Neidio i'r prif gynnwy

Canser a Perthnasoedd

Canser a Perthnasoedd

Gall cael diagnosis o ganser fod yn anodd iawn yn emosiynol. Mae’n beth cyffredin iawn i hyn beri gofid i chi a’r bobl o’ch amgylch neu fod yn anodd i chi ymdopi ag ef. Gall hyn yn anfwriadol roi straen ar berthnasoedd ac effeithio ar y ffordd rydych chi, eich partner a’ch teulu yn cyfathrebu â’ch gilydd ac yn cefnogi’ch gilydd.

Nid oes unrhyw ffordd gywir neu anghywir o ymdopi â chanser. Gall diagnosis o ganser wneud i chi deimlo llu o emosiynau, fel dicter, tristwch, gorbryder, euogrwydd, rhyddhad, ansicrwydd, ac iselder ysbryd. Efallai y byddwch chi a’ch partner yn ymateb yn wahanol neu’n teimlo pethau gwahanol ar adegau gwahanol. Bydd y ffordd rydych chi a’ch partner a’r teulu’n ymdopi â hyn yn dibynnu ar eich personoliaethau unigol, profiadau bywyd, a sut bydd pob un ohonoch chi’n ymdopi â sefyllfaoedd anodd.

Gall deall sut mae diagnosis o ganser yn gallu effeithio ar eich bywydau bob dydd, y newidiadau y gallwch fynd drwyddynt a sut gall y pethau hyn effeithio ar eich perthynas eich helpu chi a’ch partner ddod o hyd i ffyrdd i gefnogi’ch gilydd sy’n fuddiol i chi’ch dau.

Cynghorion Cadarn

Gall y syniadau canlynol eich helpu chi a’ch partner ac aelodau’r teulu i gefnogi’ch gilydd yn dilyn diagnosis, yn ystod triniaeth ac ar ôl hynny:

  1. Gall fod adegau pan fyddwch chi neu’ch partner neu aelod o’r teulu eisiau cael eich gadael ar eich pennau’ch hunain neu adegau pan fydd un neu’r ddau ohonoch am siarad am sut ydych chi’n teimlo. Gall fod o gymorth i weithio hyn allan gyda’ch gilydd.

    Gallech neilltuo amser i chi siarad â’ch gilydd. Sicrhewch eich gilydd, os nad yw’r un ohonoch chi am siarad amdano ar y pryd, y byddwch yn siarad amdano gyda’ch gilydd pan fyddwch chi’n barod.

    I gael rhagor o wybodaeth am siarad â’ch plant am ganser, gweler y daflen ‘Cefnogi Eich Plant Pan fydd Canser Gennych’.
     
  2. . Efallai y gwelwch eich bod yn treulio llawer o amser yn poeni ynghylch sut mae eich partner a’ch teulu yn ymdopi ac yn anghofio gofalu amdanoch chi’ch hun. Mae’n bwysig bod yn garedig i chi’ch hun a gwneud y pethau a all helpu gyda rhai o’r teimladau anodd.

    Bydd bwyta’n dda, gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol, ysgrifennu eich pryderon i lawr a chymryd amser i ymlacio yn eich helpu i deimlo’n well a gallu cefnogi eich partner ac aelodau’r teulu’n well hefyd.
     
  3. Gall fod yn anodd siarad â’ch gilydd am y canser a’i effaith ar eich bywydau. Efallai eich bod yn poeni nad ydych chi’n gwybod beth i ddweud, y byddwch chi’n gwneud pethau’n waeth neu y bydd eich partner neu’r teulu yn meddwl nad ydych chi’n ymdopi. Mae llawer o bobl yn gweld fod siarad â’u partner yn gallu bod yn gysur a rhoi pethau mewn persbectif.

    Cofiwch ei bod yn bwysig gwrando yn ogystal â siarad i’ch helpu i ddeall eich gilydd. Mae’n iawn i siarad am bethau eraill hefyd, ac weithiau eistedd yn dawel gyda’ch gilydd yw’r cyfan sydd ei angen arnoch chi.
     
  4. Gwnewch gynllun i wneud pethau rydych chi’n eu mwynhau gyda’ch partner a’r teulu, fel mynd am dro gyda’ch gilydd, mynd allan am fwyd neu benwythnos i ffwrdd. Bydd hyn yn rhoi rhywbeth i chi edrych ymlaen ato a bydd yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael amser gyda’ch gilydd.
     
  5. Gallwch chi, eich partner, a’r teulu fod eisiau cefnogi eich gilydd ond nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hyn. Gadewch iddynt wybod os oes ffyrdd yr hoffech iddynt helpu neu os oes pethau y byddech yn mwynhau eu gwneud, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda’ch gilydd. Gall hyn eich helpu i weithio fel tîm i ddod drwy hyn.
     
  6. Gall pryderon ynglŷn â’ch diagnosis a sgîl-effeithiau triniaeth, fel blinder, poen neu newidiadau i’r corff, effeithio ar eich bywyd rhywiol. Mae nifer o bethau a all helpu lleihau’r effaith hon.

    Gwnewch amser i chi a’ch partner. Rhowch gynnig ar ffyrdd newydd o garu sy’n fwy cyfforddus. Rhowch wybod i’ch partner os nad ydych chi’n teimlo bod gennych ddiddordeb mewn rhyw neu os ydych chi’n teimlo’n hunanymwybodol. Gall fod angen i chi ganolbwyntio mwy ar gnawdolrwydd na rhyw am ychydig. Gall cyffwrdd fod yn rhan bwysig o hyn.
     
  7. Gall rhai triniaethau canser effeithio ar ffrwythlondeb. Mae’n bwysig cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi gan eich tîm meddygol, a thrafod hyn gyda’ch partner cyn i chi ddechrau triniaeth fel eich bod yn gallu gwneud y penderfyniadau gyda’ch gilydd. Gallwch ofyn am gymorth proffesiynol ar gyfer hyn.
     
  8. Gall diagnosis o ganser effeithio ar eich cyllid os bydd angen i chi roi’r gorau i weithio. Gall hyn roi straen ychwanegol ar berthnasoedd a gall fod yn anodd ymdopi â hynny. Gall fod gennych hawl i fudd-daliadau a chymorth ariannol. Gallwch siarad â chynghorydd hawliau lles, eich canolfan waith leol neu swyddfa fudddaliadau, neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gweler hefyd y cynghorion cadarn ar gyfer y daflen Cyllid.
     
  9. Gall canser a’r driniaeth ar ei gyfer newid rôl unigolyn yn ei berthynas / teulu. Gallwch fod angen i’ch partner ac aelodau’r teulu ymgymryd â mwy neu addasu i rôl newydd yn y teulu. Siaradwch â’ch gilydd ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo a beth gredwch chi sy’n bwysig. Gallwch gynllunio gyda’ch gilydd pa dasgau y mae angen rhoi blaenoriaeth iddynt a pha gymorth gall fod angen arnoch chi.
     
  10. Nid yw effaith canser bob amser yn dod i ben pan fydd eich triniaeth yn gorffen. Rhowch amser i chi’ch hun i addasu i fywyd ar ôl canser. Byddwch angen i’ch partner a theulu eich cefnogi hyd yn oed ar ôl i’r driniaeth orffen oherwydd yr effaith gorfforol ac emosiynol. Gall rhai cyplau ddod yn agosach, ond gall problemau ddatblygu weithiau, hyd yn oed rhwng cyplau sydd wedi bod gyda’i gilydd am amser maith. Hyd yn oed ar ôl i driniaeth orffen, mae cymorth ar gael i chi.
     

Ffynonellau Cymorth

Os hoffech gael rhagor o gymorth ar gyfer unrhyw un o’r materion hyn, gallwch ei gael gan y gwasanaethau canlynol:

Adnoddau hunangymorth ar-lein yn rhad ac am ddim: http://www.ntw.nhs.uk/pic/selfhelp/

Eich meddyg teulu (efallai y cewch eich atgyfeirio at wasanaeth cwnsela’r feddygfa).

Cymorth Canser Macmillan: www.macmillan.org.uk neu 0808 808 0000.

Tenovus: www.tenovus.org.uk neu 0808 808 1010.

Macmillan Relate (Cwnsela arbenigol ar gyfer cyplau yr effeithir arnynt gan ganser): E-bost - enquiries.macmillan@relatecymru.org.uk neu 01792 454412.

Leigh Bodilly, Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth i Gleifion a Gofalwyr Felindre: I gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth yn eich ardal leol – 029 20196132.

Gall eich ymgynghorydd neu arbenigwr nyrsio clinigol roi gwybodaeth i chi gwasanaethau sydd ar gael i chi yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae wedi’i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob 2 flynedd.

Paratowyd Hydref 2014