Neidio i'r prif gynnwy

Hair Loss

Gwybodaeth am golli gwallt yn ystod

 triniaethau canser

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i bobl a allai golli eu gwallt o ganlyniad i’w triniaeth am ganser. Mae’r daflen yn esbonio sut i ofalu am eich gwallt yn ystod eich triniaeth a sut y gallai cemotherapi, radiotherapi a therapïau hormonaidd effeithio ar eich gwallt. Mae’n rhoi gwybodaeth am ddewisiadau penwisg megis sgarffiau, twrbanau a hetiau. Mae hefyd yn sôn am wigiau ac yn dweud wrthych sut i ddewis, prynu a gofalu am eich wig. Mae gwefannau ar gyfer rhagor o wybodaeth a chyflenwyr wigiau lleol wedi’u rhestru yng nghefn y llyfryn hwn.

 

A fydd fy nhriniaeth yn achosi i mi golli fy ngwallt?

Bydd rhai mathau o gemotherapi a radiotherapi i groen y pen yn achosi i chi golli gwallt. Gallai hyn amrywio o’r gwallt yn teneuo i golli eich gwallt yn gyfan gwbl. Bydd eich meddyg, eich nyrs neu’ch radiograffydd yn rhoi gwybod i chi os yw’ch triniaeth yn debygol o achosi i chi golli eich gwallt.

 

Gofalu am eich gwallt

Hyd yn oed os nad yw’ch gwallt yn cwympo allan, gall triniaeth ei wneud yn sych ac yn frau. Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i ofalu am eich gwallt:

  • Defnyddio ‘siampŵ babanod’ ysgafn
  • Defnyddio dŵr llugoer, nid dŵr poeth i olchi eich gwallt
  • Ceisio peidio â golchi eich gwallt yn rhy aml
  • Sychu eich gwallt yn ofalus gyda thywel meddal
  • Bod yn ofalus wrth gribo neu frwsio eich gwallt
  • Osgoi sychwyr gwallt poeth, rholeri poeth a haearn gwallt
  • Osgoi defnyddio cemegolion megis pyrmiau neu liwiau

 

Paratoi i golli gwallt

Os ydych wedi cael gwybod y gallech golli eich gwallt, gallai fod yn ddefnyddiol i chi dorri eich gwallt yn fyr cyn i’ch triniaeth ddechrau. Bydd hyn yn lleihau pwysau’r gwallt ar groen eich pen felly mae’n bosibl y bydd yn lleihau i ba raddau y byddwch yn colli gwallt.

 

Mae cemotherapi, radiotherapi a therapïau hormonaidd yn effeithio ar eich gwallt mewn ffyrdd gwahanol:

 

Colli gwallt drwy gemotherapi

Mae’n bosibl y bydd eich gwallt yn teneuo neu y byddwch yn colli eich gwallt yn gyfan gwbl. O bryd i’w gilydd, gall y triniaethau effeithio ar yr aeliau, blew’r amrannau, blew’r trwyn, y farf, y mwstas a blew’r corff. Byddwn yn trafod gyda chi i ba raddau y byddwch yn colli eich gwallt a beth sy’n arferol gyda’ch triniaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio o un unigolyn i’r llall.

 

Gellir oeri croen y pen yn achos rhai triniaethau cemotherapi er mwyn atal neu leihau effaith colli gwaith. Os bydd modd oeri croen y pen o ran eich triniaeth, byddwn yn trafod hyn gyda chi. Mae gennym daflen hefyd sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am oeri croen y pen.

 

Fel arfer, byddwch yn dechrau colli eich gwallt rhwng pythefnos a phedair wythnos ar ôl eich triniaeth gyntaf. O bryd i’w gilydd, gall ddigwydd ynghynt ac, i rai pobl, bydd yn digwydd yn ddiweddarach. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben. Mae bosibl y byddwch hyd yn oed yn sylwi ar rywfaint o dyfiant newydd yn ystod eich triniaeth. Gall gwallt dyfu’n ôl â lliw ac ansawdd ychydig yn wahanol.

 

Dylech osgoi bod yn yr haul gymaint â phosibl, a gwisgo het ac eli haul os byddwch allan yn yr haul. Defnyddiwch leithydd ysgafn os bydd eich pen yn sych neu’n dyner.

 

Colli gwallt drwy radiotherapi

Byddwch ond yn colli gwallt yn y rhan o’ch corff sy’n cael ei thrin. Er enghraifft, os ydych yn cael triniaeth i’ch bron neu’ch brest, mae’n bosibl y byddwch yn colli rhywfaint o flew o dan eich cesail neu o’ch brest; os ydych yn cael triniaeth i’ch pen, byddwch ond yn colli gwallt ar eich pen. Mae i ba raddau y byddwch yn colli gwallt neu flew’n dibynnu ar gryfder y driniaeth.

