Neidio i'r prif gynnwy

BEP 67

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw BEP.  Bydd yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am BEP ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi BEP?

Mae cemotherapi BEP yn cynnwys 3 chyffur:

  • Bleomycin
  • Etoposide
  • Cisplatin

Gyda’i gilydd, caiff y cyffuriau hyn eu galw yn BEP yn fyr.

Pam ydw i’n cael cemotherapi BEP?

Mae eich meddyg wedi argymell cemotherapi BEP gan y gwyddom ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi BEP?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Caiff y rhain eu hadnabod fel cylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o BEP bob tair wythnos am hyd at 4 cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Sut caiff fy nghemotherapi BEP ei roi?

Byddwch yn cael apwyntiad cleifion allanol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, argymhellir eich cemotherapi.

Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip wedi’i gysylltu â nodwydd fach sy’n cael ei gosod yn eich llaw neu’ch braich. Yn ogystal â chael y cyffuriau cemotherapi, byddwn hefyd yn rhoi hylifau eraill i chi trwy eich drip. 

Bydd angen i chi fynd i’r uned cemotherapi (mae hon hefyd yn gyfarwydd fel Ward y Dywysoges Margaret) fel claf dydd am y 5 diwrnod cyntaf ym mhob cylch tair wythnos. Bydd y cemotherapi yn para am 4 - 5 awr bob dydd. Cyhyd â’ch bod yn teimlo’n iawn, byddwch yn gallu mynd adref ar ddiwedd pob diwrnod.

Bydd rhan bleomycin o’ch triniaeth yn cael ei rhoi i chi yn un o’r mannau triniaeth achosion dydd ar ddiwrnod 8 a diwrnod 15 o bob cylch. Bydd angen i chi gael prawf gwaed a chael archwiliad gan feddyg cyn pob triniaeth bleomycin. Dylech ganiatáu hyd at 2 awr ar gyfer yr apwyntiadau hyn.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda chemotherapi BEP. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli Gwallt
Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda'r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gallwn drefnu wig os hoffech un, gofynnwch i'ch nyrs am fwy o wybodaeth. Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Ffrwythlondeb

Gallai cemotherapi BEP effeithio ar eich gallu i genhedlu plentyn. Mae gennym daflen am ffrwythlondeb dynion a thriniaethau canser sy’n rhoi gwybodaeth am fancio sberm.  Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gael copi o’r daflen hon. Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael gan eich meddyg neu’r Nyrs Arbenigol Wroleg. Mae’r rhif ffôn wedi’i restru ar dudalen 7.

Sgîl-effeithiau llai cyffredin eraill 

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli rhywfaint o deimlad neu’n gweld newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’ch meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am y clyw hefyd, ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli rhywfaint o glyw a allai fod yn barhaol. 

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau eich triniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gynnal profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau yn ystod y pum niwrnod o driniaeth ac am o leiaf deuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cwpan neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Os nad ydych yn gallu yfed y maint hwn o hylif oherwydd salwch, efallai y bydd angen i chi fynd i Felindre. Byddai angen i chi gael hylifau ychwanegol mewn drip a meddyginiaeth wrthgyfog.

Effeithiau ar eich croen 

Gall bleomycin achosi newidiadau yn y croen. Mae’r rhain yn gallu cynnwys darnau tywyll ar eich croen, ewinedd gwrymiog neu dynerwch a chwyddo ar flaenau eich bysedd.

Dolur rhydd 

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r math hwn o gemotherapi. Os byddwch yn cael dolur rhydd, mae’n bwysig i chi yfed digonedd o hylif. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7. 

Sgîl-effeithiau anghyffredin cemotherapi BEP

Gall bleomycin niweidio’r ysgyfaint o’i roi mewn dosau uchel. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, gall o bosibl fod yn angheuol. Rydym yn cyfrifo eich dos o bleomycin yn ofalus i leihau’r risg y bydd hyn yn digwydd. Bydd eich meddyg yn archwilio’ch brest yn drylwyr cyn pob triniaeth. Os ydych mewn perygl o gael niwed i’r ysgyfaint, efallai y byddwch yn cael dos llai o bleomycin neu efallai na fyddwch yn cael y dos. Mae’r effaith hon yn fwy tebygol o ddigwydd mewn pobl sy’n ysmygu, felly mae’n bwysig i chi leihau faint yr ydych yn ysmygu, neu’n rhoi’r gorau i ysmygu. Os byddwch yn datblygu diffyg anadl neu beswch sych, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7. 

Gall strôc neu drawiad ar y galon fod yn un o gymhlethdodau anghyffredin iawn triniaeth cisplatin. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, trafodwch hyn gyda’ch meddyg os ydych yn pryderu.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Os byddwch yn cael dolur rhydd
  • Os byddwch yn datblygu diffyg anadl neu beswch sych

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Nyrs Wroleg Arbenigol 029 2061 5888 est. 6991    

Dim Smygu Cymru 0800 085 2219

www.stopsmokingwales.com 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.