Neidio i'r prif gynnwy

Bevacizumab 346

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth o’r enw bevacizumab.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen.

Beth yw bevacizumab?

Mae bevacizumab yn wrthgorff artiffisial sy’n glynu ei hun i gelloedd canser ac yn eu hatal rhag tyfu. Nid cemotherapi ydyw.

Mae’n gweithio trwy atal y canser rhag gwneud gwythiennau newydd. Mae hyn yn lleihau’r cyflenwad o ocsigen a maetholion i’r tiwmor, felly mae’n stopio tyfu neu’n crebachu.   

Pam ydw i’n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi argymell y driniaeth hon gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych. 

Pa mor aml fydda i’n cael y driniaeth hon?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o bevacizumab bob tair wythnos am hyd at 15 mis. Bydd eich meddyg yn trafod y nifer tebygol o gylchoedd y byddwch yn eu cael.

Sut bydd fy nhriniaeth cael ei rhoi?

Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu fraich. Fel arall, efallai yr awgrymwn fod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei gosod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu nyrs yn esbonio hyn yn fwy manwl.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Dylech fod yn barod i dreulio 3 awr yn yr ysbyty ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Mae bevacizumab yn cael ei roi’n araf a byddwn yn cadw llygad arnoch ar ôl y trwyth i wirio eich bod chi’n iawn. Ar gyfer gweddill eich triniaeth, bydd eich apwyntiadau’n fyrrach. Byddwch yn treulio tua 2 awr yn un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Os ydych yn cael triniaeth cemotherapi ar yr un diwrnod, byddwch yn yr ysbyty rhan fwyaf o’r dydd.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

Pa mor aml fydda’ i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch fel arfer yn gweld y tîm arbenigol bob tair wythnos. Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y byddan nhw’n eich gweld chi. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Y rheswm dros hyn yw fel y gallwn wirio sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch.  

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae’r math hwn o driniaeth fel arfer yn cael ei goddef yn dda iawn, ac nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn dioddef nifer o sgîl-effeithiau. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Colli gwallt

Ni ddylai’r driniaeth hon achosi i chi golli eich gwallt.

Salwch

Nid yw bevacizumab fel arfer yn achosi salwch.

Blinder a lludded 

Gall y driniaeth hon wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Pwysedd gwaed uchel

Gall bevacizumab achosi cynnydd mewn pwysedd gwaed rhai pobl. Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio’n rheolaidd yn ystod eich triniaeth. Os ydych yn dioddef pen tost, trwyn yn gwaedu neu’n teimlo’n benysgafn, rhowch wybod i’ch meddyg. Fel arfer, gall pwysedd gwaed uchel gael ei reoli gan dabledi a roddir ar bresgripsiwn gan eich meddyg.

Protein yn yr wrin

Gall hyn ddigwydd oherwydd effeithiau bevacizumab ar yr arennau. Nid yw fel arfer yn achosi symptomau, ond mae angen ei fonitro’n ofalus. Cyn pob dos o driniaeth, bydd eich wrin yn cael ei brofi am brotein. Os bydd protein yn cael ei ganfod, bydd angen casglu eich wrin dros 24 awr i asesu pa mor dda mae eich arennau’n gweithio. Gall bevacizumab gael ei stopio hyd nes i’r protein yn yr wrin gael ei ddatrys.

Gwaedu

Gall bevacizumab achosi problemau gwaedu. Dywedwch wrth eich meddyg os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau a all effeithio ar waedu, fel aspirin, warffarin neu fitamin E. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Effeithiau ar eich perfedd

Mae’r driniaeth hon yn achosi rhwymedd neu ddolur rhydd.  

  • Os ydych yn dioddef rhwymedd, mae’n bwysig eich bod chi’n cynyddu faint o hylif rydych chi’n ei yfed. Efallai y bydd angen moddion gweithio arnoch. Gallwch siarad â ni neu eich meddyg teulu i gael cyngor. 
  • Os ydych yn dioddef dolur rhydd, mae’n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylif. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi o fewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Adweithiau tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn gallu dioddef adwaith tebyg i alergedd i bevacizumab. Mae hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd yn ystod eich triniaeth gyntaf. Dyma pam y mae’n cael ei roi yn araf a byddwn yn eich arolygu am unrhyw adweithiau. Os yw hyn yn digwydd, bydd hyn tra bod y bevacizumab yn trwytho neu yn unwaith ar ôl hynny.  Mae symptomau’n cynnwys teimlo’n:

boeth ac yn wrid 

  • cosi 
  • benysgafn
  • anhwylus yn gyffredinol
  • fyr o anadl  

Gellir trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs os rydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau hyn.

Sgîl-effeithiau eraill 

Gallwch ddioddef pen tost yn ystod y driniaeth hon. Rhowch gynnig ar gymryd pa bynnag tabledi lladd poen y byddech yn eu cymryd fel arfer. Os nad yw’r rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu eich meddyg teulu i gael cyngor.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.  

Newidiadau yn y ffordd y mae eich calon yn gweithio 

Mae hyn yn anghyffredin. Mae’n fwyaf tebygol o effeithio ar bobl sydd â chlefyd ar y galon, neu sydd wedi cael ymbelydredd ar y frest neu rhai mathau o gemotherapi, fel doxorubicin neu epirubicin. Rhowch wybod i’ch meddyg os rydych yn dioddef poen yn eich brest, yn cael anhawster anadlu neu fod eich ffêr yn chwyddo, gan y gallai’r rhain fod yn arwyddion bod bevacizumab yn effeithio ar eich calon.

Clwyfau’n araf yn gwella.

Gall clwyfau gymryd yn hirach i wella tra rydych chi’n cael triniaeth â bevacizumab. 

Rhwyg yn y perfedd.

Gall nifer fach o gleifion ddatblygu twll bach yn wal y perfedd (rhwyg). Mae hyn yn anghyffredin, ond os byddwch yn datblygu unrhyw boen neu chwydu yn eich bol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan y gallant fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os:

  • Oes gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.