Neidio i'r prif gynnwy

Apalutamide

wybodaeth ar Apalutamide

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth a elwir yn apalutamide. Bydd y daflen yn egluro beth yw hwn, pryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw apalutamide?

Mae apalutamide yn driniaeth hormonaidd a roddir ar ffurf tabledi. Gall testosteron ysgogi twf canser y prostad. Mae triniaethau hormonaidd ar gyfer canser y prostad yn gweithio trwy ostwng lefelau testosteron.

 

Pam ydw i'n cael apalutamide?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r therapi hwn oherwydd canfuwyd ei fod yn effeithiol mewn rhai cleifion â chanser y prostad.

Mae apalutamide yn gweithio mewn ffordd wahanol i driniaethau hormonau eraill a roddir ar gyfer canser y prostad.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Ar y dechrau byddwch yn cael eich adolygu'n fisol naill ai yn y clinig cleifion allanol neu drwy asesiad ffôn, ac yna'n llai rheolaidd, tua bob 3 mis. Yn yr apwyntiadau hyn, byddwch yn cael profion gwaed a byddwn yn monitro eich pwysedd gwaed. Byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae triniaeth yn effeithio arnoch chi.

 

A allaf ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn gyfyngedig, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi apalutamide?

Dylid cymryd tabledi apalutamide unwaith y dydd. Gellir cymryd tabledi unrhyw bryd, ond ceisiwch eu cymryd tua'r un amser bob dydd. Dylid llyncu'r tabledi'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylid eu cnoi na'u gwasgu.

 

Faint o dabledi apalutamide fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd y nifer y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei nodi'n glir ar y bocs.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn 4 awr i'r amser arferol, cymerwch nhw nawr.
  • Os yw'n fwy na 4 awr yn hwyr, dylid hepgor y dos.

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen; gofynnwch am y llinell driniaeth.

 

Sut ddylwn i storio fy nhabledi?

Dylid storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd oddi wrth blant. Dylid eu cadw mewn lle sych ac oer (islaw 25oC). Dylid dychwelyd unrhyw dabledi nas defnyddir i Fferyllfa'r ysbyty neu'ch fferyllydd lleol i'w gwaredu'n ddiogel.

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Gall y meddygon, nyrsys a’r tîm fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Blinder a lludded

Gall y driniaeth wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer. Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond parhewch â gweithgareddau arferol os teimlwch yn abl i wneud hynny. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Pwysedd gwaed uchel

Gall y driniaeth hon achosi cynnydd mewn pwysedd gwaed i rai cleifion. Byddwn yn gwirio eich pwysedd gwaed cyn i chi ddechrau’r driniaeth, ac ym mhob ymweliad â’r clinig. Dywedwch wrthym os ydych eisoes yn derbyn triniaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel. Os ydych wedi dioddef o bwysedd gwaed uchel yn y gorffennol ond ei fod yn cael ei reoli'n dda, byddwch yn dal i allu cael y driniaeth hon. 

 

Athralgia

Athralgia yw poenau yn y cymalau a’r cyhyrau. Mae hyn yn digwydd mewn tua 17% o gleifion ac mae fel arfer yn ysgafn; os yw hyn yn digwydd, gallwch chi gymryd pa bynnag boenladdwr y byddech chi fel arfer yn ei gymryd ar gyfer cur pen  

Problemau ar y galon

Gall y driniaeth hon achosi rhai problemau ar y galon. Mae'r risg o ddatblygu problemau difrifol ar y galon yn isel. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi ac yn trefnu i weithrediad eich calon gael ei brofi cyn triniaeth os oes angen.

Os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau triniaeth.

 

Brech

Efallai y byddwch chi'n profi adwaith ar y croen gydag apalutamide. Fel arfer brech goslyd yw hwn, sy'n achosi anghysur ysgafn. I nifer fach o bobl, gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, gallai fod yn boenus a gallai gael ei heintio.

Mae’r adwaith hwn ar y croen yn un dros dro, a dylai wella'n llwyr ar ôl i chi orffen y driniaeth. Os byddwch yn datblygu adweithiau difrifol ar y croen sy'n achosi poen neu'n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach. Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest.

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn. Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed. Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

 

 

Sgil-effeithiau eraill a gwybodaeth

 

Isthyroidedd – mae hwn yn sgil-effaith anghyffredin. Gall nifer fach iawn o gleifion ar apalutamide brofi lefelau isel o’r hormon thyrocsin; os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig nag arfer, yn teimlo’n sensitif i’r oerfel, yn magu pwysau ac yn cael problemau gyda rhwymedd. Gellir monitro hyn trwy brofion gwaed.  

Mae tua 23% o gleifion sy’n cael triniaeth apalutamide yn profi pyliau o wres. Gweler y ddolen Macmillan isod i gael rhagor o wybodaeth am byliau o wres

https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support/impacts-of-cancer/hot-flushes-and-sweating

 

Os oes gennych bryderon am y symptomau isod: trafodwch nhw gyda'ch nyrs arbenigol neu gyda'ch meddyg oncoleg.

 

Gall esgyrn cleifion deneuo neu ddatblygu osteoporosis dros amser. Gall hyn gynyddu eich risg o gwympo a thorri esgyrn. Gall cerdded ac ymarferion rheolaidd sy'n cynnig ymwrthiant, fel codi pwysau, helpu gyda hyn. Gall diet iach helpu gyda hyn hefyd. Trafodwch hyn gyda'ch nyrs arbenigol neu’ch meddyg oncoleg.

 

Gall nifer fach iawn o gleifion (llai nag 1%) ddatblygu ffitiau wrth gymryd apalutamide. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth eich meddyg os ydych erioed wedi cael ffit, neu'n cael triniaeth ar gyfer ffitiau ar hyn o bryd. Dywedwch wrth eich meddyg hefyd os ydych wedi cael anaf i'r ymennydd o fewn y 12 mis diwethaf, neu os ydych erioed wedi cael tiwmor ar yr ymennydd neu strôc. Os byddwch yn cael ffit, dylech roi'r gorau i gymryd eich apalutamide a ffonio Canolfan Ganser Felindre ar y llinell gymorth driniaeth; mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Mae'n bwysig nad ydych yn tadogi plentyn tra byddwch yn cael y driniaeth hon, ac am 3 mis wedi hynny. Mae hyn oherwydd y gall yr apalutamide niweidio'r babi heb ei eni. Bydd angen i chi ddefnyddio condom ac 2il fath o ddull atal cenhedlu os ydych mewn perthynas â rhywun sydd o oedran cael plant.

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, eich nyrs neu fferyllydd fel eu bod nhw'n gwybod pa feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau presgripsiwn a di-bresgripsiwn, fitaminau neu atchwanegiadau llysieuol, gan fod nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth os ydych yn sâl gartref ac mae angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio os:

  • Ydych yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Oes gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Yw’r dolur rhydd gennych
  • Yw’ch wrin yn goch am fwy na 24 awr

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell Gymorth rhadffôn Macmillan    0808 808 0000

 

Rhadffôn Tenovus                         0808 808 1010

llinell gymorth canser

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd. Paratowyd Ebrill 2020  plain-english (3)