Neidio i'r prif gynnwy

Breathlessness

Beth yw Diffyg Anadl? Mae diffyg anadl yn ymdeimlad annymunol o anadlu anesmwyth, cyflym neu anodd. Gall ddod ymlaen yn sydyn neu’n raddol dros gyfnod o amser. Y rheswm dros ddiffyg anadl yw bod angen mwy o ocsigen ar eich corff nag y mae’n ei gael, felly rydych yn anadlu’n gyflymach. Diffyg Anadl a Chanser Mae nifer o bethau sy’n gallu achosi diffyg anadl. Yn dilyn diagnosis o ganser, mae ofn, straen a gorbryder yn adweithiau naturiol cyffredin iawn. Maent yn gallu achosi i bobl anadlu’n rhy gyflym a chymryd anadliadau bas o ben uchaf eich ysgyfaint, yn hytrach nag is i lawr yn eich brest. Gall hyn wneud i chi deimlo’n fwy byr eich gwynt weithiau, ac mae hynny’n gallu arwain at deimlad o bwl o banig. Weithiau gall canser sy’n effeithio ar yr ysgyfaint achosi diffyg anadl, gall fod yn ganser sylfaenol yr ysgyfaint (lle mae’r canser wedi dechrau yn yr ysgyfaint) neu’n ganser eilaidd sydd wedi lledaenu i’r ysgyfaint o ran arall o’r corff. Mae triniaethau ar gael sy’n gallu helpu lleihau’r tiwmor ac esmwytho diffyg anadl a achosir gan ganser. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys heintiau’r frest lle gall fflem yn y llwybrau anadlu wneud i chi deimlo’n fyr eich 2 © Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ionawr 2015 gwynt. Mae cyhyrau gwan a phoen sy’n cael ei reoli’n wael yn gallu’i gwneud hi’n anodd anadlu’n esmwyth. Gall diffyg anadl beri gofid i chi a gall effeithio ar sawl peth yn eich bywyd. Fodd bynnag, mae llawer o bethau sy’n gallu’ch esmwytho neu eich helpu i reoli diffyg anadl. Mae’n well gan rai pobl rai technegau na’i gilydd – nid oes ffordd gywir nac anghywir o ymdopi. Y peth pwysicaf yw canfod beth sy’n gweithio orau i chi ym mhob sefyllfa. Dyma rai syniadau isod

Ymdopi â Diffyg Anadl 1. Blaenoriaethu: Ystyriwch pa weithgareddau sy’n bwysig i chi bod dydd a blaenoriaethwch y gweithgareddau yr hoffech gadw eich egni ar eu cyfer. Ceisiwch dorri allan unrhyw dasgau diangen er mwyn arbed eich egni a gwasgarwch y gweithgareddau ar draws y diwrnod. Er enghraifft, gwnewch waith smwddio am bum munud chwe gwaith y dydd, yn lle 30 munud ar un tro. 2. Cynllunio: Trefnwch eich gweithgareddau mor effeithiol ag y bo modd er mwyn arbed gymaint o egni â phosibl. Ceisiwch beidio â gwneud gormod mewn unrhyw un diwrnod, a chynlluniwch eich gweithgareddau ar gyfer yr wythnos os yw hynny’n bosibl. 3. Camau: Mae’n bwysig cydbwyso cyfnodau o weithgarwch â chyfnodau o orffwys (h.y. cymerwch eich amser wrth gerdded a gorffwyswch yn aml os oes angen i chi wneud). 4. Ystum: Mynnwch ddod o hyd i ystum sy’n gyfforddus i chi ac arferwch wneud hyn er mwyn helpu’ch hun. Rhowch gynnig ar yr ystumiau hyn i weld a ydynt yn gweithio i chi: Gorwedd yn uchel ar eich ochr 4 © Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ionawr 2015 Caiff y pen a’r frest eu cynnal gan y fraich a gobenyddion Mae’r goes uchaf wedi’i phlygu i fyny Mae’r fraich isaf wedi’i phlygu o dan y gobennydd Ystum eistedd ymlaciol Eisteddwch ar gadair Mae’r penelinoedd yn gorffwys ar y cluniau Mae’r dwylo a’r arddyrnau wedi’u hymlacio Ystum sefyll ymlaciol Pwyswch yn erbyn wal Pwyswch ymlaen ychydig ac ymlacio, gan ryddhau’r gwddf, ysgwyddau a’r breichiau DS. Peidiwch â phwyso ymlaen rhy bell a syrthio Sefyll gan bwyso ymlaen Pwyswch ymlaen yn erbyn canllaw Pwyswch ymlaen ychydig ac ymlacio, gan ryddhau’r gwddf, ysgwyddau a’r breichiau DS. Peidiwch â phwyso ymlaen rhy bell a syrthio 5 © Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ionawr 2015 5. Caniatâd: Rhowch ganiatâd i chi’ch hun i beidio â gwneud gweithgareddau sy’n eich gwneud yn fyr o wynt ac yn eich blino. Ceisiwch newid eich ffordd o feddwl, yn lle ‘Rhaid i mi’ neu ‘Ddylwn i’ rhowch gynnig ar ‘Dwi’n dewis gwneud’ neu ‘Dwi’n dymuno gwneud’ yn lle hynny. Er enghraifft, newidiwch “Ddylwn i ffonio Sam” i “Gallwn i ffonio Sam”. 6. Seicolegol - Mae diffyg anadl yn gallu gwneud i chi deimlo mewn hwyl isel yn aml. Gallwch deimlo’n euog a theimlo nad ydych chi am fod yn faich. Gall popeth ymddangos yn ormod o ymdrech ac nid ydych am drafferthu mynd allan. Fodd bynnag, ydych chi wedi ystyried meddyliau eraill fel pa lwyddiannau bach rydych chi wedi’u cyflawni, a beth mae pobl eraill yn eu gweld fel cryfderau gennych? Mae’n bwysig bod yn garedig i chi’ch hun a gwobrwyo’ch hun am eich llwyddiannau - pa mor fach bynnag y maent i’w gweld. 7. Ymlacio – gall ymlacio helpu i ymdawelu’r corff. Mae nifer o sgiliau gwahanol y gallwch eu defnyddio. Er enghraifft, anadlu’n ddwfn, ymarferion ymlacio’r cyhyrau, gwrando ar gerddoriaeth ymlaciol neu ddychmygu eich bod yn rhywle diogel a thawel. Mae rhai pobl yn gweld bod gweithgarwch corfforol yn fwy ymlaciol iddynt. Cyfeiriwch at y llyfryn gweithgarwch corfforol. 6 © Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ionawr 2015 8. Ymarferol – Os ydych chi’n gweld bod eich diffyg anadl yn achosi anawsterau o ran ymdopi gartref, gall fod cyfarpar a fydd yn gallu’ch helpu i gwblhau eich gweithgareddau’n fwy annibynnol. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at eich therapydd galwedigaethol lleol neu gallwch siarad ag aelod o’ch tîm oncoleg

 

Ffynonellau Cymorth Os hoffech gael rhagor o gymorth ar gyfer ymdopi â’ch diffyg anadl, gallwch ei gael gan y gwasanaethau canlynol:  Eich meddyg teulu (efallai y cewch eich atgyfeirio at wasanaeth cwnsela’r feddygfa).  Cymorth Canser Macmillan: www.macmillan.org.uk neu 0808 808 0000.  Tenovus: www.tenovus.org.uk neu 0808 808 1010.  Leigh Bodilly, Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth i Gleifion a Gofalwyr Felindre: I gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth yn eich ardal leol – 029 20196132.  Mae dwy raglen gan Felindre i’ch helpu i reoli eich diffyg anadl a byw gyda theimladau o ansicrwydd.  Gall eich ymgynghorydd neu arbenigwr nyrsio clinigol roi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, a gofyn am atgyfeiriad at y rhaglenni neu’r tîm Seicoleg Clinigol a Chwnsela yng Nghanolfan Ganser Felindre. 8 © Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ionawr 2015 Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiyno