Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Mae cymryd anadl lawn a chyson yn gallu bod yn dda iawn i ymlacio'r corff gan ei fod yn haws rheoli teimladau o banig a phryder. Mae’n dda iawn ar adegau o straen ond mae’n well gwneud y dechneg yn rhan o’ch trefn ddyddiol fel ei bod yn dod yn naturiol. Dewch o hyd i safle cyfforddus a llacio unrhyw ddillad tynn. Os oes modd, anadlwch i mewn drwy'r trwyn yn araf a theimlwch waelod yr ysgyfaint yn ymestyn yn ysgafn. Gallwch osod llaw ar y stumog i deimlo bod y bol yn codi. Yna anadlwch allan drwy'r geg mewn ffordd reoledig a chyson. Unwaith y byddwch wedi dod i arfer â'r dechneg, gallwch geisio gwneud yr anadl allan yn hirach na'r mewnanadl a defnyddio'r trwyn drwy'r holl ymarfer.
Gall anadlu awyr iach a golau'r haul gael effaith ryfeddol. Gall eistedd y tu allan neu hyd yn oed fod yn agos at ffenestr agored am 20 munud glirio eich meddwl yn llwyr a chreu awyrgylch cadarnhaol. Os gallwch chi osod eich traed ar y ddaear yn ystod y cyfnod hwn, mae'n rhoi hwb mwy fyth i'r effeithiau hyn.
Nid yn unig mae dŵr yn hanfodol i'w yfed ond mae ganddo nodweddion egniol ei hunhefyd. Mae cymryd bath bob dydd am 20 munud neu faddon traed gyda halwynau Epsom yn bywiogi'r cyhyrau, yn lleddfu tensiwn ac yn helpu i osgoi blinder a dolur yn gyffredinol.
Dewch o hyd i arogl rydych chi'n ei fwynhau neu sy'n eich atgoffa o atgof dymunol. Gallai hyn fod yn bersawr, yn baned o siocled poeth, cerdded yn y goedwig neu'n arogl gwyliau. Eisteddwch yn gyfforddus, ymlaciwch eich llygaid ac anadlwch trwy eich trwyn yn llawn ac yn gyson gan arogli eich dewis arogl am ychydig funudau. Gallwch hyd yn oed gario hyn o gwmpas gyda chi, fel bod modd elwa ble bynnag rydych. Ymhlith rhai o'r olewau hanfodol ymlaciol sy'n gallu bod yn ddefnyddiol i chi mae aroglau prennaidd fel pren cedrwydd neu grawn petit. Mae olewau mynawyd y bugail (geranium) a rhosyn yn gallu eich helpu chi ac mae olewau lafant (lavender) a chamomîl yn gallu eich helpu i gysgu. Gall olewau fel lemwn, oren a mintys leddfu blinder a chyfog. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bob tro a pheidiwch byth â defnyddio y deunydd yn syth ar y croen.
Mae synau natur fel glaw, tonnau a gwynt trwy'r coed i gyd yn creu ymdeimlad o lonydd. Mae offerynnau therapi sain fel powlenni canu a gongiau hefyd yn gallu tawelu meddwl pobl. Gall eich dewis chi o gerddoriaeth roi manteision therapiwtig i chi, yn enwedig os oes ganddi guriad rheolaidd ac os yw'n cael ei chwarae trwy glustffonau. Gallech hyd yn oed geisio canu’n uchel neu ymuno â chôr; mae’r llais yn ffordd wych o ryddhau mynegiant a thensiwn.