 

Fel arfer, byddwch yn dechrau colli gwallt ar ôl rhwng pythefnos a thair wythnos o driniaeth. Weithiau gallwch golli gwallt yn barhaol. Bydd hyn yn dibynnu ar gryfder y driniaeth. Bydd eich meddyg, eich nyrs neu’ch radiograffydd yn trafod hyn gyda chi.

 

Os bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl, gall gymryd rhwng dau a thri mis a gall y tyfiant fod yn dameidiog. Mae’n bosibl na fydd eich gwallt yr un mor drwchus ag yr oedd cyn eich triniaeth.

 

Ni ddylai’r rhan o’ch corff sydd wedi’i thrin ddod i gysylltiad â’r haul yn ystod eich triniaeth ac am flwyddyn wedi hynny. Dylech wisgo het a defnyddio eli haul ffactor 30 ar y rhan dan sylw.

 

Colli gwallt drwy driniaethau canser eraill

Gall rhai mathau eraill o driniaethau canser megis hormonau achosi i’ch gwallt deneuo, neu wneud eich gwallt yn sych ac yn frau. Dylai’ch gwallt ddechrau tyfu’n fwy trwchus o fewn ychydig wythnosau i’ch triniaeth yn dod i ben.

 

Sut bydd fy ngwallt yn cwympo allan?

Byddwch yn gweld eich bod yn colli mwy o wallt wrth frwsio neu olchi eich gwallt. Byddwch hefyd yn gweld gwallt ar eich clustog. Os cewch wybod y dylech ddisgwyl colli eich gwallt yn gyfan gwbl, byddwch fel arfer yn colli eich gwallt yn gyflym dros gyfnod o ychydig ddyddiau neu wythnosau wedi i’r broses hon ddechrau.

 

A fydd colli fy ngwallt yn boenus?

Mae rhai cleifion â phrofiad o gemotherapi’n sôn am oglais i groen y pen neu anghysur pan fydd y gwallt yn dechrau cwympo allan. Gall cyffuriau lleddfu poen ysgafn helpu (beth bynnag y byddwch yn ei gymryd at ben tost fel arfer).

 

Fodd bynnag, yn achos radiotherapi, gallai goglais, anghysur a chochni i groen y pen fod yn sgîl-effaith i’r driniaeth.

 

Colli gwallt ac amgyffrediad o’r corff

Gall colli eich gwallt newid sut rydych yn meddwl ac yn teimlo am eich corff (amgyffrediad o’r corff), a gallai effeithio ar eich hunanhyder. Gallwch siarad â’ch meddyg, eich nyrs neu’ch radiograffyddion os yw hyn wedi effeithio arnoch chi. Mae Macmillian a Gofal Canser y Fron yn llunio taflenni a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae’r rhain ar gael o’r Ganolfan Wybodaeth i Gleifion neu gweler tudalen 7 am fanylion eu gwefan a rhifau ffôn llinellau cymorth.

Penwisg

Os byddwch am orchuddio eich pen, mae llawer o ddewisiadau ar gael. Mae sgarffiau, twrbanau a hetiau ar gael mewn amrywiaeth o arddulliau a lliwiau ac maent i’w cael mewn amrywiaeth o siopau adrannol. Mae siop roddion Felindre yn gwerthu ystod eang o dwrbanau.

 

HeadStrong

Mae Gofal Canser y Fron yn cynnal sesiynau HeadStrong sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth ymarferol yn ymwneud â cholli gwallt. Byddwch yn cael apwyntiad preifat gydag ymgynghorydd hyfforddedig. Byddwch yn cael sgarff pen am ddim a bydd yn dangos i chi sut i gael y mwyaf o sgarffiau, hetiau a gwalltiau gosod. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw un sy’n debygol o golli eu gwallt drwy driniaeth am ganser, nid dim ond pobl â chanser y fron.

 

Mae HeadStrong ar gael yn Felindre. Gofynnwch i’ch nyrs am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 0845 077 1894 i drefnu apwyntiad.

 

Aeliau a blew’r amrannau

Gall colli eich aeliau a blew’r amrannau newid y ffordd rydych yn edrych. Gallwch ddefnyddio pensil aeliau i ail-greu eich aeliau. Gall cownteri harddwch mewn siopau adrannol ddangos i chi sut mae gwneud hyn. Mae rhai salonau cosmetig yn ail-greu’r aeliau gyda thatŵ. Gallwch brynu aeliau a blew amrannau ffug hefyd.

 

Rydym yn cynnal sesiynau Look Good … Feel Better bob mis sy’n rhoi cyngor arbenigol ar golur a gofal croen. Maent am ddim a byddwch yn cael bag rhoddion yn cynnwys cynnyrch. Gall hyn godi eich hwyliau yn ogystal â chaniatáu i chi dreulio prynhawn pleserus gyda menywod eraill sydd naill ai wedi cael triniaeth neu sy’n ei chael ar hyn o bryd. Ffoniwch 029 2061 5888 est. 6977 am ragor o wybodaeth neu i gadw lle.

 

Wigiau

Mae’n bosibl y byddwch yn awyddus i wisgo wig neu wallt gosod. Mae wigiau ar gael mewn llawer o arddulliau a lliwiau gwahanol. Mae catalogau ar gael yn yr adran cleifion allanol ac ar bob ward yn Ysbyty Felindre.

 

Fel arfer, rydym yn siarad am wigiau yn ystod eich apwyntiad fel claf allanol wrth drafod eich triniaeth yn y lle cyntaf. Os hoffech wig, byddwn yn gofyn i chi ddewis wig a chyflenwr wigiau ac yna, i’n ffonio gyda’r wybodaeth hon fel y gallwn archebu’r wig ar eich cyfer. Gallwch ddewis unrhyw gyflenwr wigiau o’r rhestr ar dudalen 8.

 

Nid yw’r GIG yn darparu wigiau. Fodd bynnag, os bydd angen, gall Canolfan Ganser Felindre roi cymhorthdal am gost o’ch wig o hyd at £100.00. Mae hyn yn talu am gost y rhan fwyaf o wigiau. Os bydd y wig o’ch dewis yn costio mwy na £100, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth.

 

Sut ydw i’n dewis wig?

Bydd eich cyflenwr wigiau’n dangos catalog o arddulliau a lliwiau i chi er mwyn eich helpu i ddewis. Gallwch eu gwisgo a’u rhoi ar brawf er mwyn dod o hyd i’r un rydych fwyaf cyfforddus gydag ef ac yn fwyaf bodlon arno.

 

Bydd eich cyflenwr wigiau’n rhoi cyngor penodol i chi ar ofalu am eich wig. Mae modd torri a steilio eich wig i fodloni eich gofynion personol eich hun. Mae’n bosibl y bydd rhai cyflenwyr wigiau’n codi tâl arnoch am hyn neu dylai eich triniwr gwallt arferol allu gwneud hyn i chi.

 

Pan fydd eich gwallt yn tyfu’n ôl

Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar yr un cyflymdra â thyfiant gwallt arferol, sef tua hanner modfedd bob mis. Bydd yn fain iawn yn y lle cyntaf ond bydd yn mynd yn fwy trwchus. Mae’n bosibl y bydd croen eich pen yn mynd yn gennog wrth i’ch gwallt dyfu’n ôl. Pan fydd yn fyr iawn, gallwch ddefnyddio eli dyfrllyd i olchi eich gwallt. Mae’n achosi seboni a bydd yn lleithio croen eich pen ar yr un pryd. Wrth i’ch gwallt dyfu’n hwy, dylech ddefnyddio siampŵ ysgafn iawn i’w olchi’n aml. Nid yw’r rhain yn cynnwys cemegolion sy’n sychu croen y pen a’r gwallt.

 

Dylech osgoi pyrmiau, llywio a sythu eich gwallt â chemegolion am o leiaf chwe mis ar ôl triniaeth. Ar ôl hynny, bydd eich triniwr gwallt yn gallu asesu cyflwr eich gwallt a rhoi rhagor o gyngor i chi.

 

Gwefannau a llinellau cymorth

Gofal Canser y Fron                 www.breastcancercare.org.uk

                                                0808 800 6000

 

Look Good … Feel Better        www.lookgoodfeelbetter.co.uk

 

Macmillan                                 www.macmillan.org.uk

                                                0808 808 0000

 

Tenovus                                   0808 808 1010

 

Trevor Sorbie’s my new hair     www.mynewhair.org

 

Wigbank                                   www.wigbank.com

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

Contract GIG Cymru ar gyfer Darparu a Gosod Wigiau

Llyfryn Gwybodaeth i Gleifion

 

Cyfeirnod contract GIG Cymru: CLI-OJEU-52728

 

Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i ddarparu wigiau i gleifion sy’n cael triniaeth sydd wedi profi, neu a fydd yn profi, colli eu gwallt yn fuan, a hynny dros dro, am gyfnod hwy neu’n barhaol.  Mae’r llyfryn hwn yn rhoi gwybodaeth am ddarparwyr wigiau dan gontract (y cyfeirir atynt yn y llyfryn hwn fel “salonau”).  Gall cleifion fynd i’r salon dan gontract o'u dewis.  Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir yn y llyfryn hwn, gofynnir i gleifion wirio'n uniongyrchol gyda'r salonau dan gontract ynghylch oriau agor, cyfleusterau parcio a’r dewis o wigiau, gan y gallai’r rhain newid.  Mae safleoedd salon yn amrywio o ran eu hygyrchedd.  Gwiriwch eich gofynion hygyrchedd gyda'r salon cyn eich ymweliad. Mae'r llyfryn gwybodaeth hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Beth mae cyfraniad ariannol GIG Cymru yn ei gynnwys?

Mae cyfraniad ariannol GIG Cymru (y cyfeirir ato yn y llyfryn hwn fel taleb neu archeb brynu) yn cynnwys darparu a gosod/steilio ystod o wigiau neu wigiau rhannol “partials” yn llawn.  Nid yw'r daleb na’r archeb brynu yn cynnwys darparu penwisgoedd na systemau gwallt ar gyfer colli gwallt.  Gall yr ystod o wigiau a gynigir o dan y daleb neu'r archeb brynu amrywio o un salon i'r llall.  Rydym felly yn eich argymell i gysylltu â'r salonau yn uniongyrchol i benderfynu a yw eu dewis o wigiau yn cyd-fynd â'ch gofynion/dewis chi.  Mae pob salon dan gontract yn cynnig steiliau wig i bobl o liw.  Mae pob salon wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth teg, anwahaniaethol i gleifion GIG Cymru.  Mae pob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yn cynnig un wig i gleifion oncoleg/haematoleg fesul cwrs o driniaeth.  Mae cleifion dermatoleg yn cael dwy wig y flwyddyn (yn achos cleifion dermatoleg, gellir cyfuno cyfraniad ariannol GIG Cymru i brynu un wig o ansawdd uwch neu ei ddefnyddio ar wahân).

Sut ydw i’n cael fy wig?

Bydd y clinig sy'n darparu eich triniaeth yn cadarnhau'r gwerth ariannol y mae gennych hawl iddo o ran cael eich wig.  Yna gallwch chwilio am eich cyflenwr wig dewisol o'r rhestr o salonau dan gontract.  Bydd angen i chi gysylltu â'r salon yn uniongyrchol i wneud apwyntiad ar gyfer eich ymgynghoriad wig.  Pan fyddwch yn cyrraedd y salon, bydd angen i chi roi gwybod iddynt faint yw gwerth eich archeb brynu neu werth eich taleb a pha Fwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd a chlinig sy’n darparu eich gofal er mwyn iddynt anfonebu GIG Cymru yn gywir am gyflenwi’r wig.  Mae'n ofynnol i'r salonau eich hysbysu o'r dewis o wigiau y gallwch dalu amdanynt yn llawn gyda’r archeb brynu neu daleb GIG Cymru cyn trafod unrhyw wigiau drutach y gallwch gyfrannu'n ariannol atynt os dymunwch.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi taleb bapur i’r salon neu efallai y cewch rif archeb brynu i’w roi i’r salon (bydd eich Clinig yn cadarnhau’r broses a ddefnyddir).  Dim ond unwaith y gellir defnyddio eich taleb neu gyfeirnod archeb brynu felly peidiwch â rhoi’r wybodaeth hon nes eich bod wedi penderfynu pa salon fydd yn cyflenwi'ch wig.  Bydd y salon yn anfonebu GIG Cymru am werth y daleb neu’r archeb brynu.  Os byddwch chi’n penderfynu prynu wig ddrutach, byddai'n rhaid i chi dalu unrhyw gost ychwanegol ar adeg eich ymgynghoriad/apwyntiad gosod wig.

A allaf hawlio’r TAW yn ôl am fy wig?

