Neidio i'r prif gynnwy

Taflen wybodaeth ar ddadebru cardio-pwlmonaidd (CPR)

Taflen wybodaeth ar ddadebru cardio-pwlmonaidd (CPR)

 

Mae’r daflen hon yn esbonio sut y byddwn yn ceisio bodloni unrhyw ddymuniadau personol sydd gennych am ddadebru cardio-pwlmonaidd (CPR). Bydd y daflen yn esbonio ystyr CPR, sut mae’n berthnasol i chi a sut y caiff penderfyniadau eu gwneud. Gwyddom fod hwn yn fater sensitif iawn. Fodd bynnag, teimlwn ei bod yn bwysig i chi gael y wybodaeth hon fel y gallwch drafod eich dymuniadau gyda ni a’r rhai sy’n agos atoch. Teimlwn hefyd y byddech am i ni fod yn agored ac yn onest gyda chi am hyn.

 

 

Beth yw dadebru cardio-pwlmonaidd?

Mae dadebru cardio-pwlmonaidd (CPR) yn cynnwys defnyddio triniaeth frys i geisio ailgychwyn eich calon a’ch anadlu os bydd y rhain yn stopio. Gallai CPR gynnwys:

 

  • tylino eich brest yn ddwys (tylino cardiaidd allanol)
  • defnyddio siociau trydanol (dadebrydd) i geisio ailgychwyn eich calon
  • anadlu ‘ceg wrth geg’
  • rhoi aer yn eich ysgyfaint drwy fasg neu diwb wedi’i roi yn eich pibell wynt (awyru)

 

Er bod modd rhoi triniaeth frys i chi ar unwaith yma yn Ysbyty Felindre, os bydd angen rhagor o driniaeth arnoch, byddem yn eich trosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru neu ysbyty arall yn ôl yr angen. Ymhlith yr enghreifftiau o driniaethau eraill allai fod yr angen i’ch cysylltu â pheiriant sy’n hysbys fel peiriant anadlu; byddai hyn mewn Uned Gofal Dwys.

 

 

Pam ddylwn ystyried CPR?

Deallwn ei bod yn gallu bod yn anodd iawn ystyried diwedd eich oes, er bod gan lawer o bobl farn gref am yr hyn maent am ei gael neu’r hyn nad ydynt am ei gael. Mae llawer o bobl yn bendant eu bod am farw’n naturiol pan ddaw’r amser.

 

Ni ddylech ofidio os sonnir am CPR. Mae’n bwysig bod yr holl gleifion, gan gynnwys y rhai nad ydynt mewn perygl yn uniongyrchol, yn gyfarwydd â CPR a’u bod yn cael y cyfle i ddweud wrthym am eu dymuniadau. Rhowch wybod i ni os oes gennych ddymuniadau pendant am hyn.

 

A yw CPR yn cael ei ddefnyddio ar bawb y mae eu calon a’u hysgyfaint wedi stopio gweithio?

Ydy.  Byddem yn ceisio rhoi CPR bob amser oni bai ein bod wedi sylweddoli ymlaen llaw na fyddai’n ddefnyddiol a bod marwolaeth ar ddod yn naturiol. Os na fyddai’n briodol rhoi cynnig ar CPR oherwydd hyn, bydd y meddyg yn ysgrifennu yn y nodiadau meddygol y dylid caniatáu marwolaeth naturiol.

 

Pa mor debygol yw CPR o’m dadebru?

Bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm dros fethiant eich calon a’ch ysgyfaint a hefyd unrhyw salwch sydd gennych. Mae astudiaethau ymchwil wedi dangos mai pur anaml y bydd CPR yn llwyddiannus yn achos cleifion sydd â chanser datblygedig.

 

Ond beth os ydw i am gael popeth?

Mae pob triniaeth yn Felindre yn ceisio trin eich canser a chynigir popeth i chi a fydd yn eich helpu. Mae penderfyniad am roi cynnig ar CPR yn ymwneud â CPR yn unig. Nid yw’n effeithio ar unrhyw driniaeth arall y byddwch yn ei chael.

 

Mae llawer o bobl yn teimlo eu bod am gael pob math o driniaeth, ond os na fydd hynny’n bosibl mwyach, mae ceisio ymestyn ansawdd bywyd gwael yn ddi-bwrpas. Mae pob un ohonom yn cyrraedd pwynt pan fydd ein calonnau’n stopio ac yna, byddwn yn marw. Os bydd achos brys yn codi, bydd y tîm o feddygon, nyrsys ac eraill sy’n gofalu amdanoch yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu, gan ystyried eich dymuniadau a hefyd dymuniadau’r sawl sy’n agos atoch chi.

 

Alla’ i newid fy meddwl?

Gallwch. Os byddwch yn newid eich meddwl ar unrhyw adeg, rhowch wybod i aelod o’ch tîm.

 

 phwy alla’ i siarad am hyn?

Gallwch siarad â’r nyrs neu’r meddyg sy’n gofalu amdanoch. Os na allant ateb pob un o’ch cwestiynau, byddwn yn trefnu i siarad â chi rywdro arall neu i chi siarad â rhywun arall.

 

Os teimlwch yr hoffech farw heb i ni roi cynnig ar CPR pan ddaw’r amser, rhowch wybod i’r staff sy’n gofalu amdanoch fel bod modd iddynt sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu bodloni.

 

 

Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen hon ei chymeradwyo gan dîm o feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.