Neidio i'r prif gynnwy

Capecitabine and mitomycin and RT

631

 

Taflen wybodaeth am gemotherapi a radiotherapi capecitabine a mitomycin

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gemotherapi o'r enw capecitabine a mitomycin.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw hwn a phryd a sut y caiff ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen.

 

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

Rhoddir y driniaeth hon ar yr un pryd â radiotherapi.  Byddwch yn cael taflen wybodaeth am radiotherapi.

 

Beth yw cemotherapi capecitabine a mitomycin?

Triniaeth cemotherapi yw hon sy'n cynnwys dau gyffur:

  • Capecitabine, a roddir ar ffurf tabledi
  • Mitomycin, a roddir fel pigiad

 

Pam ydw i'n cael capecitabine a mitomycin?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn oherwydd canfuwyd ei fod yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

 

 

Pa mor aml y byddaf yn cael fy nghemotherapi?

 

Bydd angen i chi gymryd y tabledi capecitabine ddwywaith y dydd ar y diwrnodau rydych yn cael radiotherapi. Mae hyn fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd eich tîm clinigol yn rhoi gwybod i chi sawl diwrnod o driniaeth y byddwch yn ei gael.

 

Rhoddir y pigiad Mitomycin unwaith ar ddechrau eich triniaeth.

 

Sut bydd fy nghemotherapi mitomycin yn cael ei roi?

Rhoddir mitomycin trwy bigiad i mewn i wythïen. Er mwyn gwneud hyn, bydd gennych nodwydd fach yn eich llaw neu’ch braich a byddwch yn cael eich cysylltu â diferydd.  Byddwn yn rhoi moddion gwrth-salwch i chi cyn eich cemotherapi.

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad clinig.  Bydd y feddyginiaeth gwrth-salwch a'r pigiad mitomycin yn cymryd tua 30 munud i'w rhoi.  Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

A allaf ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn gyfyngedig felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylid cymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd (9-12 awr ar wahân). Dylech gymryd y tabledi o fewn 30 munud ar ôl gorffen eich pryd o fwyd.  Dylid llyncu'r tabledi'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ni ddylid eu cnoi na'u gwasgu.

 

Mae'n bwysig golchi'ch dwylo'n drylwyr ar ôl cymryd eich tabledi.

 

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd hyn yn amrywio ar gyfer pob person.  Mae yna 2 dabled o wahanol gryfderau sy’n wahanol o ran maint.  Mae'r tabledi mwyaf yn 500mg ac mae’r tabledi lleiaf yn 150mg.  Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach.  Bydd y nifer y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei nodi'n glir ar y blychau.  Cofiwch wirio pob blwch i weld faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn 2 awr i'r amser arferol, cymerwch nhw nawr.
  • Os yw'n fwy na 2 awr yn hwyr, dylid hepgor y dos hwn.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben.  Mae'n bwysig, hyd yn oed os ydych wedi methu unrhyw ddosau, y dylech orffen y driniaeth ar yr amser a drefnwyd. 

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi capecitabine?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd oddi wrth blant.  Dylid eu cadw mewn lle sych ac oer.  Dylid dychwelyd tabledi nas defnyddir i Fferyllfa'r ysbyty neu'ch fferyllydd lleol i'w gwaredu'n ddiogel. 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r cemotherapi hwn fel arfer yn cael ei oddef yn dda iawn ac nid yw'r rhan fwyaf o gleifion yn cael llawer o sgil-effeithiau.  Gall y meddygon, y nyrsys a’r tîm fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cyfeiriwch at eich taflen radiotherapi am unrhyw sgil-effeithiau radiotherapi.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt.  Fodd bynnag, gall nifer fach o bobl brofi peth teneuo’r gwallt.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch i chi sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, peidiwch â chymryd eich tabledi capecitabine a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn fod beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Efallai bydd gennych ddolur rhydd.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei chymryd os byddwch yn cael dolur rhydd. 

 

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • os ydych yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi.
  • ydych chi'n cael eich deffro gyda'r nos gyda dolur rhydd.  

 

Dylech hefyd gysylltu â ni os oes gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd mewn symudiadau’r coluddyn sy'n para am fwy na 3 diwrnod.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol.  Gall eich meddyg ragnodi meddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint. Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn, neu os ydych yn ei chael hi'n anodd bwyta ac yfed, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Dolur i'ch dwylo a'ch traed

Efallai y byddwch chi'n profi poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu'ch traed.  Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell defnyddio hufen neu eli heb bersawr yn rheolaidd.  Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu'ch traed yn mynd yn boenus.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu croen sych neu frech.  Fel arfer gellir ei drin yn hawdd gyda hufen neu eli heb bersawr.  Yn anaml iawn gall y frech hon fod yn ddifrifol.  Os oes gennych frech gyda phothelli neu os yw’n boenus, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a ffonio Canolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Problemau gyda’r galon

Yn anaml iawn, mae rhai pobl sy'n cael cemotherapi capecitabine yn cael problemau gyda'r galon.  Os oes gennych gyflwr ar y galon, neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi. 

 

Os oes gennych unrhyw boen yn y frest, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a cheisio sylw meddygol brys.  Peidiwch â dechrau cymryd eich capecitabine eto nes eich bod wedi siarad â'r tîm yn Felindre.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth ganser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgil-effeithiau eraill a gwybodaeth

Mae rhai cleifion yn profi llygaid dolurus neu ddyfrllyd.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig.

 

Bydd mitomycin yn rhoi lliw glas nad yw’n beryglus ar eich wrin am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Os bydd hyn yn para am fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Efallai y bydd merched yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislifoedd.  Gallent ddod yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed stopio. 

 

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn tadogi plentyn tra byddwch yn cael triniaeth gemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul.  Mae'n well osgoi golau haul cryf a gwisgo het a defnyddio eli haul cryf pan fyddwch yn yr haul.

 

Sgil-effeithiau prin

Mae nifer bach o bobl yn datblygu problemau gyda’r ysgyfaint yn dilyn mitomycin.  Os byddwch yn datblygu peswch neu'n sylwi eich bod yn fyr eich gwynt, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Yn achlysurol iawn, gall mitomycin niweidio eich celloedd gwaed a'ch arennau.  Er mwyn lleihau'r risg y bydd hyn yn digwydd, rydym yn cyfrifo'r dos o mitomycin yn ofalus.  Byddwch hefyd yn cael profion gwaed rheolaidd.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac mae angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os:

  • Ydych yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Ydych â thymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Ydych yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi
  • Ydych yn cael cynnydd yn symudiadau’r coluddyn yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi sy'n para am fwy na thri diwrnod
  • Oes gennych geg ddolurus iawn
  • Oes gennych ddwylo neu draed dolurus iawn
  • Ydych yn datblygu peswch neu ddiffyg anadl
  • Wedi gorfod rhoi'r gorau i capecitabine oherwydd poen yn y frest

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Llun – Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell Gymorth rhadffôn Macmillan    0808 808 0000

Rhadffôn Tenovus                         0808 808 1010

llinell gymorth canser

 

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Mawrth 2020