Neidio i'r prif gynnwy

PICC line

Taflen wybodaeth i gleifion sy’n cael llinyn PICC (cathetr canolog wedi’i osod yn berifferol) yng Nghanolfan Ganser Felindre

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion sy’n cael llinyn PICC. Bydd yn esbonio ystyr llinyn PICC, a’r hyn i’w ddisgwyl ar ddiwrnod gosod y llinyn PICC. Bydd yn rhoi gwybod i chi sut mae gofalu am eich llinyn PICC a’r hyn y mae angen i chi edrych amdano. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen.

 

 

 

 

 

Beth yw llinyn PICC?

Mae llinyn PICC yn diwb hir a gwag sy’n cael ei osod mewn gwythïen yn rhan uchaf eich braich a’i osod ymhellach i fyny’r wythïen hyd nes ei fod yn cyrraedd yr wythïen fawr uwchben eich calon. Caiff ei ddefnyddio i roi triniaethau megis cemotherapi, cyffuriau gwrthfiotig a hylifau mewnwythïennol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gymryd samplau gwaed.

 

Llinyn PICC yw enw arall ar linyn canolog.  

 

 

Pam mae angen llinyn PICC arnaf?

Mae angen llinyn PICC arnoch am un o’r rhesymau canlynol:

 

  • Mae modd rhoi’r math o driniaeth y mae’ch meddyg wedi’i ragnodi drwy linyn canolog yn unig
  • Mae modd defnyddio’r llinyn PICC yn hytrach na rhoi nodwyddau yn eich breichiau sy’n gallu bod yn boenus
  • Mae’n bosibl y bydd angen triniaeth arnoch y bydd angen ei rhoi i chi gartref drwy bwmp arbennig
  • Mae’n bosibl y bydd y gwythiennau bach yn eich breichiau neu yng nghefn eich dwylo wedi dod yn boenus ar ôl triniaethau blaenorol

 

Am ba hyd fydd fy llinyn PICC yn aros yn ei le?

Gall eich llinyn PICC aros yn ei le hyd nes bod eich triniaeth wedi dod i ben cyn belled nad oes unrhyw gymhlethdodau.

 

 

 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn gosod y llinyn PICC?

Mae angen i ni wybod os ydych yn cymryd warfarin gan y bydd angen prawf gwaed warfarin arnoch ar y diwrnod cyn gosod eich PICC. Os ydych yn cymryd warfarin, ffoniwch 029 2061 5888 a gofynnwch am beiriant galw 157 neu 179 o leiaf ddeuddydd cyn eich apwyntiad am linyn PICC. Gallwch ffonio 029 2031 6978 hefyd a gadael neges ar y peiriant ateb.

 

Mae angen i ni eich profi am MRSA cyn gosod eich llinyn PICC. Bacteria sy’n byw’n ddiniwed ar groen rhai pobl yw hwn. Byddwn yn cymryd swab o’ch morddwyd a’ch trwyn. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael canlyniad negatif. Os cewch ganlyniad positif, gallwn roi eli a throchdrwythau i chi er mwyn lleihau’r risg o heintio ag MRSA.

 

 

Pwy fydd yn gosod y llinyn PICC yn ei le?

Bydd nyrs uwch a hyfforddwyd yn arbennig yn gosod eich llinyn PICC yn ei le.

 

I ble byddaf yn mynd i chi osod fy llinyn PICC?

Caiff eich PICC ei osod yn y clinig PICC sy’n cael ei gynnal yn yr adran pelydr-x. Mae hwn wedi’i leoli ar y llawr gwaelod yng Nghanolfan Ganser Felindre.

 

Rydym yn gosod rhai llinynnau PICC yn Uned Macmillan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Os ydych wedi cael apwyntiad yn y clinig hwn, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi ar wahân am sut i ddod o hyd iddo. Os na fyddwch wedi’i dderbyn, ffoniwch y rhifau ar ddiwedd y daflen.

 

 

Mae’n bosibl y byddwn yn eich ffonio er mwyn cadarnhau eich apwyntiad. Dylech geisio bod yn brydlon ar gyfer eich apwyntiad.

 

Os na allwch ddod i’ch apwyntiad PICC, ffoniwch 029 2031 6978 a gadael neges ar y peiriant ateb.  

 

Faint o amser bydd yn ei gymryd?

Bydd eich apwyntiad yn cymryd rhwng dwy a thair awr. Fel arfer, mae’n cymryd tua 30 munud i osod y llinyn PICC. Am weddill yr amser, byddwn yn esbonio eich llinyn PICC i chi, gan gymryd pelydr-x o’ch llinyn PICC ac yn rhoi gorchudd dros y llinyn PICC.

 

 

A fydd yn brifo?

Byddwn yn rhoi pigiad anesthetig i chi er mwyn fferu’r man cyn gosod y llinyn. Ni ddylai frifo. Nid yw rhai cleifion yn ei deimlo o gwbl ond bydd eraill yn teimlo crafiad bach.

 

Alla’ i fwyta ac yfed yn ôl fy arfer?

Gallwch fwyta brecwast neu gael cinio ysgafn. Gallwch yfed yn ôl eich arfer.

