Neidio i'r prif gynnwy

Abiraterone

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs triniaeth o’r enw abiraterone. Bydd y daflen yn esbonio  ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â’r ‘Cofnod therapi steroid’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch am gopi yn fferyllfa Felindre.

Beth yw abiraterone?

Triniaeth hormonaidd newydd sy’n cael ei rhoi fel tabledi yw abiraterone. Gall testosteron symbylu twf canser y prostad. Mae triniaethau hormonaidd ar gyfer canser y prostad yn gweithio drwy leihau lefelau testosteron.

Cyffur di-drwydded yw abiraterone ar hyn o bryd. Byddwn yn esbonio hyn ar dudalen 2.  

Pam ydw i’n cael abiraterone?

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r therapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Mae abiraterone yn gweithio mewn ffordd wahanol i driniaethau hormonaidd eraill sy’n cael eu rhoi ar gyfer canser y prostad. Mae modd ei ddefnyddio pan fo triniaethau eraill wedi stopio gweithio.

Beth yw cyffur di-drwydded? 

Cyn gall meddygon ragnodi cyffur, mae angen trwydded arno. Mae cyffuriau â thrwydded yn ddiogel ac yn effeithiol. Ar hyn o bryd, nid oes gan abiraterone drwydded i’w ddefnyddio yn y DU gan mai cyffur newydd yw ef. Gwnaed cais am drwydded ond y disgwyl yw y bydd yn cymryd o leiaf chwe mis.

Mae treialon clinigol wedi’u cynnal er mwyn profi diogelwch ac effeithiolrwydd abiraterone. Mae eich meddyg ymgynghorol yn fodlon bod abiraterone yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd yn gyfrifol am eich monitro tra eich bod yn cael y driniaeth hon. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am hyn, siaradwch â’ch meddyg ymgynghorol.

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol? 

Byddwn yn eich gweld bob pythefnos am y tri mis cyntaf o driniaeth. Os yw popeth yn dda gyda chi, byddwn yn eich gweld bob pedair wythnos. Yn yr apwyntiadau hyn, byddwch yn cael profion gwaed a byddwn yn monitro eich pwysedd gwaed. Byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch chi.

Sut dylwn i gymryd y tabledi abiraterone?

Dylech gymryd tabledi abiraterone unwaith y dydd. Mae modd cymryd tabledi unrhyw bryd hyd at 10pm, ond dylech geisio eu cymryd tua’r un pryd bob dydd.  Dylech gymryd y tabledi â stumog wag. Mae hyn o leiaf ddwy awr ar ôl bwyta, ac ni ddylech fwyta unrhyw fwyd am o leiaf awr wedyn. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu.

Byddwn hefyd yn rhoi tabledi prednisolone i chi.  Dylech gymryd y rhain ddwywaith y dydd, ar ôl brecwast a chinio. Tabledi steroid yw’r rhain. Byddwn yn rhoi taflen o’r enw Cofnod therapi steroid i chi. Mae’n bwysig eich bod yn darllen hon gan ei bod yn rhoi gwybodaeth fanwl am sgîl-effeithiau’r cyffuriau steroid.

Faint o dabledi abiraterone fydd angen i mi eu cymryd? 

Mae’n arferol cymryd pedwar tabled bob dydd ond weithiau bydd eich meddyg yn newid y ddos. Bydd y nifer y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blwch.

Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi? 

Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd ar unwaith. 

Os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr, dylech golli’r ddos hon. 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi? 

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi.

Sut ddylwn i storio’r tabledi?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man sych ac oer (islaw 30oC).

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu eich fferyllfa leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn goddef y driniaeth hon ond mae rhai sgîl-effeithiau posibl y gallai fod angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Newidiadau i’ch afu 

Gall abiraterone effeithio ar eich afu, heb unrhyw symptomau fel arfer. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd er mwyn gwirio gweithrediad eich afu. Rhowch wybod i’ch meddyg ymgynghorol os oes gennych unrhyw broblemau parhaus ar yr afu. 

Newidiadau i’ch lefelau potasiwm  

Gall abiraterone ostwng lefel y potasiwm yn eich gwaed. Mae potasiwm yn gemegyn pwysig a gall lefelau isel effeithio ar eich calon a’ch cyhyrau. Nid oes unrhyw symptomau fel arfer ond mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n benysgafn, yn sylwi ar guriadau calon afreolaidd neu blycio yn eich cyhyrau. Bydd y tîm arbenigol yn Felindre yn gwirio eich profion gwaed yn rheolaidd er mwyn monitro hyn.

Salwch 

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin gydag abiraterone. 

Heintiau 

Nid yw’r tabledi  abiraterone yn cynyddu eich risg o haint. Fodd bynnag, gall y tabledi prednisolone o’u cymryd am gryn amser leihau eich ymwrthedd i haint. Os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, dylech weld eich meddyg teulu.

 Blinder a lludded 

Gall y driniaeth wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Dal dŵr 

Mae’n bosibl y bydd eich corff yn dal dŵr sy’n gallu arwain at eich wyneb, eich fferau a’ch coesau’n chwyddo. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig os yw hyn yn broblem. 

Pwysedd gwaed uchel 

Mae’n bosibl y bydd y driniaeth hon yn achosi cynnydd ym mhwysedd gwaed rhai cleifion. Byddwn yn gwirio eich pwysedd gwaed cyn i chi ddechrau triniaeth ac ym mhob ymweliad â’r clinig. Dywedwch wrthym hefyd os ydych eisoes yn cael triniaeth am bwysedd gwaed uchel. Os ydych wedi dioddef o bwysedd gwaed uchel yn y gorffennol ond eich bod yn ei reoli’n dda, byddwch yn gallu cael y driniaeth hon o hyd.

Problemau ar y galon 

Gall y driniaeth hon achosi rhai problemau ar y galon. Mae’r risg o ddatblygu problemau difrifol ar y galon yn isel. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi ac yn trefnu i weithrediad eich calon gael ei brofi cyn dechrau eich triniaeth.

Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau eich triniaeth.

Ar unrhyw adeg yn ystod eich triniaeth, os byddwch yn fyr o wynt, yn datblygu peswch, yn dal dŵr (chwyddo) yn eich breichiau neu’ch coesau, neu’n cael crychguriadau ar y galon (dirgrynu ar y galon neu guriad calon afreolaidd), dylech ofyn am asesiad meddygol ar unwaith. Byddai eich meddyg teulu’n asesu’r problemau hyn fel arfer. Dylech ddweud wrth eich tîm arbenigol yn Felindre hefyd fel y gallwn adolygu p’un a ddylech barhau i gymryd eich abiraterone.

Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth 

Mae’n bwysig nad ydych yn dod yn dad tra eich bod yn cael y driniaeth hon ac am bedwar mis wedi hynny. Mae hyn oherwydd y gall abiraterone niweidio’r baban heb ei eni.

Gall rhai clefion gael pen tost wrth gymryd abiraterone. Mae modd trin hyn gyda pha gyffuriau lleddfu poen bynnag y byddech yn eu cymryd fel arfer.

Gallai rhai cleifion gael chwiwiau poeth hefyd. 

Os bydd gennych unrhyw bryderon, dylech eu trafod gyda’ch nyrs arbenigol, neu yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig. 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill? 

Os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill, dylech roi gwybod i’ch meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Nyrsys Wroleg Arbenigol  029 2061 5888 est. 6991

Dydd Llun  – Dydd Gwener  9am – 5pm

 Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Ar gyfer cyngor brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi 

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.