Neidio i'r prif gynnwy

Alpelsib A1332

Taflen wybodaeth ar alpelisib A1332

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am eich triniaeth o'r enw alpelisib.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y caiff ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

Beth yw alpelisib?

Mae alpelisib yn driniaeth canser a roddir ar ffurf tabledi. 

 

Pam ydw i'n cael alpelisib?

Canfuwyd bod alpelisib yn helpu rhai cleifion gyda'ch math penodol chi o ganser y fron.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi alpelisib?

Dylid cymryd tabledi alpelisib yn barhaus nes y bydd gwenwyndra annerbyniol neu y bydd yr afiechyd yn datblygu. Bydd hwn yn cael ei roi ar y cyd â thriniaeth hormonaidd o’r enw fulvestrant, a roddir trwy chwistrelliad.  Cymerwch y tabledi tua'r un amser bob dydd.  Dylech gymryd y tabledi gyda bwyd.  Dylid llyncu'r tabledi'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. 

Faint o dabledi alpelisib y bydd angen i mi eu cymryd?

Bydd y nifer y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei nodi'n glir ar y bocs.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

Os byddwch yn anghofio cymryd eich tabledi, gellir eu cymryd yn syth ar ôl bwyd ac o fewn 9 awr ar ôl yr amser y cânt eu rhoi fel arfer. Ar ôl mwy na 9 awr, dylid hepgor y dos ar gyfer y diwrnod hwnnw. Y diwrnod wedyn dylid ei gymryd ar yr amser arferol.

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.   Gofynnwch am y galwr (pager) cemotherapi.

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi?

Dylid storio eich tabledi yn eu deunydd pacio gwreiddiol ac mewn man diogel allan o afael plant. Dylid eu cadw mewn lle sych, oer (islaw 25oC).

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi nas defnyddir i Fferyllfa'r ysbyty neu'ch fferyllydd lleol i'w gwaredu'n ddiogel. 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

 

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgil-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y meddygon, y nyrsys a’r tîm fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Effeithiau ar eich siwgrau gwaed

Gall y feddyginiaeth hon achosi lefelau siwgr gwaed uchel.  Byddwn yn monitro eich siwgrau gwaed yn ystod y driniaeth hon. Mae hyn yn effeithio ar bobl nad ydynt yn ddiabetig yn ogystal â phobl â diabetes.  Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o symptomau lefelau siwgr gwaed uchel.  Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau canlynol wrth gymryd y feddyginiaeth hon, cysylltwch â’r llinell gymorth driniaeth.

  • Angen troethi’n aml, neu fwy o droethi yn ystod y nos 
  • Newyn neu syched eithafol
  • Dryswch a syrthni 
  • Anadl ceton (anadl arogli melys – tebyg i’r losin ‘pear drops’)
  • Golwg aneglur
  • Syrthni
  • Cyfog
  • Gwendid cyffredinol a chrampiau yn eich coesau 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu sampl wrin neu sampl gwaed fel y gallwn wirio eich lefelau siwgr.

Effeithiau ar eich coluddion.

Gall y driniaeth hon achosi dolur rhydd.

  • Os ydych chi'n profi dolur rhydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.
  • Os ydych chi'n profi rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylifau rydych chi'n eu hyfed.  Efallai y bydd angen carthyddion arnoch.  Gallwch siarad â ni neu eich meddyg teulu am gyngor.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu brech.  Fel arfer, gellir trin hyn yn hawdd ag hufen neu eli lleithio heb bersawr.  

Os bydd hyn yn cosi neu'n lledaenu, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

Diffyg archwaeth neu salwch

Efallai y byddwch yn profi diffyg archwaeth; mae hyn yn amrywio o berson i berson, ac efallai y bydd gan rai pobl broblem gyda chyfog a chwydu.  Os yw’r symptomau hyn gennych, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs. Gallant roi meddyginiaeth gwrth-salwch i chi ei gymryd gartref. Os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Blinder a lludded

Gall y driniaeth wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint. Os na allwch fwyta nac yfed oherwydd ceg ddolurus, cysylltwch â chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Osteonecrosis yr ên

Yn achlysurol iawn, gall sgil-effaith anghyffredin ddigwydd gydag alpelisib, pan fydd asgwrn yr ên yn torri i lawr.  Fe'i gelwir yn osteonecrosis yr ên, a gall fod yn gyflwr difrifol. Rhai o'r symptomau yw:

  • poen, chwydd neu haint yn y deintgig
  • y dannedd yn llacio
  • y deintgig yn iacháu’n wael
  • diffyg teimlad neu deimlad o drymder yn yr ên

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau a restrir uchod neu unrhyw broblemau deintyddol eraill, dywedwch wrth eich Ymgynghorydd, eich Nyrs Arbenigol neu fferyllydd Felindre.

Colli gwallt

Ni ddylai'r driniaeth hon wneud i chi golli'ch gwallt.  Fodd bynnag, gall rhai pobl brofi teneuo’r gwallt.  Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli’ch gwallt, os oes angen.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech gael copi.

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 
Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Sgil-effeithiau eraill a gwybodaeth

Rhaid i chi osgoi bwyta grawnffrwyth neu yfed sudd grawnffrwyth ar unrhyw adeg tra byddwch yn cymryd alpelisib.

Gall rhai cleifion brofi cur pen tra byddant yn cymryd alpelisib.  Gellir trin hyn gyda pha boenladdwyr bynnag y byddech fel arfer yn eu cymryd.

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi neu'n tadogi plentyn wrth gael triniaeth. Mae hyn oherwydd y gallai alpelisib niweidio'r babi heb ei eni. Yn ogystal, ni ddylid ei ddefnyddio wrth fwydo ar y fron.

 

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Yn y clinig bydd eich meddyg yn trafod eich meddyginiaethau presennol gyda chi cyn dechrau alpelisib. Os rhagnodir meddyginiaethau eraill i chi, tra byddwch ar gwrs o alpelisib rhowch wybod i'ch meddyg, eich nyrs neu fferyllydd yn Felindre, gan fod llawer o feddyginiaethau na ddylid eu cymryd ag Alpelisib.  Mae yna hefyd lawer o feddyginiaethau dros y cownter y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi, er enghraifft, eurinllys. Mae angen i chi wirio gyda'ch fferyllydd cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth dros y cownter.

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg/nyrs ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest.  

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn Error! Hyperlink reference not valid.. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

Rhifau Ffôn Cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
I gael cyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth

Adran fferylliaeth  029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

Llinell Gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000
 

Rhadffôn Tenovus                 0808 808 1010
llinell gymorth canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd.

Plain English Society logo

Paratowyd Tachwedd 2022