Neidio i'r prif gynnwy

Yr Uned Cemotherapi

Cleifion mewnol triniaethau cemotherapi yn cael eu rhoi ar ein huned cleifion mewnol Cemotherapi

Mae gan ein ward cleifion Cemotherapi 14 o welyau i gleifion mewnol ar gyfer cleifion yn cael triniaeth cemotherapi i gleifion mewnol ac ar gyfer cleifion sydd â sgîl-effeithiau cemotherapi cysylltiedig megis sepsis neutropenig. Mae gennym hefyd 2 ciwbicl isotop ar gyfer cleifion sy'n derbyn triniaeth ïodin 131. Mae'r cuddyglau ynysu yn angenrheidiol oherwydd ymbelydredd a ddefnyddir yn y driniaeth.

Rhoddir triniaeth cemotherapi i gleifion allanol drwy wasanaethau cemotherapi integredig

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys:

Uned Cemotherapi achosion dydd (CDU) – Cleifion sy’n cael cemotherapi fel achosion dydd. Gall y triniaethau hyn barhau am hyd at 8 awr. Mae’r uned ar agor o 8:30am - 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Image of Velindre Chemo Day Unit

Unedd Chemotherapi Dydd

Adran Cemotherapi i Gleifion Allanol (COPD) – Mae’r uned yn darparu triniaethau cemotherapi trwythiadau byr. Mae’r uned ar agor o 9am - 5pm dydd Llun i ddydd Gwener .

Yr Uned Cemotherapi – Mae’r uned hon yn darparu amrywiaeth o driniaethau gan gynnwys cemotherapi. Yr oriau yw 8:30am - 5pm dydd Llun i ddydd Gwener a 8:30am - 4:30pm dydd Sadwrn.

Allgymorth Cemotherapi – Rhoddir cemotherapi hefyd mewn ysbytai eraill mewn clinig allgymorth gan dîm gwasanaethau integredig Felindre. Erbyn hyn mae’n cynnwys y bws cemotherapi a all ymweld â gwahanol leoliadau.

Gwasanaethau cymorth

Gwasanaeth 24 awr ar gyfer cleifion sy’n cael cemotherapi drwy Felindre. Darperir hyn gan ddeiliad peiriant galw sy’n defnyddio system brysbennu i leihau’r sgîl-effeithiau a gysylltir â chemotherapi.

Arbenigwyr Nyrsio Clinigol

Cefnogir y gwasanaeth hefyd gan arbenigwyr nyrsio clinigol (CNS). Nyrs sy’n arbenigo ar fynediad mewnwythiennol a nyrs sy’n arbenigo ar gemotherapi/llywio sy’n gweithio o fewn y gwasanaeth ac wrth ei ochr. Maent yn darparu agweddau allweddol ar addysg a datblygu.

Meryl Moremon yw rheolwr y ward. Ffôn: 029 2061 5888 est 6606 e-bost

 

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888