Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin 5

Taflen wybodaeth am gemotherapi carboplatin

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gemotherapi carboplatin. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am garboplatin ar ddiwedd y daflen.

 

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw carboplatin?

Mae carboplatin yn gemotherapi sy’n cael ei roi drwy ddrip.

 

 

Pam ydw i’n cael carboplatin?

Mae eich meddyg wedi rhoi’r cemotherapi hwn am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol i drin eich math chi o ganser.

 

 

Pa mor aml fydda i’n cael carboplatin?

 

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylchred o garboplatin bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Efallai y bydd rhai cleifion yn derbyn y driniaeth wythnosol hon am hyd at 18 wythnos. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer o gylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei roi.

 

 

Am faint fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich triniaeth fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig. Mae’r cemotherapi’n parhau am tuag awr. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n gyfyng, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas i blant bach.

 

 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff carboplatin ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd hwn yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi ac yn rhoi taflen i chi, os oes angen.

 

 

Beth yw’r sgîl - effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl - effeithiau posibl sy’n gallu codi. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

 

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion sy’n derbyn cemotherapi yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rhywfaint.

 

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch, gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau.
Os ydych chi’n dal haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych chi mewn perygl o ddal sepsis, ac mae hyn yn gallu bygwth bywyd.
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° neu’n is na 35.5°. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda carboplatin. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol, yn ogystal â gorffwys.

 

Anaemia

Gall carboplatin wneud i chi fod yn anaemig, ac mae’n gyffredin i gleifion sy’n derbyn carboplatin fod angen trallwysiad gwaed.  Bydd eich tîm yn monitro eich gwaed i wirio am anaemia.

 

Adwaith tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith tebyg i alergedd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n cochi, yn cosi neu’n teimlo’n benysgafn neu’n gyffredinol sâl wrth dderbyn eich carboplatin. Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw rai o’r symptomau uchod.

 

Beichiogrwydd a bwydo o’r fron
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi, neu am o leiaf chwe mis ar ôl cael triniaeth, gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Clotiau gwaed

Mae diagnosis o ganser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Ni chynghorir i chi fwydo o’r fron yn ystod triniaeth cemotherapi, gan y gall y cyffuriau gael eu trosglwyddo i’r baban trwy eich llaeth.

 

Sgîl-effeithiau eraill 

Bydd eich tîm yn monitro eich gwaed i wirio sut mae eich arennau’n gweithio, gan y gall carboplatin effeithio ar eich arennau weithiau.
 

Gall carboplatin effeithio ar eich clyw hefyd, felly rhowch wybod i’ch tîm os oes gennych chi unrhyw ganu yn eich clustiau neu os ydych yn colli eich clyw.

 

Weithiau, gall carboplatin arwain at oglais neu binnau bach yn eich dwylo a’ch traed.  Rhowch wybod i’ch tîm os ydych yn profi’r symptomau hyn.

 

Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi’n pryderu am unrhyw sgîl-effeithiau.

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin iawn (nid ydym yn gallu rhestru’r holl sgîl-effeithiau cyffredin).  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhain ac am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre ac/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Weithiau, gall cleifion ystyried bod y taflenni hyn yn anodd eu darllen.  Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn mynd yn sâl gartref a bod angen sylw brys arnoch ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch:

  • Yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Â thymheredd o 37°C neu’n uwch.
  • Â dolur rhydd

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan            0808 808 0000

7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

Llinell gymorth canser

rhadffôn Tenovus                          0808 808 1010

7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

Mae’r daflen hon ar gael yn Gymraeg hefyd.

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae’r wybodaeth wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion, ac mae’n cael ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd mis Rhagfyr 2004
Adolygwyd mis Mai 2017