Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwythlondeb menywod a thriniaethau canser

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am effeithiau triniaeth canser ar ffrwythlondeb menywod. Bydd yn esbonio ystyr ffrwythlondeb a pha ddewisiadau sydd ar gael i chi os bydd eich triniaeth ganser yn eich gwneud yn anffrwythlon. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth i’w cael ar ddiwedd y daflen.

 

 

Beth yw anffrwythlondeb?

Anallu i feichiogi’n naturiol yw anffrwythlondeb.

 

Triniaeth canser a ffrwythlondeb

Llawdriniaeth, radiotherapi, cemotherapi a therapi hormonaidd yw’r pedwar prif fathau o driniaethau ar gyfer canser. Gall pob un o’r triniaethau hyn effeithio ar ffrwythlondeb menyw.

 

Llawdriniaeth

Bydd rhai mathau o lawdriniaethau’n eich atal rhag gallu cael plentyn. Er enghraifft, os caiff eich croth ei thynnu (hysterectomi); os caiff eich dau ofari eu tynnu (oofforectomi dwyochrol); a rhai mathau o lawdriniaeth i geg y groth neu’ch fagina.

 

Radiotherapi

Gall radiotherapi i’ch ofarïau neu’ch pelfis achosi anffrwythlondeb. Bydd hyn yn barhaol. Mae’r risg o anffrwythlondeb yn dibynnu ar y dos o radiotherapi y byddwch yn ei gael a’ch oedran pan fyddwch yn cael eich triniaeth.

Fel arfer, bydd menywod sy’n cael arbelydru corff cyfan (TBI) yn anffrwythlon yn barhaol wedyn. Mae ïodin ymbelydrol yn annhebygol iawn o effeithio ar ffrwythlondeb.

 

Cemotherapi

Gall cemotherapi achosi anffrwythlondeb. Gallai hyn fod dros dro neu’n barhaol. Bydd hyn yn dibynnu ar:

  • Y cyffur cemotherapi sy’n cael ei ddefnyddio – mae rhai cyffuriau’n fwy tebygol o effeithio ar eich ffrwythlondeb ac mae cyfuniadau o gyffuriau’n fwy tebygol o effeithio ar eich ffrwythlondeb na chyffuriau unigol
  • Y dos o’r cyffur sy’n cael ei ddefnyddio – mae dosiau uwch yn fwy tebygol o effeithio ar ffrwythlondeb
  • Eich oedran – mae menywod iau’n fwy tebygol o gadw ffrwythlondeb arferol
  • Eich iechyd yn gyffredinol

    

Therapi Hormonaidd

Mae rhai therapïau hormonaidd yn effeithio ar ffrwythlondeb. Mae hyn dros dro tra eich bod yn cael triniaeth fel arfer. Fodd bynnag, i rai menywod, mae therapïau hormonaidd yn achosi i’r mislif ddod i ben yn gynnar. Golyga hyn fod eich ofarïau’n rhoi’r gorau i wneud wyau, bod eich mislif yn dod i ben a gall newidiadau hormonaidd achosi chwiwiau poeth a fagina sych.

 

Pryd caiff fy risg o anffrwythlondeb ei thrafod gyda fi?

Bydd eich meddyg yn trafod eich risg o anffrwythlondeb gyda chi cyn i chi ddechrau triniaeth. Os oes gennych bartner, mae’n bosibl y bydd yn awyddus i ymuno â chi ar gyfer y drafodaeth hon fel bod y ddau ohonoch yn ymwybodol o’r holl ffeithiau a’ch bod yn gallu siarad am eich teimladau a’ch barn.

 

A oes modd atal anffrwythlondeb?

Mae ymchwil i gadw ffrwythlondeb yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae’n arbrofol o hyd ac mae llawer o bobl yn teimlo bod angen i ragor o ymchwil gael ei chynnal er mwyn dirnad ei heffeithiolrwydd. Bydd eich meddyg yn trafod hyn ymhellach gyda chi os hoffech ragor o wybodaeth.

 

Pa ddewisiadau sydd ar gael i mi os byddaf yn dod yn anffrwythlon yn barhaol?

Os yw’ch anffrwythlondeb yn debygol o fod yn barhaol, bydd eich meddyg yn esbonio pa ddewisiadau a allai fod ar gael i chi cyn dechrau eich triniaeth. Mae’n bwysig sylweddoli y bydd unrhyw archwiliadau’n peri oedi o ran dechrau eich triniaeth. Mae’n bosibl hefyd y bydd eu tebygolrwydd o lwyddo yn isel.

 

Pa ddewisiadau a allai fod ar gael ar ôl i’m triniaeth am ganser fy ngwneud yn anffrwythlon?

Bydd eich meddyg yn trafod pa ddewisiadau sydd ar gael i chi. Gallai hyn gynnwys eich atgyfeirio at Uned Cymorth Atgenhedlu Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd ymgynghoriad yn cynnwys trafod pa driniaethau a allai fod yn addas i chi. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu’n breifat am hyn gan na chaiff ei ariannu gan y GIG, o bosibl.

 

A ddylwn ddefnyddio dulliau atal cenhedlu yn ystod fy nhriniaeth?

Weithiau mae ansicrwydd p’un a fydd anffrwythlondeb yn digwydd ai peidio, felly mae’n bwysig eich bod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu yn ystod eich triniaeth ac am rhwng 6 a 12 mis wedi hynny. Dylech wneud hyn gan y gallai cemotherapi a radiotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Deallwn fod y materion sy’n codi yn y daflen hon yn gymhleth. Os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch meddyg neu defnyddiwch un o’r rhifau ffôn isod.

 

 

 

 

Radiograffyddion Gwybodaeth

 a Chymorth                                                                                                                                         029 2061 5888

                                                                     est. 6428

 

Macmillan                                                     0808 808 0000

www.macmillan.org.uk

 

The Daisy Network                                        0845 122 8616

www.daisynetwork.org.uk

Grŵp cymorth ar gyfer diwedd mislif cynnar

 

Uned Cymorth Atgenhedlu Caerdydd            029 2074 3047

www.caru.co.uk

 

Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) www.hfea.gov.uk 

                                 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob blwyddyn.

 

 

Adolygwyd Mehefin 2010