Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid / Arian

Cyllid / Arian

Os yw canser yn effeithio arnoch chi, efallai y byddwch eisoes yn gwybod sut mae hyn yn effeithio ar eich cyllid. Gall fod costau ychwanegol gennych chi neu aelod o’r teulu, fel costau teithio, am fod rhaid i chi fynd i lawer o apwyntiadau ysbyty. Gall fod rhaid i chi fwyta bwydydd drutach i gadw’n iach yn ystod triniaeth, a phrynu dillad newydd am fod eich pwysau wedi newid. Gall fod angen i chi gadw’r gwres ymlaen am hirach neu ar dymheredd uwch, oherwydd effeithiau’r driniaeth.

Ar ben hyn i gyd, efallai bod yr arian sy’n dod i mewn i’r cartref wedi gostwng am nad ydych chi’n gallu gweithio. Gall hyn achosi pryder ynglŷn â sut gallwch ymdopi ag effeithiau ariannol canser a thalu biliau o ddydd i ddydd. Ceir rhai syniadau isod a all eich helpu i leddfu’r pryder rydych yn ei deimlo oherwydd yr effaith ar eich cyllid.

Awgrymiadau gorau

  1. Peidiwch â mynd i banig:
    Nid ydych chi ar eich pen eich hun a bydd teimladau o bryder ynglŷn ag arian gan lawer o bobl. Gall fod yn bwysig chwilio am gymorth gan arbenigwr i gael cyngor unigol.
     
  2. A allwch chi gynyddu eich incwm?
    Gallwch fod yn gymwys i gael rhywfaint o incwm ychwanegol drwy wneud cais am fudd-daliadau. Mae llawer o fathau o fudd-daliadau. Mae rhai’n ddibynnol ar eich incwm, a rhai’n seiliedig ar anghenion iechyd. Mae rhai’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac eraill ddim.

    Mae’n bwysig cofio gofyn am gyngor unigol. Mae amgylchiadau unigol yn wahanol. Mae rheolau budddaliadau’n gymhleth iawn ac mae’n hawdd colli cymorth y mae hawl gennych i’w gael. Mynnwch fod asiantaeth gyngor yn gwirio’ch budd-daliadau i sicrhau eich bod yn cael popeth y gallwch ei gael.
     
  3. Efallai y cewch eich synnu i ganfod beth yn ychwanegol y gallai fod hawl gennych iddo. Mae llawer o bobl â chanser yn colli allan ar fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, ac mae llawer o sefydliadau yn darparu cyngor ar hawliau lles. Gall Cymorth Canser Macmillan roi cyngor dros y ffôn, a gellir cysylltu â nhw ar 0808 808 0000. Fel arall, gallech fod am siarad â sefydliad lleol neu gyngor lleol. Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu, siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol ac efallai y bydd yn gallu’ch cyfeirio i’r lle iawn.
     
  4. A ydych chi wedi’ch yswirio?
    Edrychwch drwy eich polisïau ac efallai y gwelwch fod gennych yswiriant ar gyfer colli incwm, triniaeth feddygol, cardiau credyd, taliadau morgais a threuliau eraill. Mae wir yn werth gwirio.
     
  5. Stryffaglu i dalu biliau?
    Mae’n bwysig cysylltu â’r rhai rydych yn ei chael hi’n anodd eu talu. Os siaradwch â phob benthyciwr, cerdyn credyd a chwmni cyfleustod, efallai y gallant ddarparu cymorth. Eto, mae’n syniad da cael cyngor gan asiantaeth gyngor broffesiynol, ac mae’n bwysig ei fod yn sefydliad dielw na fydd yn cymryd unrhyw ffioedd am eich helpu. Mae Step Change yn elusen ddyledion a all roi cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim, a gellir cysylltu â nhw ar 0800 138 1111 neu ewch i www.stepchange.org
     
  6. Blaenoriaethwch eich dyledion:
    Mae’n bwysig eich bod yn delio â dyledion sy’n flaenoriaeth yn gyntaf. Er enghraifft, taliadau morgais, ôl-ddyledion rhent, y dreth gyngor, cyfleustodau fel nwy, trydan a dŵr, trwydded deledu. Hefyd, unrhyw fenthyciadau a all fod wedi’u sicrhau ar eich cartref. Gall fod dyledion blaenoriaeth eraill, felly gofynnwch am gyngor gan sefydliad dielw fel Step Change.
     
