Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr

Gofalwyr

Eich adnabod eich hun fel gofalwr ydy’r cam cyntaf, a gall dilyn y camau hyn eich rhoi chi ar ben ffordd i gael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch.

Cam 1: Cofiwch eich bod yn ofalwr!

Eich adnabod eich hun fel gofalwr ydy’r cam cyntaf un i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Nid yw llawer ohonom yn ein gweld ein hunain fel gofalwyr ar unwaith: rydym yn famau a thadau, yn wŷr, yn wragedd, yn bartneriaid, yn frodyr, yn chwiorydd, yn ffrindiau ac yn gymdogion. Yn syml, rydym yn gwneud yr hyn y byddai unrhyw un yn ei wneud, sef gofalu am anwyliad neu ffrind yn ddi-dâl, a’u helpu pan na fyddant yn gallu gwneud pethau drostynt eu hunain. Y ffaith yw eich bod hefyd yn ofalwr, ac mae yna bethau y mae angen i chi eu gwybod. Nid oes neb yn hoffi cael eu labelu, ond gall adnabod eich hun fel gofalwr fod yn ffordd o gael amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth.

Cam 2: Cynnwys eich teulu a'ch ffrindiau

Mae llawer o ofalwyr yn troi at deulu a ffrindiau am gefnogaeth ac i'w helpu i gael seibiant oddi wrth eu rôl gofalu. Mae'n bwysig nad ydych yn ymdopi ar eich pen ei hun, gan y gall hyn effeithio ar eich iechyd eich hun. Siaradwch â theulu a ffrindiau a gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod faint rydych yn ei wneud yn eich rôl fel gofalwr. Efallai na fydd llawer o aelodau o'r teulu neu ffrindiau yn sylweddoli faint o ofal rydych yn ei roi, efallai y byddant yn teimlo embaras, neu efallai nad ydynt eisiau i chi feddwl eu bod yn ymyrryd. Gall pobl eraill ei chael yn anodd gofyn a oes angen help arnoch chi oherwydd efallai eu bod yn poeni y byddech yn meddwl eu bod yn dweud nad ydych yn gallu ymdopi. Yn anffodus, nid yw rhai pobl yn gwybod sut i ymateb i salwch neu anabledd ac maent yn ei chael yn anodd ymdopi â hyn, felly efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn am help.

Cam 3: Dweud wrth eich Meddyg Teulu

Er nad oes cofrestr genedlaethol ar gyfer gofalwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich meddyg teulu eich bod yn ofalwr, a gofynnwch iddynt ysgrifennu'r manylion ar eich nodiadau. Fel gofalwr, bydd eich meddyg teulu yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael archwiliad iechyd rheolaidd ac os oes angen, pigiad ffliw. Pan fydd eich meddyg teulu yn gwybod eich bod yn ofalwr, gallant roi apwyntiadau i chi i gyd-fynd â'ch rôl fel gofalwr neu ddod i’ch gweld yn eich cartref. Fel arfer, mae gofalwyr yn brysur ac weithiau, nid ydynt yn cael amser i ofalu am eu hiechyd eu hunain. Gall meddygon teulu helpu gofalwyr a'u hanwyliaid i gael pob math o gymorth, fel cwnsela a gwasanaethau meddygol eraill, a gallent eich hatygfeirio at eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.

Cam 4: Dweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig ystod o wasanaethau i ofalwyr a phobl sydd ag anableddau neu salwch. Mae'n bwysig rhoi gwybod iddynt am y sawl yr ydych yn gofalu amdanynt cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ofalwr. Fel gofalwr, gallwch gael asesiad gofalwr, sy'n edrych ar eich anghenion a sut allwch chi gael eich cefnogi. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol drefnu gofal seibiant i roi seibiant i chi, helpu gyda chymhorthion yn eich cartref er mwyn gwneud bywyd yn haws neu yn syml, bod yn gefn mewn argyfwng. Gallwch ffonio eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol yn uniongyrchol a siarad â nhw am eich rôl fel gofalwr. Hyd yn oed os ydych yn dewis peidio â chael asesiad gofalwr, mae'n bwysig rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eich bod yn ofalwr, gan y gallant helpu os ydych angen cymorth ar frys.