 

 

Beth mae angen i mi ei wisgo?

Gallwch wisgo eich dillad bob dydd arferol. Bydd llewys llac a byr yn helpu. Byddwn yn gofyn am i chi dynnu unrhyw emwaith o amgylch eich gwddf. Gofynnir i fenywod dynnu eu bra cyn y driniaeth.

 

 

 

 

A all perthynas neu ffrind aros gyda mi?

Gall un perthynas neu ffrind fod gyda chi ar adeg gosod eich llinyn. Mae man aros yn y clinig PICC i unrhyw un nad yw am wylio’r llinyn yn cael ei osod.

 

Alla’ i yrru adref ar ôl i’r llinyn PICC gael ei osod?

Gallwch yrru adref ar ôl i’ch llinyn PICC gael ei osod cyn belled â’ch bod yn teimlo’n iach a’ch bod yn gallu gyrru.

 

Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod fy apwyntiad?

Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y driniaeth ac yn trafod unrhyw gymhlethdodau posibl. Yna byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd.

 

Bydd y nyrs yn gwisgo masg, gŵn, het a menig wrth osod eich llinyn PICC er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei gadw mor lân â phosibl. Byddwn hefyd yn defnyddio gorchuddion i sicrhau bod yr ardal gyfagos yn cael ei chadw’n lân.

 

Byddwn yn rhoi pigiad anesthetig i chi yn eich braich cyn gosod y llinyn PICC. Mae hwn yn ymestyn dros y rhan o’r croen dros eich gwythiennau. Bydd yn fferu’r croen er mwyn gwneud y driniaeth mor ddi-boen â phosibl.

 

Caiff eich llinyn PICC ei osod gyda chymorth peiriant uwchsain. Mae hwn yn rhoi sgrin i’r nyrs edrych arni er mwyn arwain y llinyn PICC i’r lleoliad cywir.

 

 

 

 

 

Sut byddwch yn gwybod bod fy llinyn PICC wedi’i osod yn gywir?

Byddwch yn cael pelydr-x ar eich brest ar ôl i’ch llinyn PICC gael ei osod. Bydd yn rhoi gwybod i ni a yw’ch llinyn PICC wedi’i osod yn iawn.

 

Weithiau bydd y llinyn yn mynd i’r cyfeiriad anghywir yn yr wythïen – er enghraifft i wythïen y gwddf. Nid yw hyn yn beryglus ac mae modd ei ddatrys fel arfer pan fydd y nyrs PICC yn symud y llinyn PICC i’r lleoliad cywir.

 

Sut mae’r llinyn PICC yn aros yn ei le?

Ni chaiff y llinyn PICC ei bwytho yn ei le. Caiff ei gadw yn ei le gyda statlock. Darn gludiog o blastr yw hwn sy’n cael ei roi ar y croen ac yna caiff y llinyn PICC ei atodi iddo. Gweler y ffotograff ar y dudalen flaen.

 

 

Beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â gosod llinyn PICC?

Mae rhai risgiau’n gysylltiedig â gosod llinyn PICC ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod y risgiau hyn yn hynod brin. Ymhlith y risgiau mae:

 

  • Gosod y llinyn PICC mewn rhydweli yn hytrach na gwythïen
  • Gwaedu gormodol o’r wythïen (dylech roi gwybod i’r nyrs os ydych yn cymryd tabledi sy’n teneuo’r gwaed megis warfarin neu aspirin).

 

 

A yw’n bosibl na fydd y nyrs yn gallu gosod fy llinyn PICC?

Weithiau nid ydym yn llwyddiannus wrth osod llinyn PICC. Gall hyn ddigwydd am lawer o resymau. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

  • Anhawster wrth geisio mynd i mewn i’ch gwythïen
  • Gallai eich gwythïen fod yn rhy fach i’r llinyn PICC fynd i fyny eich braich
  • Mae’n bosibl y bydd eich gwythïen wedi’i niweidio gan nodwyddau neu driniaethau blaenorol
  • Mae’n bosibl na fydd eich llinyn PICC yn cyrraedd y man cywir
  • Llawdriniaeth neu anaf blaenorol i ardal yr ysgwydd, y gwddf neu’r frest

 

Os na allwn osod eich llinyn PICC, mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn penderfynu newid eich triniaeth neu osod llinyn canolog o fath arall. Llinyn Hickman yw’r enw ar hwn. Byddai angen i chi ddod yn ôl ar ddiwrnod arall er mwyn i ni osod llinyn Hickman.

 

 

A fydd angen i mi ddod i Felindre er mwyn i chi wirio fy llinyn PICC?

Bydd.  Bydd angen i chi ddod i Uned Ddydd Rhosyn neu’r adran cemotherapi rhwng 24 a 72 awr ar ôl gosod eich llinyn PICC. Mae’r apwyntiad hwn yn bwysig gan ein bod yn sicrhau bod popeth yn dda gyda’ch llinyn ac yn newid eich gorchudd.

 

Bydd eich nyrs PICC yn trefnu eich apwyntiad ar gyfer y gwiriad PICC hwn cyn i chi adael y clinig PICC.

 

 

Pa broblemau a allai ddigwydd o ran y llinyn PICC pan fyddaf gartref?

Bydd eich nyrs PICC yn trafod y cymhlethdodau posibl yn fanylach cyn i chi lofnodi eich ffurflen ganiatâd. Ymhlith y cymhlethdodau posibl mae:

 

  • Heintiau
  • Ffurfio ceulad gwaed (thrombosis)
  • Rhwystr yn y llinyn  (achludiad)
  • Y llinyn yn symud (ymfudiad)
  • Gwaedu
  • Difrod i’r llinyn

 

O beth ddylwn fod yn ymwybodol tra bod fy llinyn PICC yn ei le?

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o’r canlynol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 12.

 

  • Teimlo’n ‘grynedig’ neu’n sâl ar ôl fflysio’r llinyn PICC
  • Unrhyw gochni neu boen
  • Chwyddo o ran eich braich, eich gwddf neu’ch ysgwydd
  • Mae’r llinyn PICC y gallwch ei weld yn edrych yn hwy neu’n fyrrach
  • Gwaedu yn y man neu o amgylch y man lle bo’r llinyn PICC yn mynd i mewn i’ch braich
  • Hylif yn gollwng o amgylch y croen lle mae’ch llinyn PICC yn mynd i mewn i’ch braich
  • Poen neu anghysur i’ch croen o dan y gorchudd

Pwy fydd yn gofalu am fy llinyn PICC?

Rydych chi, Canolfan Ganser Felindre a’r nyrsys cymunedol yn gyfrifol am ofalu am eich llinyn. Gofynnwn i chi dderbyn rhai o’r cyfrifoldebau. Y rhain yw:

 

  • Rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre yn unig am unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl
  • Defnyddio eich braich yn y ffordd arferol – mae hyn yn bwysig er mwyn lleihau’r risg o gymhlethdodau.
  • Gwybod pryd mae’ch llinyn PICC wedi’i fflysio a’i orchuddio a phan fod angen newid y statlock

 

Sut mae gofalu am fy llinyn PICC?

Bydd angen gosod gorchudd dros eich llinyn PICC a’i fflysio unwaith yr wythnos. Caiff terfyn y cysylltydd ei newid bob wythnos. Caiff y ddyfais statlock ei newid unwaith bob pedair wythnos.

 

Bydd nyrs cymunedol yn dod i’ch cartref unwaith yr wythnos i ofalu am eich llinyn. Os na fydd eich nyrs cymunedol yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i osod eich llinyn PICC, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre – mae’r tudalennau ffôn ar dudalen 12.

 

Os yw nyrs yn yr ysbyty wedi fflysio eich llinyn neu fod gennych bwmp arbennig wedi’i gysylltu â’ch llinyn, bydd ond angen i’ch nyrs cymunedol newid y gorchudd.

 

Os ydych yn cael triniaeth radiotherapi bob dydd, mae’n bosibl y caiff eich gorchudd ei newid ac y caiff eich llinyn PICC ei fflysio ar Uned Ddydd Rhosyn. Rhowch wybod i’ch nyrs PICC os ydych i gael triniaeth radiotherapi bob dydd.

 

 

A oes unrhyw weithgareddau na ddylwn eu gwneud gyda llinyn PICC wedi’i osod yn fy mraich?

Gallwch barhau i gyflawni eich gweithgareddau arferol pan fo llinyn PICC wedi’i osod ond mae rhai pethau y mae angen i chi eu hosgoi. Ni ddylech nofio, codi pwysau, chwarae golff na chario eitemau trwm iawn. Gallai gweithgareddau fel y rhain achosi i’ch llinyn PICC symud i wythïen arall yn y frest.

 

Beth am gael cawod neu fath?

Bydd angen i chi gadw eich llinyn PICC yn sych pan fyddwch yn cael cawod neu fath. Mae hyn yn bwysig iawn gan y gall achosi i’r gorchudd fynd yn llac neu ddechrau haint. Gallwch ddefnyddio llawes dal dŵr. Byddwn yn rhoi manylion i chi am un y gallwch ei harchebu os byddwch am i ni wneud hynny.

 

 

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn mynd i ysbyty arall? Os eir â chi i ysbyty arall ac eithrio Felindre neu y byddwch yn ymweld ag ysbyty lle maent yn defnyddio’ch llinyn PICC, ffoniwch Felindre ar y galwr cemotherapi er mwyn rhoi gwybod i ni.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Canolfan Ganser Felindre

Heol Felindre

Yr Eglwys Newydd

Caerdydd

CF14 2TL

Rhifau ffôn cyswllt

Gobeithiwn fod y daflen hon wedi ateb eich cwestiynau. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill neu broblemau gyda’ch PICC, cysylltwch â:

 

 

Chanolfan Ganser Felindre    029 2061 5888

Os byddwch yn sâl gartref neu fod angen i chi siarad â ni am eich PICC, gofynnwch am beiriant galw cemotherapi

 

 

Ward cemotherapi                  029 2061 5888 est. 6247 

 

 

Llinell cymorth

 canser Tenovus                     0808 808 1010

 

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â chanser

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

Adolygwyd Mai 2011