Neidio i'r prif gynnwy

Capecitabine 236

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi a elwir yn capecitabine. Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am y sgil effeithiau cyffredin y gallwch eu cael. Mae rhifau ffôn i gysylltu a manylion am sut mae cael gwybodaeth bellach ar y capecitabine yn cael eu rhoi ar ddiwedd y daflen. 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’.  Os nad ydych wedi cael y daflen hon yna cofiwch ofyn i’ch nyrs am gopi. 

Beth yw cemotherapi capecitabine?

Mae capecitabine yn driniaeth gemotherapi sy’n cael ei rhoi fel tabledi.  

Pam ydw i’n cael capecitabine?

Mae’ch meddyg wedi dewis capecitabine am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser. 

Pa mor aml  byddaf i’n cael y capecitabine?

Er mwyn i’r driniaeth fod ar ei mwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Cylchredau yw’r enw ar y rhain. Mae cylchred o capecitabine yn parhau am 3 wythnos. Yn ystod y cyfnod 3 wythnos hwn byddwch yn cymryd y tabledi ddwywaith y diwrnod am 14 diwrnod, ac yna’n cael 7 niwrnod  o orffwys. Gall y cylchred gael ei ailadrodd nifer o weithiau. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi’r union nifer o gylchredau y byddwch yn eu cael. 

Pa mor aml  byddaf i’n gweld y tîm arbenigol? 

Cyn bob cylchred byddwch yn gweld y tîm arbenigol. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gweld sut  ydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff eich cemotherapi ei ragnodi. 

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylai tabledi capecitabine gael eu cymryd ddwywaith y dydd, yn y bore ar ôl i chi gael eich brecwast a gyda’r nos ar ôl cael eich pryd gyda’r nos. Dylech gymryd y tabledi cyn pen 30 munud ar ôl gorffen eich pryd. Dylai’r tabledi gael eu llyncu’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylent gael eu cnoi na’u malu. 

Mae hi’n bwysig eich bod yn golchi’ch dwylo’n drylwyr ar ôl cymryd eich tabledi. 

Faint o dabledi bydd angen i mi eu cymryd? 

Bydd hyn yn amrywio i bob unigolyn. Mae 2 gryfder gwahanol i’r tabledi sydd o faint gwahanol i’w gilydd. Mae’r tabledi mwy yn 500mg a’r tabledi llai yn 150mg. Efallai y bydd angen i chi gymryd cyfuniad o’r tabledi mawr a’r tabledi bach. Bydd y nifer bydd angen i chi eu cymryd wedi ei nodi’n glir ar y blychau. Cofiwch edrych ar bob blwch i weld faint o dabledi y dylech eu cymryd.

Beth ddylwn i ei wneud os anghofiaf gymryd fy nhabledi?

  • Os ydyw o fewn  2 awr i’r amser arferol cymerwch nhw’n awr.
  • Os ydyw’n fwy na 2 awr yn hwyr, ewch heb y ddos hon.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai’ch triniaeth fod wedi dod i ben. Mae hi’n bwysig hyd yn oed os ydych heb gael ambell ddos eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr amser a gynlluniwyd. 

Beth os cymeraf ormod o dabledi? 

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn syth am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.              

Sut dylwn i gadw fy nhabledi capecitabine?

Dylech gadw’ch tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn lle diogel o afael plant. Dylid eu cadw mewn lle oer a sych (o dan 30oC) gan fod gwres a lleithder yn gallu effeithio arnynt.

Dylai unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio gael eu dychwelyd i Fferyllfa’r Ysbyty neu’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel. Gall cynhwysyddion gwag hefyd gael eu dychwelyd i’r Fferyllfa neu eu rhoi yn eich bin sbwriel yn y cartref.  

Beth yw’r sgil effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil effeithiau posibl sy’n gallu digwydd gyda chemotherapi capecitabine. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.  

Colli gwallt

Ni ddylai capecitabine achosi i chi golli’ch gwallt. Fodd bynnag, gall nifer fach o bobl brofi peth teneuo ar y gwallt. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.  

Salwch 

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin y dyddiau hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch i chi sydd fel arfer yn effeithiol dros ben. Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er gwaethaf cymryd meddyginiaeth rhag salwch yn rheolaidd, rhowch y gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Haint      

Mae’ch risg o ddal heintiau yn uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn syth os bydd gennych unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i’r ffliw neu wres uwch na 37.5°canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Dolur rhydd 

Gallwch gael dolur rhydd. Os digwydd hyn mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi os cewch chi ddolur rhydd.  

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre yn syth os:

  • cewch eich corff i lawr 4 gwaith neu ragor mewn 24 awr sy’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi.
  • cewch eich deffro yn y nos gyda dolur rhydd. 

Dylech hefyd gysylltu â ni os cewch unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd mewn cael eich corff i lawr a hynny’n parhau am fwy na thridiau. 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig nag arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen i chi wneud, ond ewch ynghylch eich gweithgareddau arferol os teimlwch y gallwch. Bydd rhai pobl yn ei chael yn fuddiol i wneud ymarfer ysgafn yn ogystal â chael gorffwys. 

Ceg boenus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu eich bod yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol. Gall eich meddyg roi cegolchion neu feddyginiaeth i rwystro neu glirio unrhyw haint.  

Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn neu’ch bod yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Dolur yn eich dwylo a’ch traed

Gallwch gael poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu’ch traed. Os digwydd hyn rydym yn argymell defnyddio eli neu drwyth heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn mynd yn boenus. 

Sgil effeithiau eraill 

Gall rhai cleifion gael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Cofiwch ddweud wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad clinig nesaf os digwydd hyn. 

Yn anaml iawn gall pobl ar gemotherapi capecitabine gael problemau gyda’r galon fel angina neu grychguriadau. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at y galon, cofiwch ddweud wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau ar gemotherapi. 

Bydd merched weithiau yn canfod bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif. Gall fynd yn drymach, yn ysgafnach neu beidio’n gyfan gwbl. 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn pan fyddwch dan driniaeth cemotherapi gan y gall cemotherapi niweidio’r baban yn y groth.  

Gall capecitabine gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Mae’n well osgoi golau haul cryf, gwisgo het a defnyddio eli rhag haul. 

A yw hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda capecitabine?

Cofiwch ddweud wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gall fod rhaid ichi eu hosgoi. Cofiwch ddweud wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych ar dabledi warfarin.

Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn cynnig gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu  fel mater o drefn gan y gallant fod yn anodd eu darllen. Fodd bynnag, gofynnwch os hoffech gael copi.      

Rhifau ffôn i gysylltu  

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888 

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn mynd yn sâl gartref ac angen sylw brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft dylech ffonio os byddwch:

  • Yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • Yn cael eich corff i lawr 4 gwaith neu ragor mewn 24 awr yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi 
  • Yn cael eich corff i lawr fwy o weithiau na’r hyn sy’n normal i chi a hynny’n parhau am fwy na thridiau       
  • Â cheg boenus iawn    
  • Â dwylo a thraed poenus dros ben 

Yr Adran Fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau am eich meddyginiaeth 

Llinell gymorth canser  0808 808 1010

Tenovus – rhadffôn

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol am ganser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi ei seilio ar dystiolaeth. Mae hi wedi ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.