Neidio i'r prif gynnwy

Specialist Supportive Care Nurse

Nyrs Arbenigol (Gofal Cynorthwyol)

 

Mae’r daflen hon yn esbonio rôl y Nyrs Arbenigol (Gofal Cynorthwyol), Michele Pengelly. Bydd yn dweud wrthych beth gall Michele ei wneud i chi a’ch teulu, a sut gallwch gysylltu â hi.

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Beth yw nyrs arbenigol?

Mae Michele yn nyrs canser profiadol iawn sydd wedi gweithio ym maes gofal canser ers dros 25 mlynedd, ac mae ganddi gymwysterau arbenigol mewn gofal canser. Mae’n rhoi cymorth ychwanegol i gleifion a’u teuluoedd. Mae wedi’i lleoli’n bennaf ar wardiau ac uned ddydd Ysbyty Felindre.

 

Sut galla i gyfarfod â Michele?

Gofynnwch i un o’r staff nyrsio gysylltu â Michele ar eich rhan.

 

Pa fath o gymorth a help all Michele eu rhoi?

Mae nifer o ffyrdd y gall Michele eich cynorthwyo chi a’ch teulu tra’r ydych yn yr ysbyty. Er enghraifft:

 

  • Gall gynnig amser i wrando os oes pethau rydych chi eisiau eu trafod, a’ch helpu o ystyried pethau.
  • Gall roi unrhyw wybodaeth ysgrifenedig neu wefannau i chi. Y rheswm dros hyn yw er mwyn i chi gael mwy o wybodaeth am eich salwch, eich triniaeth ac unrhyw gynlluniau yn y dyfodol o ran eich gofal.
  • Gall siarad am unrhyw wybodaeth sydd eisoes wedi cael ei rhoi i chi, nad oeddech yn ei deall yn llwyr.
  • Yn dilyn cais gennych, gall drefnu i chi neu’ch teulu gael siarad â’ch meddyg neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall, fel gweithiwr cymdeithasol, ymgynghorydd hawliau lles, rheolwr gwybodaeth cleifion.

 

Pryd fydda i’n gallu gweld Michele?

Mae Michele fel arfer yn gweithio ar y wardiau ar y diwrnodau canlynol:

 

Dydd Llun                   9.30am – 6.30pm

Dydd Mawrth               4.30pm – 12.30am

Dydd Mercher             9.30am – 6.30pm

Dydd Iau                     9.30am – 6.305pm

Dydd Gwener             Dim mewn    

 

Beth os nad yw Michele ar gael?

Mae adegau pan nad yw Michele ar gael. Bydd y staff nyrsio neu switsfwrdd Felindre yn gallu gwirio â yw hi ar gael. Mae’n bwysig, os ydych angen trafod rhywbeth ar frys, eich bod yn siarad ag un o’n timau nyrsio neu dimau meddygol.

 

Ystafell y Plant

Mae Michele hefyd yn gyfrifol am ofalu am ein hystafell ymwelwyr i blant. Dyma ble gall unrhyw glaf sydd â phlentyn neu blant yn ymweld â nhw, i dreulio amser gyda’i gilydd.

 

Mae’r ystafell yn ardal hyfryd, gyfeillgar i blant, i ffwrdd o’r prif wardiau. Mae’n cael ei threfnu ar gyfer un teulu ar y tro. Mae lle chwarae dan do ac yn yr awyr agored yno, teledu, fideo a chonsol playstation, a chyfleusterau gwneud te a choffi. Os hoffech weld yr ystafell, bydd un o nyrsys y ward yn falch o’i dangos i chi.

 

 

 

 

 

Lion's den

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Michele Pengelly                             029 2061 5888

Gofynnwch am beiriant galw 226 neu’r peiriant ateb ar estyniad 6452.