Os ydych yn gwneud cyfraniad personol tuag at eich wig, gallwch hawlio'r TAW yn ôl ar y pryniant hwn (20% ar hyn o bryd) os oes gennych alopesia, os ydych yn cael cemotherapi, os oes gennych salwch cronig neu os oes gennych gyflwr sy'n anablu.  Dylai cleifion edrych ar wefan CThEF a sicrhau eu bod yn mynd â’r ffurflen wedi’i chwblhau gyda nhw i’w hapwyntiad ymgynghori.

https://www.gov.uk/guidance/reliefs-from-vat-for-disabled-and-older-people-notice-7017  

Eich Apwyntiad Ymgynghori ac Apwyntiad Gosod Wig

Mae'r salonau dan gontract yn brofiadol wrth ddarparu a gosod wigiau ac maent wedi cynnal proses ymgeisio fanwl er mwyn cael y contract.  Byddant yn cymryd amser i wrando ar yr hyn yr ydych ei eisiau a byddant yn gwneud argymhellion o ran y math o wig a’r steil gorau ar eich cyfer chi.  Efallai y byddwch am ystyried mynd â llun o'ch gwallt i’r salon. Bydd staff y salon yn gwneud eu gorau i weddu â steil a lliw eich gwallt neu efallai y byddwch yn dewis rhywbeth hollol wahanol.  Sicrhewch eich bod chi'n siarad â'r unigolyn sy’n gosod eich wig i wneud yn siŵr ei fod yn gwybod y steil wig rydych chi ei eisiau. Mae gan y rhan fwyaf o salonau amrywiaeth eang o wigiau ar gael a byddant yn gosod eich wig yn ystod eich ymgynghoriad. Fodd bynnag, os nad yw eich hoff fath o wig/steil ar gael yn y salon, efallai y gofynnir i chi ddychwelyd i’r salon yn ddiweddarach i gael gosod/torri/steilio eich wig.   Byddwch yn cael gwybodaeth ynghylch gofalu am eich wig.

Adborth gan gleifion

Mae adborth o'ch profiad o gael wig yn bwysig iawn i GIG Cymru gan y bydd yn ein helpu i ddeall sut i wella ein gwasanaeth.  Mae’n bosibl y bydd gan rai Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau eisoes broses ffurfiol ar waith i’ch galluogi i roi adborth a byddant yn rhoi manylion am hyn.  Ein bwriad yw y bydd proses yn ei lle gan bob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yn y pen draw.  Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw broblemau neu gwynion yn ymwneud â darparu eich wig a/neu osod eich wig neu os hoffech rannu adborth cadarnhaol, cysylltwch â'ch clinig yn uniongyrchol.

Salonau dan Gontract

Gweler yr wybodaeth isod am y salonau dan gontract.  Mae map sy’n dangos lleoliadau'r salonau hefyd.

Aderans Trenco (The Wiggins) Tel: 0151 7335826. Address: 119 Penny Lane, Liverpool L18 1DF

Browns (More hair now) Tel: 01792 894476. Address: Rebecca Lee Salon 65 Glebe Road Loughor Swansea SA4 6QD

Daxbourne (Salon Wills) Tel: 02920 224475. Address: Salon Wills 11-13 Castle Arcade Cardiff CF10 2BY

Hair and More. Tel: 01792 467804, Address: 10/11 High Street Swansea SA1 1LE

Hair Clinical LTD. Tel: 01437 764144. Address: Unit 8&9 Haverfordwest Business Centre, Merlins Court, Haverfordwest Pembrokshire SA61 1SB

Inspirations Ltd. Tel: 01656 859528. Address: 6A Pen-y-bont Road, Pencoed, Bridgend CF35 5RA

Michila Harris Wigs. Tel: 07401 663581. Address: 9A Well Street, Porthcawl, Bridgend CF36 3BE

Morgan's Hair Loss Solutions Cardiff. Tel: 02921 321450.  Address: 23-25 Morgan Arcade Cardiff CF10 1AF

Morgan's Hair and Beauty. Tel: 01244 637360. Address: 29-31 Lower Bridge Street, Chester CH1 1RS

Morgan's Hair and Beauty. Tel: 01745 798747. Address: 105-107 High Street Prestatyn LL19 9AP

Morgan's Hair and Beauty. Tel: 01745 798747. Address: Code Cosmetics Ltd, 6 Clonmel Street, Llnadudno LL30 2LE

Natural look Wigs. Tel: 01792 582129 Address: Suite 1A 29 Ystrad Road, Fforestfach Swansea SA5 4LH

Papa Salon (Constantinou & Sons). Tel: 02920 461191. Address: 99 Crws Road Cathays Cardiff CF24 4NF

Peruke Ltd. Tel: 01291 672749. Address: Holly House, Llancayo Court, Usk NP15 1HY

Phoenix Hair and Make-Up. Tel: 01745 827676. Address: Brymbo House, Chapel Street, Abegele LL22 7AW

Scarlett Jack Hairitage. Tel:02922 338466. Address: Font-y-Gary Leisure park, Fontygary Road Rhoose CF62 3ZT

The Wig and Beauty Company. Tel: 07956 967260. Address: Commercial House commercial Street, Pontllanfraith, Blackwood NP12 2JY