Neidio i'r prif gynnwy

Abraxane 485 & 489

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi Abraxane?

Triniaeth cemotherapi newydd yw Abraxane sy’n defnyddio cyffur sydd wedi’i hen sefydlu o’r enw paclitaxel. Caiff Abraxane ei baratoi mewn ffordd wahanol i paclitaxel arferol. Mae hynny’n gostwng y posibilrwydd o ymatebion alergaidd.

Pam ydw i’n cael cemotherapi Abraxane?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn oherwydd ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd.

Mae modd rhoi Abraxane mewn dwy ffordd. Caiff y rhain eu hesbonio isod. Bydd eich nyrs neu’ch meddyg yn dweud wrthoch chi pa ffordd byddwch chi’n derbyn eich triniaeth.

Triniaeth wythnosol 

Ym mhob cylch pedair wythnos byddwch yn cael Abraxane bob wythnos am 3 wythnos, gydag un wythnos o egwyl yn dilyn. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi faint o gylchoedd byddwch yn eu cael.

Neu  

Triniaeth bob tair wythnos

Byddwch yn cael Abraxane un waith bob tair wythnos. Fel arfer, byddwch yn cael hyd at 6 chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi faint o gylchoedd byddwch yn eu gael.

Pa mor aml byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed cyn pob triniaeth. Byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Y rheswm am hynny yw er mwyn i ni wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn dderbyniol, byddwn yn rhagnodi eich cemotherapi.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi? 

Bydd eich cemotherapi’n cael ei roi trwy ddrip mewn i wythïen yng nghefn eich braich neu law. Fel arall, mae’n bosibl mewnbynnu tiwb mán o’r enw PICC mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd y PICC yn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod y sefyllfa ymhellach gyda chi.

Mae gennym daflen sydd â mwy o wybodaeth am diwbiau PICC. Mae croeso i chi ofyn am gopi. 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Fel arfer, bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad clinig. Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd oddeutu awr, er bydd eich triniaeth gyntaf yn para oddeutu hanner awr yn hirach.

Os rydych yn byw yn bell i ffwrdd, mae’n bosibl y byddwn yn gallu trefnu i’ch cemotherapi ddigwydd ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Fel arfer, mae yna oedi rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, bydd disgwyl i chi fod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi i gadw cwmni i chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda chemotherapi Abraxane. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Mae’n bosibl defnyddio dull o’r enw ‘oeri pen’ neu ‘gapio oer’ er mwyn eich atal  rhag colli eich gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech un, gofynnwch i’ch nyrs am ragor o wybodaeth. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ‘oeri pen’ neu ‘gapio oer’, siaradwch gyda’ch nyrs. 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl dioddef o’r dolur rhydd gyda chemotherapi Abraxane. Os yw hynny’n digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Mae yna feddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall y math hwn o gemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Bydd rhai pobl yn teimlo’n flinedig iawn ac yn benysgafn. Ni ddylech yrru os profwch y symptomau hyn.

Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Effeithiau ar nerfau eich dwylo a’ch traed

Mae Abraxane yn gallu effeithio ar y nerfau yn eich bysedd a’ch traed. Bydd hyn yn arwain at deimlo fferdod neu binnau bach. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig.

Mae’n bosibl y bydd y symptomau hyn yn cynyddu wrth i chi gael mwy o gylchoedd cemotherapi. Mae’n bwysig bod yn hynod ofalus os bydd eich dwylo neu’ch traed yn dod i gyswllt â thymheredd cynnes neu oer. Fel arfer, mae’r symptomau hyn yn diflannu o fewn rhai misoedd o orffen eich triniaeth.

Cymalau poenus neu ddolurus 

Mae rhai cleifion wedi sylwi bod eu cymalau yn boenus neu’n ddolurus. Mae hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd 2-3 diwrnod ar ôl pob triniaeth. Gadewch i’ch meddyg neu’ch nyrs wybod os yw hynny’n digwydd er mwyn i ni allu rhoi poenladdwyr i chi. 

Weithiau, mae triniaethau cemotherapi yn effeithio ar fisglwyfau menywod. Mae’n bosibl i’w misglwyfau fod yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed stopio’n gyfangwbl. 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu wrth gael triniaeth cemotherapi gan fod yna bosibilrwydd y bydd y cemotherapi’n effeithio ar y baban heb ei eni.

Mae’r math hwn o gemotherapi yn gallu cynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Awgrymwn eich bod yn osgoi heulwen gref ac yn gwisgo het haul ac eli haul pan rydych allan yn yr awyr iach.

Gwybodaeth arall

Os rydych wedi cymryd tabledi cemotherapi capecitabine yn y gorffennol, mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo a’ch traed. Mae hwn yn sgîl-effaith anghyffredin. Os mae’n digwydd, awgrymwn eich bod yn defnyddio hufen neu olchdrwyth heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Canser Felindre os yw eich dwylo neu’ch traed yn boenus. 

Taflenni gwybodaeth y gweithgynhyrchwyr i gleifion

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gweithgynhyrchwyr cyffuriau i gleifion ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd o www.medicines.org.uk. Mae’r taflenni hyn yn darparu gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu nhw fel rheol, gan eu bod nhw’n gallu bod yn anodd ei deall. Gofynnwch os hoffech chi gael copi.

Rhifau ffôn

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os rydych yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith neu unrhyw bryd yn ystod y dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio:

  • os rydych yn chwydu mwy nag unwaith yn ystod 24 awr
  • os oes gennych dymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • os oes gennych ddolur rhydd
  • os oes gennych ddwylo neu draed poenus

Adran Fferyllol 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell gymorth radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am - 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.