  7. Grantiau
    Mae cymorth ariannol a mathau eraill o gefnogaeth ar gael yn aml gan elusennau sy'n rhoi grantiau. Gall hyn fod yn ddibynnol ar eich cefndir a'ch amgylchiadau penodol. Gallwch chwilio am grantiau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer trwy ddefnyddio darganfyddwr grant a ddarperir gan Turn2us. Mae Turn2us yn elusen sy’n helpu pobl mewn angen ariannol i gael budd-daliadau lles, grantiau elusennol a help ariannol arall. Gallwch chwilio am grantiau yn www.turn2us.org.uk . Fel arall, gallwch siarad ag ymgynghorydd yn Turn2us ar y ffôn ar 0808 802 2000 a gallant chwilio ar eich rhan.
     
  8. Costau teithio:
    Efallai y gallech hawlio cymorth tuag at gostau teithio os ydych chi neu’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
    • Cymhorthdal incwm
    • Lwfans cyflogaeth a chymorth yn gysylltiedig ag incwm
    • Lwfans ceisio gwaith yn gysylltiedig ag incwm
    • Gwarant credyd pensiwn
    • Neu os ydych chi neu’ch partner wedi’ch enwi ar dystysgrif eithrio credyd treth y GIG, neu â hawl iddo.
       
    Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth o dderbyn budddâl (fel llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau). Os nad ydych chi’n derbyn y budd-daliadau neu’r credydau treth a restrwyd uchod, ond bod eich incwm yn isel, gallwch fod eisiau gwneud cais i weld a allech gael unrhyw gymorth gyda chost teithio. Gallwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen gais HC1 drwy ffonio 0845 6031108 (dewiswch yr opsiwn ar gyfer cyhoeddiadau iechyd). Mae’r ffurflenni cais hyn ar gael yn adran cleifion allanol Felindre.
     
  9. Arweiniad Ariannol:
    Efallai eich bod yn pryderu ynghylch sut fydd eich salwch yn effeithio ar eich morgais, yswiriant neu bensiynau? Mae Macmillan yn darparu Gwasanaeth Arweiniad Ariannol a gallwch fod am gysylltu â nhw os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â’ch pensiynau, cynilion, buddsoddiadau, yswiriant, benthyca, morgeisi, neu fancio. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth gymharol syml sy’n annibynnol ac na fydd yn hyrwyddo cynhyrchion penodol, ond gall helpu i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniadau sy’n iawn i chi a’ch teulu. Cysylltwch â 0808 808 0000 a gofynnwch i siarad ag aelod o’r tîm arweiniad ariannol.
     
  10. Cyflogaeth:
    Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â’ch hawliau yn y gweithle gallwch fod am siarad ag ACAS i gael gwybodaeth. Mae llinell gymorth gan ACAS a gellir ffonio 0300 123 1100 am gyngor di-dâl a chyfrinachol. Mae ganddynt wefan hefyd y gellir mynd ati drwy’r cyfeiriad canlynoll www.acas.org.uk.
     
  11. Budd-daliadau Profedigaeth:
    Mae’n anodd iawn codi materion profedigaeth a chysylltu hyn â budddaliadau. Fodd bynnag, mae’n bwysig codi’r mater hwn. Gall budd-daliadau profedigaeth ddarparu rhywfaint o sicrwydd, yn enwedig i’r rheiny â phlant. Y rheswm dros dynnu sylw at hyn yw mai dim ond i’r rheiny a oedd yn briod neu wedi’u huno mewn partneriaeth sifil adeg marwolaeth y gellir dyfarnu budd-daliadau profedigaeth iddynt.

    Mae Lwfans Rhiant Gweddw yn fudd-dâl profedigaeth sy’n cael ei dalu’n wythnosol, ac mewn rhai achosion gellir ei dalu hyd nes bod budd-dâl plentyn yn dod i ben ar gyfer y plentyn dibynnol. Felly, gall hyn fod am flynyddoedd lawer, a gall hynny ddarparu cymorth ychwanegol. Mae’r rheolau’n ymwneud â’r budd-dâl hwn yn gymhleth felly mae’n bwysig gofyn am gyngor.

Ffynonellau Cymorth

  • Cymorth Canser Macmillan: www.macmillan.org.uk neu 0808 808 00 00
  • Tenovus: www.tenovus.org.uk neu 0808 808 10 10
  • Leigh Bodilly, Cydlynydd Gwybodaeth a Chefnogaeth Cleifion a Gofalwyr Velindre: Am wybodaeth ar wasanaethau cymorth yn eich ardal leol - 029 20196132
  • Mae Rhaglen Cymorth a Gwybodaeth Canser Velindre yn cynnwys sesiwn wybodaeth am arian a buddion.

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae wedi’i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob 2 flynedd.

Paratowyd Ebrill 2014