Neidio i'r prif gynnwy

Blood Transfusion

Gwybodaeth i gleifion sy’n cael trallwysiad gwaed yng Nghanolfan Ganser Felindre

 

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion sy’n cael trallwysiad gwaed yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd yn esbonio pam eich bod yn cael trallwysiad gwaed a ble a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi am y gofal a’r gwasanaethau y byddwch yn eu cael tra eich bod yno. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am drallwysiadau gwaed ar gael ar ddiwedd y daflen hon.

 

Pam mae angen trallwysiad gwaed arnaf?

Mae angen trallwysiad gwaed arnoch gan fod gennych anemia. Mae hyn yn golygu nad oes gennych ddigon o gelloedd gwaed coch yn eich corff. Gall hyn wneud i chi deimlo’n flinedig iawn (swrth) ac yn ddi-egni. Gall hefyd eich gwneud yn fyr o wynt.

 

Bydd cael trallwysiad gwaed yn eich helpu i gynyddu eich celloedd gwaed coch. Bydd hyn yn lliniaru symptomau anemia. Dylech deimlo buddion trallwysiad gwaed o fewn 24 awr. Fodd bynnag, gallai’r buddion hyn fod yn fyrhoedlog felly gallai fod angen rhagor o drallwysiadau gwaed arnoch.

 

 

Ble byddaf yn cael fy nhrallwysiad gwaed?

Byddwch yn cael eich trallwysiad gwaed yn Uned Ddydd Rhosyn. Mae hi wedi’i lleoli ar lawr gwaelod Canolfan Ganser Felindre. Cynigir cadair ledorwedd gyfforddus i chi eistedd ynddi tra eich bod yn cael eich trallwysiad gwaed.

 

 

Pa gyfleusterau sydd ar gael yn Uned Ddydd Rhosyn?

Mae amrywiaeth o gylchgronau a llyfrau ar gael. Mae DVDs hefyd ar gael ar gais. Mae toiledau yn yr uned. Darperir diodydd poeth ac oer. Bydd angen i chi ddod â bwyd gyda chi gan nad yw’r uned yn darparu brechdanau bellach.

 

 

Am ba hyd fydd angen i mi aros?

Bydd hyd yr amser y bydd angen i chi aros yn dibynnu ar sawl uned o waed y mae eich meddyg wedi’u rhagnodi. Caiff yr uned gyntaf o waed ei rhoi’n araf. Mae’n cymryd tua dwy awr fel arfer. Mae unedau eraill yn cymryd tua 1½ awr oni bai bod eich meddyg yn gofyn am eu rhoi’n arafach.

 

Pan fydd eich meddyg yn trefnu eich apwyntiad, bydd yn rhoi gwybod i chi faint o unedau o waed y byddwch yn eu cael. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo am ba hyd y byddwch yn aros.

 

 

A all rhywun aros gyda fi?

Mae croeso i chi ddod ag un perthynas neu ffrind gyda chi ar gyfer eich triniaeth. Fodd bynnag, gan fod lle yn brin, nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach. Mae gennym ystafell deulu y gall plant ei defnyddio ond mae’n rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

 

 

Beth ddylwn i wisgo?

Dylech wisgo dillad cyfforddus. Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn gwisgo eu dillad dyddiol arferol.

 

 

Sut y caiff fy nhrallwysiad gwaed ei roi?

Caiff eich trallwysiad gwaed ei roi drwy ddrip a thiwb bach a gaiff ei roi’n uniongyrchol mewn gwythïen yn eich braich. Caiff y drip ei gysylltu â phwmp wedi’i osod ar ddaliwr drip. Mae’r pwmp yn rheoleiddio cyflymdra rhoi eich trallwysiad gwaed. Os bydd gennych linyn arbennig, er enghraifft llinyn PICC neu linyn Hickman, gellir rhoi eich trallwysiad gwaed drwy’r pwmp hwn fel arfer.

 

Bydd y nyrsys yn eich monitro yn ystod eich trallwysiad gwaed. Byddant yn gwirio eich tymheredd, eich pwls a phwysedd eich gwaed yn rheolaidd ac yn sicrhau eich bod yn gyfforddus a bod y drip yn llifo ar y cyflymdra cywir.

 

 

Alla’ i symud o gwmpas Uned Ddydd Rhosyn wrth gael fy nhrallwysiad gwaed?

Gallwch. Mae modd i chi symud o gwmpas. Mae i’ch daliwr drip olwynion felly gallwch ei wthio eich hun neu ofyn i nyrs eich helpu chi.

 

 

Beth am y tabledi a’r meddyginaethau y byddaf yn eu cymryd fel arfer?

Mae’n bwysig eich bod yn dod â’r rhain gyda chi i’w dangos i’r nyrsys. Gallwch barhau i gymryd y rhain yn ôl eich arfer oni bai eich bod yn cael cyngor i beidio â gwneud hynny.

 

 

Beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â chael trallwysiad gwaed?

Mae i bob triniaeth a therapi meddygol rywfaint o risg. Mae angen pwyso a mesur y rhain yn erbyn y risg i’ch iechyd o beidio â chael trallwysiad gwaed.

 

Y risg fwyaf sy’n gysylltiedig â thrallwysiad gwaed yw cael y gwaed anghywir. Byddwn yn gofyn am eich enw llawn a’ch dyddiad geni a chaiff y manylion hyn eu defnyddio i wirio pob bag o waed a gaiff ei roi.

 

Mae’r perygl o gael haint o drallwysiad gwaed yn isel iawn. Caiff pob math o gynnyrch gwaed eu gwirio’n a’u profi’n ofalus am feirysau neu amhureddau er mwyn lleihau unrhyw berygl i chi.

 

Mae gennych siawns o oddeutu 1 ym mhob miliwn o ddal haint HIV neu HTLV (Feirys Lymffotropig T-Gell Dynol) o drallwysiad gwaed. 1 ym mhob 500,000 yw’ch siawns o ddal hepatitis B ac 1 ym 30 miliwn yw’ch siawns o ddal hepatitis C.

 

Mae’r risg o ddal Clefyd Amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob (vCJD) o un trallwysiad gwaed yn isel iawn, ond mae’r risg hon yn cynyddu gyda thrallwysiadau gwaed ychwanegol. Bob blwyddyn, caiff tua dwy filiwn o unedau o waed eu trallwyso yn Lloegr a dim ond llond llaw o achosion sydd wedi codi lle y deallir bod cleifion wedi’u heintio â vCJD.

 

 

A oes unrhyw sgîl-effeithiau?

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael sgîl-effeithiau wrth gael trallwysiad gwaed. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y nyrsys ar unwaith os byddwch yn teimlo’n sâl mewn unrhyw ffordd. Er enghraifft, os byddwch yn teimlo’n boeth neu â thwymyn, neu os byddwch yn sylwi ar unrhyw gosi neu frech, yn teimlo’n sâl neu’n cael unrhyw boen yn rhan isaf eich cefn neu’ch ystlys.

 

 

Beth fydd yn digwydd pan fydd fy nhrallwysiad gwaed drosodd?

Bydd eich nyrs yn datgysylltu’r drip ac yn rhoi gorchudd ar eich braich pan fydd eich trallwysiad gwaed drosodd. Bydd y nyrsys yn rhoi unrhyw wybodaeth benodol neu gyfarwyddiadau i chi cyn i chi fynd adref.

Os  bydd gennych unrhyw bryderon, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r rhifau ffôn a restrir ar dudalen 6.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael o:

 

Uned Ddydd Rhosyn                 029 2061 5888 est 6352

Dydd Llun – Dydd Gwener 8am – 5pm

      

 

Ymholiadau am apwyntiadau    029 2061 5888 est 6248

 

 

Cymorth Canser Macmillan       0808 808 0000

www.macmillan.org.uk

 

 

Y Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol

www.blood.co.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Ymhlith y ffynonellau gwybodaeth mae Llawlyfr Meddygaeth Trallwyso Gwaed, Elfen Waed Polisi Trallwyso Ymddiriedolaeth GIG Felindre a thaflen Gwasanaeth Gwaed Cymru ‘A fydd angen trallwysiad gwaed arnoch?’ Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen hon ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adolygwyd Mehefin 2011