Neidio i'r prif gynnwy

Taflen wybodaeth ar gyfer cleifion y drwgdybir bod eu llinyn cefn wedi'i gywasgu'n fetastig

Taflen wybodaeth ar gyfer cleifion y drwgdybir bod eu llinyn cefn wedi’i gywasgu’n fetastig

 

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion y mae eu llinyn cefn wedi’i gywasgu’n falaen. Bydd yn esbonio beth yw’r cywasgiad hwn, a pha driniaeth y byddwch yn ei chael yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion ynglŷn â sut mae cael mwy o wybodaeth ar ddiwedd y daflen hon.

 

Efallai y bydd rhai o’r geiriau sy’n cael eu defnyddio yn y taflenni hyn yn anghyfarwydd i chi. Rydym wedi cynnwys esboniad o’r geiriau hyn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Beth yw cywasgiad metastig y llinyn cefn?

Mae cywasgiad metastig y llinyn cefn (MSCC) yn digwydd pan mae pwysau ar y llinyn cefn a’i nerfau.

 

Gall hyn ddigwydd oherwydd:

  • bod yr esgyrn (fertebra) yn eich cefn yn cael eu heffeithio gan ganser, neu
  • fod y canser wedi lledaenu i’r feinwe o gwmpas yr asgwrn cefn.

 

Spinal cord

Mae Ffigur 1 yn dangos asgwrn cefn claf gyda’r man llwyd (tiwmor) yn gwasgu ar y llinell ddu (llinyn y cefn)

 

I rai pobl, cywasgiad y llinyn cefn yw’r arwydd cyntaf y gall fod ganddynt diwmor. Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o bobl a gaiff eu heffeithio gan hyn, mae’n digwydd yn hwyrach ymlaen yn natblygiad y clefyd.

 

 

Sut mae’n digwydd?

Mae’r llinyn cefn yn cael ei amddiffyn gan yr asgwrn cefn. Mae’r asgwrn cefn yn lle cymharol gyffredin i ganser eilaidd yr asgwrn ddigwydd. Weithiau, mae canserau eilaidd yr asgwrn yn chwyddo ac yn gwasgu’r llinyn cefn neu, weithiau, gall wanhau’r asgwrn. 

 

 

Pa symptomau fydda i’n eu dioddef?

Mae’r llinyn cefn yn gweithredu fel negesydd i’r ymennydd, sy’n dweud wrth eich breichiau a’ch coesau i symud, ac anfon negeseuon yn ôl i’r ymennydd. Yn y rhan fwyaf o bobl, mae’r symptomau’n digwydd yn rhan waelod y corff, ond gall rhai gael eu heffeithio yn rhannau uchaf y corff, gan gynnwys y gwddf a’r breichiau.

 

Mae symptomau’n amrywio, ond gallant gynnwys:

  • Poen
  • Pinnau bach / dideimladrwydd
  • Trymder / gwendid / parlys
  • Anhawster pasio wrin neu weithio’r corff

 

 

Pa driniaeth fydda i’n ei chael?

Os yw’ch meddyg yn drwgdybio bod eich llinyn cefn wedi’i gywasgu, bydd mwy na thebyg yn gofyn i chi aros yn y gwely, a gorwedd mor wastad â phosibl. Gallai symud yr asgwrn cefn yn sydyn wneud eich symptomau’n waeth. Mae gorwedd yn wastad yn bwysig iawn gan mai dyma’r safle mwyaf diogel a chynhaliol ar gyfer yr asgwrn cefn. Efallai y bydd gofyn i chi wisgo coler neu ffrâm cynhaliol, a fydd yn cael ei esbonio’n fwy manwl i chi.

 

Efallai y byddwch yn cael tabledi o’r enw steroidau i’w cymryd. Bydd y rhain yn lleihau’r chwyddo yn rhan yr asgwrn cefn yr effeithir arno.

 

Efallai y byddwch yn cael eich anfon am sgan arbennig o’r enw sgan MRI. Mae hwn yn caniatáu i’ch meddyg gael darlun eglur o’ch asgwrn cefn a dangos ble mae’r broblem. Os yw’r sgan yn cadarnhau bod y llinyn cefn wedi’i gywasgu, bydd yn helpu i gynllunio eich triniaeth, a all gynnwys radiotherapi.

 

 

Beth fydd yn digwydd os bydd angen radiotherapi arnaf?

Pelydr-x ynni uchel yw radiotherapi, a fydd yn cael ei gynllunio’n ofalus ar gyfer y man sydd angen triniaeth. Er mwyn gallu cynllunio eich triniaeth, efallai y bydd gofyn i chi fynd am sgan CT cynllunio.

Yn ystod y sgan CT, byddwch yn gorwedd ar eich cefn ar wely caled. Bydd y sgan CT yn cymryd oddeutu 20 munud. Mae’n bwysig aros yn llonydd iawn, felly efallai y bydd angen i chi gymryd poenladdwyr i wneud yn siwr eich bod chi’n gyfforddus. 

 

Gall y radiotherapi fod rhwng 1 a 10 triniaeth. Bydd eich meddyg yn dweud wrthych sawl triniaeth fydd eu hangen arnoch. Pan fyddwch yn cael eich triniaeth, byddwch yn gorwedd yn yr un safle ag y gwnaethoch ar gyfer eich sgan CT, felly efallai y bydd angen i chi gymryd poenladdwyr ymlaen llaw. Mae’r driniaeth yn ddi-boen, a bydd yn cymryd oddeutu 10 munud bob dydd.

