Neidio i'r prif gynnwy

Steroid Therapy record

Therapi steroidau

                                        

 

Mae'r daflen hon ar gyfer pobl sydd angen cymryd meddyginiaeth steroidau. Mae rhai pobl yn profi sgil-effeithiau o fewn dyddiau felly rydyn ni’n eich cynghori i ddarllen y daflen er mwyn bod yn ymwybodol o'r problemau posibl a beth allwch chi ei wneud.

 

Rhaid ichi gadw’ch Cerdyn Triniaeth Steroidau Cenedlaethol gyda chi bob amser.  Defnyddiwch y cerdyn i helpu'r meddygon a'r nyrsys sy'n ymwneud â'ch gofal i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cynnydd ar steroidau. 

 

Dewch â’r cerdyn i bob apwyntiad ysbyty a phob apwyntiad meddyg teulu.

 

Beth yw steroidau?

 

Mae gan bob un ohonon ni steroidau yn ein cyrff sy'n cael eu gwneud yn naturiol. Weithiau mae angen inni gymryd meddyginiaeth steroidau i drin cyflyrau penodol.  Mae cymryd meddyginiaeth steroidau dros dro yn lleihau faint o steroidau naturiol mae eich corff yn ei wneud.  Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth steroidau am fwy na thair wythnos, mae'n bwysig lleihau'n araf faint o feddyginiaeth steroidau rydych chi'n ei gymryd a pheidio â rhoi’r gorau iddi yn sydyn.  Mae hyn yn rhoi amser i’ch corff ddechrau gwneud steroidau naturiol eto.

 

 

 

 

Beth yw triniaeth steroidau?

 

Gall cymryd meddyginiaeth steroidau helpu i drin cyflyrau penodol. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn ticio’r blwch sy’n berthnasol i chi:

 

  • Atal cyfog a chwydu
  • Lleihau sgil-effeithiau imiwnotherapi
  • Helpu i wella chwant bwyd
  • Helpu'r teimlad o les
  • Lleihau llid a chwyddo
  • Lleddfu poen
  • Er mwyn lleddfu cywasgiad yn y nerfau
  • Asthma a chlefyd cronig yr ysgyfaint
  • Fel rhan o driniaeth cemotherapi neu radiotherapi
  • Therapi amnewid os nad yw'ch corff yn gwneud digon o steroidau yn naturiol
  • Arall – rhowch y manylion

 

 …………………………………………………………..

 

 

Beth yw cerdyn steroidau?

 

Rhaid i bob claf sydd wedi cael steroid ar gyfer y cyflyrau uchod gario Cerdyn Triniaeth Steroidau Cenedlaethol bob amser. Bydd y cerdyn yn cael ei roi ichi gan yr adran fferylliaeth, y staff nyrsio neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

 

Efallai eich bod eisoes yn cario Cerdyn Triniaeth Steroidau Cenedlaethol ar gyfer cyflwr gwahanol ond pan fo steroidau’n cael eu rhoi fel rhan o drefn cemotherapi byddwch chi’n cael y Cerdyn Triniaeth Steroidau Cenedlaethol glas ar gylch 1. Rhaid ichi gadw hwn gyda chi bob amser tra byddwch chi’n cael y driniaeth. Yna dylech gadw'r cerdyn gyda chi am 12 mis ar ôl i'r driniaeth ddod i ben. Mae hyn yn bwysig oherwydd os byddwch chi’n dod i gysylltiad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall gallwch ddangos y cerdyn iddyn nhw ac fe fyddan nhw’n ymwybodol eich bod wedi cael steroidau yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Mae'r Cerdyn Triniaeth Steroidau Cenedlaethol yn cynnwys cod QR sydd, o’i sganio, yn rhoi mynediad i gleifion i gopïau electronig o'r Cerdyn Triniaeth Steroidau Cenedlaethol a all gael eu lawrlwytho i ddyfais symudol fel ffôn neu dabled.

 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau?

 

Gall steroidau achosi annigonolrwydd adrenal neu argyfwng adrenal: disgrifir yr arwyddion a'r symptomau isod yn y tabl. Os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau canlynol wrth gymryd meddyginiaeth steroidau, cysylltwch â'ch meddyg, eich nyrs neu’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar unwaith.

 

Annigonolrwydd Adrenal

STEROIDAU Isel:

Argyfwng Adrenal

5 S

Awydd am sodiwm, siwgr a halen.

Blinder a gwendid yn y cyhyrau.

Anghydbwysedd electrolytau – potasiwm uchel neu galsiwm uchel.

Newidiadau atgenhedlu – Cylchred mislif afreolaidd – Camweithrediad codiad.

Pwysedd gwaed isel

Lliw amlycach yn y croen.

Dolur rhydd, Iselder.

Colli pwysau.

Poen sydyn – stumog, cefn, coesau.

Syncope.

Sioc.

Pwysedd gwaed eithriadol o isel.

Chwydu, dolur rhydd a chur pen difrifol.

