Neidio i'r prif gynnwy

Ward y llawr cyntaf – Ward Oncoleg

Ar ein ward ar y llawr cyntaf, caiff cleifion sydd ag amrywiaeth o ganserau a symptomau sy’n gysylltiedig â chlefyd eu trin. Gall triniaethau gynnwys radiotherapi neu reoli symptomau a gallant amrywio o reolaeth radical i ofal lliniarol.

Mae ein tîm o staff nyrsio’n gweithio gyda’i gilydd gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol. Caiff safonau gofal eu monitro a’u harchwilio’n rheolaidd. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu’r arfer gorau a’r safonau gofal gorau posibl i’n cleifion.

Mae gan bron hanner y tîm ymgynghori yn Felindre gleifion ar y ward ar y llawr cyntaf.

Mae pob ymgynghorydd yn mynd o gwmpas y ward yn wythnosol er mwyn trafod eu cleifion a’r rheolaeth fwyaf priodol. Caiff cyfarfodydd rheolaidd y tîm eu mynychu gan:

  • nyrs
  • gweithiwr cymdeithasol
  • ffisiotherapydd
  • therapydd galwedigaethol
  • deietegydd
  • cydlynydd rhyddhau
  • radiograffydd
  • uwch swyddog preswyl a meddyg gofal lliniarol

Mae dau uwch swyddog preswyl yn gweithio ar y ward, ochr yn ochr â therapyddion cyfannol a chyflenwol sy’n cynnig amrywiaeth o driniaethau i’r cleifion.

Mae Jeanette Miller yn Rheolwr y Ward gyda thair prif nyrs glinigol.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888