 

 

A fydd angen llawdriniaeth arnaf?

Efallai y bydd llawdriniaeth yn cael ei hystyried ar gyfer rhai pobl fel rhan o’u triniaeth, er enghraifft, pan mai hyn yw’r arwydd cyntaf o ganser neu os yw’r symptomau’n gwaethygu’n raddol. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi gael eich trosglwyddo i ysbyty arall o dan ofal llawfeddyg arbenigol.

 

 

Pa gymorth sydd ar gael tra’r wyf yn Felindre?

Tra rydych ar y ward, bydd nyrsys ar gael i’ch helpu gyda:

 

  • Bwydo
  • Ymolchi
  • Mynd i’r toiled (efallai y bydd angen cathetr ar rai pobl i’w helpu i basio wrin)

 

 

Mae cleifion sy’n dioddef cywasgiad y llinyn cefn yn debygol o gael eu nyrsio yn wastad yn y gwely i ddechrau. Bydd y meddygon a’r tîm ffisiotherapi yn eich asesu a chynllunio pryd y gallwch eistedd i fyny’n ddiogel yn y gwely. Byddant yn rhoi cyngor i chi ar symudedd a phryd y mae’n ddiogel i chi ddod allan o’r gwely. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ofalus iawn. Os yw hyn yn achosi poen neu’n gwaethygu’r symptomau, byddwn yn dilyn y broses yn fwy graddol. Mae nifer o gleifion yn elwa o ymarferion ysgafn ar gyfer y coesau i’w gwneud yn y gwely i helpu gyda chylchrediad.

 

 

Enghraifft o ymarferion i’w gwneud yn y gwely:

-004

 

  • Wrth orwedd yn wastad, symudwch eich fferau (fel y dangosir yn y llun uchod) 5 tro i bob cyfeiriad. Gwnewch hyn bob awr yn ystod y dydd, os gallwch. 

 

 

Enghraifft o ymarferion anadlu:

Mae’n bwysig gwneud ymarferion anadlu dwfn yn rheolaidd:

  • Cymerwch dri anadl dwfn trwy eich trwyn, daliwch am ddwy eiliad, yna anadlwch allan trwy eich ceg am bedair eiliad. Gwnewch hyn bob awr yn ystod y dydd, os gallwch. 

 

O fewn rhai diwrnodau o gael eich derbyn, mae’n bosibl y byddwch yn gweld gweithiwr cymdeithasol a therapydd galwedigaethol, a fydd yn siarad â chi a (gyda’ch caniatâd) eich teulu am gynlluniau i’ch rhyddhau o’r ysbyty. Gall hyn gynnwys cyngor am unrhyw fudd-daliadau y gall fod gennych hawl i’w derbyn.

 

Efallai y cewch eich cyfeirio at ein nyrs arbenigol hefyd (Gofal Cefnogol), a all roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i’ch helpu chi a’ch teulu. Neu’r tîm therapi cyflenwol, a all gynnig amrywiaeth o driniaethau i’ch helpu i ymlacio.

 

 

Beth alla i ei ddisgwyl ar ôl i fy nhriniaeth ddod i ben?

Mae cywasgiad metastig y llinyn cefn yn effeithio ar bob unigolyn yn wahanol. Yn dilyn triniaeth, mae angen i rai pobl â choesau gwan ddefnyddio ffon, ffrâm gerdded neu gadair olwyn i fod yn annibynnol. Mae pobl eraill yn gallu cerdded heb unrhyw gymorth. Bydd y ffisiotherapydd a’r nyrsys yn gweithio gyda chi i’ch helpu chi ddod mor annibynnol â phosibl.

 

 

All fy llinyn cefn gywasgu’n fetastig eto?

Gall, yn anffodus.  Weithiau, gall effeithio ar ran gwahanol o’r llinyn cefn. Os yw’r symptomau uchod yn dychwelyd neu’n gwaethygu’n sydyn, bydd angen i chi gysylltu â’ch meddyg teulu ar unwaith.

 

 

 

 

Geirfa

 

Cathetr – Tiwb hyblyg, tenau, bach sy’n draenio wrin o’r bledren i fag casglu plastig, y gellir ei wacau fel bo’r angen.

 

Malaen – Mae hwn yn ganser â’r potensial i ledaenu i rannau eraill o’r corff.

 

Marcio - Ystafell yn yr ysbyty sy’n cynnwys peiriannau arbennig lle caiff eich triniaeth radiotherapi ei chynllunio. Caiff ei hadnabod hefyd fel efelychydd neu gynllunio.

 

Sgan MRI (Delweddu Cyseinedd Magnetig) - Mae hwn yn fath arbennig o sgan. Mae taflen wybodaeth ar wahân ar gael.

 

Parlys – Colli pŵer neu deimlad mewn unrhyw ran o’r corff.

 

Radiotherapi – Mae hwn yn driniaeth ar gyfer canser sy’n defnyddio pelydr-x ynni uchel.

 

Canserau eilaidd - Os yw canser wedi lledaenu i ran arall o’r corff, yna caiff ei ddisgrifio fel canser eilaidd.

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael gan:

 

Yr adran ffisiotherapi          029 2061 5888 est 6340

 

Macmillan                                 0808 808 2020

www.macmillan.org.uk

 

Tenovus                                   0808 808 1010

www.tenovus.com

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r daflen wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob 2 flynedd.