Neidio i'r prif gynnwy

Adjuvant Abemaciclib A1540

A1540

 

      

Adjuvant Abemaciclib A1540 (Verzenios)

 Beth yw Abemaciclib?

Therapi wedi'i dargedu (biolegol) yw Abemaciclib; nid cemotherapi mohono. Mae'r grŵp hwn o gyffuriau yn rhwystro twf a lledaeniad canser. Maent yn targedu ac yn ymyrryd â phrosesau yn y celloedd sy'n achosi i ganser dyfu. Pan gaiff ei ddefnyddio i drin canser y fron, cymerir Abemaciclib ochr yn ochr â therapi hormonau (endocrinaidd).

Pam ydw i'n cael Abemaciclib?

Canfuwyd bod Abemaciclib yn lleihau'r risg y bydd canser y fron yn digwydd eto, pan gaiff ei ddefnyddio gyda thabledi therapi hormonau. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd eich tablau therapi hormonau (Tamoxifen neu letrozole) bob dydd tra byddwch ar Abemaciclib ac os ydych yn y cyfnod cyn y menopos neu’n mynd drwy’r perimenopos, eich bod yn cael eich pigiadau Zoladex neu prostap yn rheolaidd hefyd.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy asesu neu y bydd angen cymryd gwaed?

Bydd angen i chi gael profion gwaed rheolaidd, bob pythefnos am y 2 fis cyntaf, bob 4 wythnos tan 6 mis, yna bob 12 wythnos am weddill y 2 flynedd.  Byddwn hefyd yn ffonio unwaith y byddwn wedi cael canlyniad eich gwaed bob tro, i weld sut rydych yn teimlo a thrafod unrhyw broblemau sydd gennych. Gallwch gael profion gwaed yn lleol, felly nid oes angen dod i Ganolfan Ganser Felindre.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi Abemaciclib?

Dylid cymryd tabledi Abemaciclib ddwywaith y dydd bob dydd. Ceisiwch eu cymryd tua'r un amser bob dydd, yn y bore a gyda'r nos. Gellir cymryd y tabledi gyda bwyd neu hebddo. Dylid llyncu'r tabledi'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ni ddylid eu cnoi na'u gwasgu.  Peidiwch â chymryd unrhyw dabledi sydd wedi torri mewn unrhyw ffordd.

Peidiwch â chymryd grawnffrwyth na sudd grawnffrwyth ar unrhyw adeg tra byddwch yn cymryd Abemaciclib. 

Faint o dabledi Abemaciclib y bydd angen i mi eu cymryd?

Bydd y nifer y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei nodi'n glir ar y bocs. Gall y dos newid gan ddibynnu a ydych chi'n profi unrhyw sgil-effeithiau fel dolur rhydd. Nid yw'n anarferol cael rhai mân sgil-effeithiau yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, ac rydym yn newid y dos o ganlyniad i sut rydych chi'n teimlo.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

Os byddwch yn anghofio cymryd eich tabledi, dylid hepgor y dos a chymryd y dos fel arfer y diwrnod canlynol.

Os byddwch yn chwydu ar ôl cymryd dos, peidiwch ag ailadrodd y dos. Cymerwch eich dos nesaf ar eich amser arferol.

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.   Gofynnwch am y galwr (pager) cemotherapi. 

 

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi?

Dylid storio eich tabledi yn eu deunydd pacio gwreiddiol ac mewn man diogel allan o afael plant. Dylid eu cadw mewn lle sych ac oer (islaw 25oC).

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi nas defnyddir i Fferyllfa'r ysbyty neu'ch fferyllydd lleol i'w gwaredu'n ddiogel.  

Sgil-effeithiau

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgil-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y meddygon, nyrsys a fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Dolur rhydd 

Mae dolur rhydd yn sgil-effaith gyffredin iawn Abemaciclib. Mae hyn fel arfer ar ei waethaf yn ystod mis cyntaf y driniaeth. Os oes gennych ddolur rhydd, dylech gymryd y driniaeth gwrth-ddolur rhydd, loperamide. Cymerwch 2 gapsiwl loperamide cyn gynted ag y byddwch wedi cael eich carthion hylifol cyntaf, yna cymerwch 1 capsiwl bob tro rydych yn cael carthion hylifol. Y dos uchaf o loperamide yw 8 tabled mewn unrhyw gyfnod o 24 awr. Ceisiwch yfed 2-3 litr o hylif y dydd. Os byddwch yn cael 4 pwl o ddolur rhydd, tra byddwch yn cymryd loperamide, ffoniwch y llinell gymorth driniaeth; mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon.  

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn beryglu bywyd. 

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5° canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Blinder a lludded 

Gall y driniaeth wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

Colli synnwyr blasu, archwaeth neu salwch

Efallai y byddwch chi'n profi colli synnwyr blasu ac archwaeth. Rhowch gynnig ar fwydydd â blas cryf i helpu gyda cholli synnwyr blasu. Bwytewch brydau llai, yn fwy rheolaidd i helpu gydag archwaeth. Gall rhai pobl gael cyfog neu chwydu. Cymerwch feddyginiaeth gwrth-salwch i helpu gyda hyn. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn helpu, neu os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

Anemia (nifer isel o gelloedd coch)

Wrth gael y driniaeth hon, efallai y byddwch yn mynd yn anemig. Gall hyn wneud i chi deimlo'n flinedig ac yn fyr eich gwynt.

Rhowch wybod i'ch meddyg neu’ch nyrs os yw'r symptomau hyn yn broblem. Os oes angen, gallwn drefnu trallwysiad gwaed.

Cleisio

Gall Abemaciclib leihau cynhyrchiant platennau (sy’n helpu’r gwaed i geulo). Bydd hyn yn cynyddu eich risg o gleisio neu waedu. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw gleisio gormodol ar eich corff neu waedu fel gwaedu o'r trwyn neu waedu o'ch deintgig, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

Colli gwallt

Ni ddylai'r driniaeth hon wneud i chi golli'ch gwallt.  Fodd bynnag, gall rhai pobl brofi teneuo’r gwallt.  Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt, os oes angen.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech gopi. 

Problemau gyda’r croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu brech.  Fel arfer gellir trin hwn yn hawdd gyda rhywfaint o hufen neu eli heb bersawr.  

Os bydd hyn yn cosi neu'n mynd ar led ar y corff, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

Sgil-effeithiau eraill: 

O bryd i'w gilydd gallwch deimlo'n benysgafn gydag Abemaciclib. Ceisiwch osgoi gyrru os ydych chi'n teimlo'n benysgafn. 

Gall Abemaciclib effeithio ar weithrediad eich iau weithiau; bydd eich gwaed yn cael ei fonitro ar gyfer hyn yn y clinig. 

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi tra byddwch yn cael triniaeth. Mae hyn oherwydd y gallai Abemaciclib niweidio'r babi heb ei eni. Mae angen i chi ddefnyddio dulliau atal cenhedlu rhwystrol yn ystod triniaeth ac am o leiaf 3 wythnos ar ôl cwblhau Abemaciclib. Yn ogystal, ni ddylid ei ddefnyddio wrth fwydo ar y fron. 

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Yn y clinig bydd eich meddyg yn trafod eich meddyginiaethau presennol gyda chi cyn dechrau Abemaciclib. Os rhagnodir meddyginiaethau eraill i chi tra byddwch ar gwrs o Abemaciclib, rhowch wybod i'ch meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd yn Felindre, gan fod llawer o feddyginiaethau na ddylid eu cymryd gydag Abemaciclib.  

Mae yna hefyd lawer o feddyginiaethau dros y cownter y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi, mae angen i chi wirio gyda'ch fferyllydd cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth dros y cownter. 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg/nyrs ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest.  

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

Rhifau ffôn cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

I gael cyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth

Adran fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

Rhadffôn Tenovus 0808 808 1010

llinell gymorth canser 

Llinell Gymorth rhadffôn Macmillan

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd.