythnos, byddwn yn rhoi’r cemotherapi carbonplatin i chi mewn drip. Bydd hyn yn cymryd rhyw awr. Yna byddwn yn rhoi rhai tabledi etoposide i chi eu cymryd am y saith niwrnod nesaf gartref.

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei ragnodi ar eich cyfer.

Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty? 

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Fodd bynnag, os ydych yn byw’n bell i ffwrdd, mae’n bosibl y byddwn yn trefnu eich cemotherapi ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig. Mae bob amser ychydig o oedi rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.

Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi i aros yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Sut caiff fy nhriniaeth ei rhoi?

Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi cyn dechrau eich cemotherapi. Gallai fod ar ffurf tabledi neu os yw’n well gennych, mae modd ei rhoi drwy ddrip.

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

Sut dylwn gymryd y tabledi etoposide?

Dylech gymryd tabledi etoposide ddwywaith y dydd. Dylech gymryd y dabled gyntaf yn y bore a’r ail dabled gyda’r nos. Bydd faint o dabledi y dylech eu cymryd wedi’u marcio’n glir ar y bocs.

Dylech eu cymryd â stumog wag, felly rhyw awr cyn neu ar ôl bwyta. Dylech lyncu’r tabledi yn gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu’n fân.

Mae’n bwysig eich bod yn golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cyffwrdd â’ch tabledi.

Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd bryd hynny.
  • Os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol os dylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig, hyd yn oed os ydych wedi colli unrhyw ddosiau, eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd.

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Sut dylwn i gadw’r tabledi etoposide?

Dylech gadw eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel y tu hwnt i gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych.

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio at fferyllfa’r ysbyty neu eich siop fferyllydd leol er mwyn iddynt gael gwared arnynt yn ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli eich gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth gemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Sgîl-effeithiau eraill

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd i garbonplatin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n goch, yn goslyd, yn benysgafn neu’n sâl yn gyffredinol tra eich bod yn derbyn eich Carboplatin. Mae modd trin hyn yn hawdd iawn. Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.