Cam 5: Dweud wrth bobl yn y gwaith

Fel gofalwr sydd yn gweithio hefyd, rydych yn debygol o fod angen cymorth gwahanol ar adegau gwahanol - o ddefnyddio ffôn i wneud yn siŵr bod y sawl rydych yn gofalu amdanynt yn iawn, a threfnu amser i ffwrdd i gydfynd â'ch rôl fel gofalwr. Nid yw’n hawdd dweud wrth eich gwaith eich bod yn ofalwr bob amser, ac efallai y byddwch yn poeni a fydd eich cyflogwr yn gefnogol ai peidio. Efallai y gallwch gael cefnogaeth nad ydych yn ymwybodol ohono, a bydd eich cyflogwr yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd o’ch cefnogi chi. Gall cydweithwyr fod yn gefnogol iawn, ac efallai y bydd yn helpu i siarad am eich sefyllfa gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddynt yn y gwaith. Gallwch hefyd ofyn i gydweithwyr, swyddog personél neu gynrychiolydd undeb i’ch cefnogi gyda hyn.

Cam 6: Hawlio eich budd-daliadau

Mae'r system fudd-daliadau yn gymhleth ac mae llawer o bobl sydd newydd ddechrau gofalu yn ansicr ynglŷn â’r hyn y dylent fod yn hawlio. Mae llawer o bobl yn teimlo'n annifyr ynghylch gwneud cais oherwydd profion modd neu ffurflenni cymhleth, ond cofiwch fod y system fudd-daliadau yno i'ch helpu ac mae'n iawn i wneud cais. Mae nifer o fudd-daliadau ar gael i ofalwyr, ac un o'r pethau pwysicaf yw gwneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gall budddaliadau eich helpu mewn ffyrdd eraill hefyd, fel cael gostyngiad yn y Dreth Gyngor.

Cam 7: Dod o hyd i’ch grŵp agosaf i ofalwyr

Mae grwpiau gofalwyr a chanolfannau gofalwyr yn rhoi cefnogaeth i ofalwyr drwy roi gwybodaeth, trefnu digwyddiadau cymdeithasol a rhoi amser i ofalwyr i siarad â gofalwyr eraill am eu problemau neu brofiadau. Mae llawer o'r gofalwyr yr ydym yn siarad â nhw yn ystyried bod grwpiau gofalwyr yn ffynhonnell wych o gefnogaeth. Un gwasanaeth cymorth o'r fath yw Carers UK.

Cam 8: Edrych ar ôl eich hun

Mae'n hawdd anghofio edrych ar ôl eich hun pan fyddwch yn brysur yn gofalu am rywun arall. Fodd bynnag, fel gofalwr, mae'n bwysig eich bod yn edrych ar ôl eich hun. Fan lleiaf, gall fod yn anoddach gofalu am berson arall os ydych yn teimlo'n flinedig neu'n isel eich hun. Cofiwch y gall cael rhywfaint o seibiant fod yn help mawr felly pan gewch gyfle, ceisiwch gymryd rhywfaint o amser i wneud rhywbeth i chi eich hun.

Cam 9: Meddyliwch am y dyfodol

Er mor anodd y gallai fod i feddwl amdano, fe ddaw amser pan nad ydych yn gofalu am rywun mwyach. Pan fydd y gofalu yn dod i ben, gall fod yn hynod o galed. Drwy gynllunio ar gyfer y dyfodol a meddwl am fywyd ar ôl gofalu, gallwch leihau'r sioc pan ddaw'r amser. Mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn teimlo ar goll, a heb bwrpas neu gyfeiriad pan fydd y gofalu yn dod i ben. Er y gallech dreulio llawer o’ch amser yn gofalu am rywun, mae'n bwysig eich bod yn parhau i fyw bywyd eich hun hefyd - gwaith, ffrindiau, hobïau a diddordebau.

Ffynonellau Cymorth

Os hoffech gael cymorth pellach ar gyfer ymdopi â'ch diffyg anadl gallwch ddod o hyd i hyn oddi wrth y gwasanaethau canlynol:

Eich meddyg teulu (efallai y cewch eich hatgyfeirio at wasanaeth cwnsela'r feddygfa).

  • Cymorth Canser Macmillan: www.macmillan.org.uk neu 0808 808 0000.
  • Tenovus: www.tenovus.org.uk neu 0808 808 1010.
  • Leigh Bodilly, Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth i Gleifion a Gofalwyr; I gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth yn eich ardal leol - 029 20196132.
  • Mae gan Felindre grŵp cymorth yma ddydd Mercher cyntaf bob mis o 5pm tan 7pm. Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth