Neidio i'r prif gynnwy

Travelling abroad with controlled drugs

Teithio dramor gyda meddyginiaeth

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am deithio dramor gyda meddyginiaeth. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am ‘gyffuriau rheoledig’ a sut y gallwch gymryd meddyginiaeth o’r fath dramor. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw ‘cyffuriau rheoledig’?

Gallwch fynd â’r rhan fwyaf o feddyginiaethau dramor heb unrhyw gyfyngiadau. Fodd bynnag, gall rhai mathau o feddyginiaethau a ragnodir gynnwys ‘cyffuriau rheoledig’. Maent wedi’u diffinio fel ‘unrhyw gyffur sy’n agored i reolau o dan ddeddfwriaeth Camddefnyddio Cyffuriau’. Mae’r rhan fwyaf o gyffuriau rheoledig naill ai’n gyffuriau lleddfu poen neu feddyginiaeth i liniaru gofid. Ymhlith yr enghreifftiau mae Fentanyl, Morffin (MST/Oramorph/Sevredol), Buprenorphine, Methadon.

 

Sut ydw i’n mynd â ‘cyffuriau rheoledig’ dramor?

Mae rhai gwledydd yn cyfyngu ar faint o gyffuriau penodol y gallwch ddod â nhw i mewn i’r wlad neu fynd â nhw allan o’r wlad. Mae meddyginiaethau ‘rheoledig’ yn y DU yn debygol o fod yn rhai ‘rheoledig’ dramor.

 

Gallwch wirio cyfyngiadau mewnforio cyn i chi deithio drwy gysylltu â’r Llysgenhadaeth neu’r Uchel Gomisiwn priodol yn y DU. Mae rhifau ffôn cyswllt ar gael ar

www.drugs.gov.uk

Bydd angen llythyr gan eich meddyg arnoch i gludo cyffuriau rheoledig i mewn i’r DU neu allan ohoni. Bydd yn cadarnhau eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni, dyddiadau teithio, pen eich taith a manylion eich meddyginiaeth gan gynnwys dos a chyfansymiau.

 

Os ydych yn teithio dramor am fwy na thri mis, neu’ch bod yn cludo cyflenwad o feddyginiaeth cyffuriau rheoledig a ragnodwyd fydd yn para mwy na thri mis, bydd angen trwydded allforio bersonol arnoch gan y Swyddfa Gartref. Mae trwyddedau ar gael am ddim ac mae’n hawdd cael gafael arnynt. Mae’n ymwneud â chi’n bersonol a’ch meddyginiaeth a bydd yn ddilys drwy gydol eich taith.

 

Os ydych yn teithio am lai na thri mis, ni fydd angen trwydded bersonol arnoch. Yn syml, gallwch gludo eich meddyginiaeth yn eich bagiau llaw ynghyd â’r llythyr gan eich meddyg.

 

Os nad ydych yn siwr p’un a oes angen llythyr neu drwydded bersonol arnoch, gall eich meddyg eich cynghori yn hyn o beth.

 

Beth os bydd angen trwydded bersonol arnaf?

Os bydd angen trwydded bersonol arnoch, gofynnwch i’ch meddyg lenwi cais am drwydded allforio bersonol. Mae hwn ar gael o www.drugs.homeoffice.gov.uk/drugs-laws/licensing/personal

 

Dylech wneud cais o leiaf 14 diwrnod cyn eich bod yn bwriadu gadael y DU er mwyn caniatáu amser i roi’r drwydded.

 

Gallwch anfon eich cais a llythyr eglurhaol drwy’r post neu eu hanfon dros y ffacs i:

Home Office Drugs Licensing and Compliance Unit

4th Floor

Peel Building

2 Marsham Street

London

SW1P 4DF                        Ffacs: 020 7035 6161

 

Sut ddylwn gludo fy meddyginiaeth?

Dylech sicrhau bod gennych ddigon o feddyginiaeth i bara drwy gydol eich gwyliau cyfan. Dylech fynd â digon o feddyginiaeth gyda chi er mwyn caniatáu dosiau ychwanegol rhag ofn bod angen i chi ddychwelyd adref yn hwyrach na’r disgwyl.

 

Dylech gludo eich meddyginiaeth, llythyr eglurhaol gan eich meddyg a’ch trwydded bersonol, os oes angen, yn eich bagiau llaw. Dylech:

 

  • Gadw meddyginiaethau yn eu pecynnau gwreiddiol wedi’u labelu’n glir.
  • Dylech roi meddyginiaethau hylifol llai na 100ml mewn bag plastig tryloyw, gyda hylifau eraill.
  • Os bydd angen i chi gludo mwy na 100ml, dylech ei gyflwyno wrth fan gwirio diogelwch er mwyn iddo gael ei archwilio gyda phelydr-x. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y swm y gallwch ei gludo ond mae’n bosibl y gofynnir i chi wirio’r hylif drwy ei flasu, neu drwy ddilysu’r cynnyrch, ar ffurf llythyr gan eich meddyg, er enghraifft.
  • Dylech gadw meddyginiaethau’n sych, yn oer heb fod yng ngolau’r haul.
  • Byddai’n ddefnyddiol cludo crynodeb o’ch cyflwr meddygol a’r triniaethau rydych wedi’u cael, gan gynnwys rhestr o’ch meddyginaethau.
  • Dylech gynnwys rhif ffôn eich meddyg teulu.

 

A fydd rhaid i mi ddatgan fy meddyginiaethau i Dollau Ei Mawrhydi yn y DU?

Na. Ni fydd angen i chi wneud hynny os ydych yn teithio am lai na thri mis neu os oes gennych drwydded bersonol. Bydd llythyr gan eich meddyg yn esbonio pam mae angen y feddyginiaeth arnoch yn helpu os cewch eich holi gan Dollau Ei Mawrhydi yn y DU.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae gwybodaeth bellach ar gael gan eich meddyg neu’ch nyrs. Mae’n bosibl hefyd y byddech yn hoffi cysylltu ag un o’r canlynol:

 

Swyddfa Gartref                      020 7035 0472

www.drugs.gov.uk

E-bost: licensing_enquiry.aadu@homeoffice.gsi.gov.uk

 

Macmillan                               0808 808 0000
www.macmillan.org.uk

Llinell gymorth radffôn (DU yn unig) Dydd Llun – dydd Gwener, 9am - 8pm

 

Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

Adolygwyd Mai 2011