 

 

Gall meddyginiaeth steroidau achosi lefelau siwgr uchel yn y gwaed.  Mae hyn yn effeithio ar bobl sydd heb ddiabetes yn ogystal â phobl ddiabetig.  Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o symptomau lefelau siwgr uchel yn y gwaed.  Os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau canlynol wrth gymryd meddyginiaeth steroidau, cysylltwch â'ch meddyg neu’ch nyrs ar unwaith:

 

  • Angen pasio dŵr yn aml, neu basio dŵr yn amlach yn ystod y nos
  • Chwant bwyd neu syched eithafol
  • Dryswch a syrthni
  • Anadl ceton (anadl ag arogl melys arno – fel losin ‘pear drops’)
  • Golwg aneglur
  • Cysgadrwydd
  • Cyfog
  • Gwendid cyffredinol a chrampiau yn eich coesau

 

Efallai y byddwn ni’n gofyn ichi ddarparu sampl wrin neu sampl gwaed er mwyn inni wirio’ch lefelau siwgr.

 

Gall meddyginiaeth steroidau achosi diffyg traul neu ddŵr poeth. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg a all ragnodi meddyginiaeth i leihau’r asid yn eich stumog / amddiffyn eich stumog. 

Gall meddyginiaeth steroidau achosi sgil-effeithiau eraill hefyd.  Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r canlynol:

  • Gwendid yn y coesau (fel anhawster wrth godi o’r gadair)
  • Gwaedu neu gleisio annisgwyl
  • Chwyddo yn eich wyneb
  • Magu pwysau neu chwyddo yn y fferau
  • Acne
  • Anniddigrwydd neu dymer flin
  • Diffyg cwsg
  • Blas drwg neu glytiau gwyn yn eich ceg

 

 

Cynghorion i'ch helpu

Dilynwch gyngor eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd a rhowch wybod am unrhyw broblemau sydd gennych, hyd yn oed os ydych chi’n credu nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’r steroidau o bosibl.

 

Pethau i’w gwneud

 

Cariwch eich cerdyn steroidau bob amser.  Dangoswch y cerdyn i'r meddyg, y deintydd neu’r fferyllydd cyn ichi gael triniaeth neu feddyginiaeth.

 

Dywedwch wrth eich meddyg os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol eraill gan y gallen nhw effeithio ar eich triniaeth steroidau.  Er enghraifft:

  • Diabetes
  • Pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd)
  • Osteoporosis
  • TB (Twbercwlosis)
  • Unrhyw haint tra byddwch chi’n cymryd meddyginiaeth steroidau
  • Neu os ydych chi eisoes yn cymryd unrhyw steroidau eraill

 

Cymerwch eich steroidau gyda bwyd neu ddiod laeth.  Os nad yw hyn yn bosibl, dywedwch wrth eich meddyg oherwydd efallai y bydd angen tabled arall arnoch i leihau’r asid yn y stumog.

 

Ceisiwch gofio enw a chryfder eich meddyginiaeth steroidau.  Er enghraifft, gall fod yn dexamethasone 2mg (miligram), 500 microgram, betamethasone 500 microgram neu prednisolone 25mg, 5mg neu 1mg.

 

Pethau i beidio â’u gwneud 

 

Peidiwch â rhoi'r gorau i steroidau yn sydyn oni bai bod eich meddyg yn dweud wrthoch chi.  Os ydych chi wedi bod yn cymryd steroidau am fwy na thair wythnos, mae angen lleihau'r dos yn araf i roi amser i'ch corff wneud ei steroidau naturiol ei hun.  Bydd hyn yn lleihau'r sgil-effeithiau ar ôl tynnu'r feddyginiaeth steroidau yn ôl.

 

Peidiwch â rhedeg allan o feddyginiaeth steroidau.  Dydyn ni ddim fel arfer yn argymell cael mwy o feddyginiaeth nag sydd ei angen arnoch.  Ond, wrth i’ch anghenion newid efallai y bydd eich dos o steroidau’n cynyddu felly rydyn ni yn aml yn rhagnodi mwy o steroidau nag sydd eu hangen arnoch i orffen y cwrs steroidau arfaethedig.

 

Peidiwch â chymryd aspirin neu gyffuriau lladd poen 'heb steroidau' (NSAIDs) fel ibuprofen neu diclofenac heb holi’ch meddyg neu’ch fferyllydd yn gyntaf.  Gall y rhain gael sgil-effeithiau tebyg i steroidau a chynyddu’ch siawns o ddŵr poeth neu ddiffyg traul.

 

Peidiwch â chymryd eich meddyginiaeth steroidau yn hwyr yn y dydd oherwydd efallai y bydd yn eich atal rhag cysgu.  Siaradwch â'ch meddyg neu’ch nyrs am yr amser gorau i'w chymryd.  Rydyn ni fel arfer yn argymell ei chymryd naill ai unwaith y dydd gyda brecwast neu ddwywaith y dydd gyda brecwast a chinio.  Os ydyn ni wedi dweud wrthoch chi am gymryd eich steroidau dair gwaith y dydd, ddylech chi ddim cymryd eich dos olaf yn hwyrach na 6pm.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

Wedi’i pharatoi Chwefror 2020   

Wedi’i hadolygu Gorffennaf 2021