Neidio i'r prif gynnwy

Therapïau cyflenwol

Mae'r tîm therapi cyflenwol yma i roi cymorth i chi trwy gydol eich cyfnod gyda ni yng Nghanolfan Ganser Felindre. Rydyn ni'n gwybod efallai nad ydych chi bob amser yn teimlo'ch hun ac yn gwneud y bydd adegau pan fyddwch chi'n bryderus, yn drist, yn ddig ac yn ofidus. Mae’n bosibl y bydd sgil-effeithiau a symptomau eich cyflwr a’ch triniaeth yn gwneud i chi deimlo’n flinedig, yn sâl ac mewn poen. Rydyn ni yma i'ch helpu chi trwy hyn fel y gallwch chi ddod o hyd i rywfaint o ryddhad.

Mae'r tîm yn darparu amrywiaeth o therapïau cyflenwol gan gynnwys aromatherapi, tylino, adweitheg, reiki a therapi sain. Mae'r rhain yn cael eu cynnal yn ein hystafell therapi neu tra byddwch yn aros gyda ni ar y ward a hyd yn oed yn ystod triniaethau SACT a radiotherapi. Gallwch hyd yn oed fwynhau'r triniaethau gartref, gan fod y gwasanaeth yn gallu darparu sesiynau ar-lein gydag Attend Anywhere.

Mae'r gwasanaeth yn rhan o dîm amlddisgyblaethol Felindre ac mae therapïau'n cael eu defnyddio yn rhan o'ch taith gyda chanser. Byddwn ni'n cytuno ar driniaethau diogel ac addas unwaith y bydd asesiad wedi ei gynnal gydag un o'n therapyddion cymwys a phrofiadol.

Isod mae technegau syml i'ch helpu i deimlo ar eich gorau. Mae modd gwneud y rhain pan fydd eu hangen, mor aml ag y dymunwch, ble bynnag rydych. Chi sydd piau'r rheolaeth arnyn nhw, felly gwelwch beth sy'n gweithio orau i chi a pheidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

 

Gofalu am rywun pwysig

Mae'r Tîm Therapi Cyflenwol hefyd yn ymwybodol o sut deimlad yw gofalu am anwylyd neu ffrind sy'n cael gofal am ganser. Mae'r dulliau lleddfol yn dda i'ch iechyd a'ch lles hefyd, felly rhowch gynnig arnynt a gadewch iddynt dawelu eich corff a'ch meddwl.

Cewch chi ymarfer y technegau hawdd ar eich gilydd, fel bodd modd i'r ddau ohonoch fwynhau'r manteision o roi a chael triniaeth.

 

Awgrymiadau syml ynglŷn ag ymlacio

 

Rhagor o gymorth

Os ydych wedi rhoi cynnig ar y technegau hyn ac yn teimlo bod angen rhagor o gymorth arnoch, gall y Tîm Therapi Cyflenwol roi cymorth pellach i chi gan ddefnyddio Adweitheg, Aromatherapi, Tylino, Reiki neu Therapi Sain. Mae ein therapyddion wedi cael hyfforddiant clinigol ac maen nhw'n addasu'r triniaethau ategol hyn i ystyried eich anghenion penodol. Mae'r therapïau cyflenwol yn gweithio ar y cyd â'ch triniaethau presennol ar gyfer canser i wella eich lles corfforol, emosiynol ac ysbrydol, yn ogystal ag ansawdd eich bywyd.

Fel claf dan ofal Canolfan Ganser Felindre, cewch ofyn i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn Felindre am atgyfeiriad. Gallwn drefnu sesiynau therapi sy'n addas i chi, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Gallwn hefyd eich gweld os ydych chi'n glaf mewnol ar y ward neu yn ystod radiotherapi a therapi gwrth-ganser systemig ('SACT' yn Saesneg).

 

Cysylltwch â ni

Cewch anfon e-bost at y Tîm Therapi Cyflenwol ar VCCComplementary.Therapy@wales.nhs.uk neu ffonio 029 2061 5888 est 6439.

Ariennir y Gwasanaeth Therapi Cyflenwol yn uniongyrchol gan Elusen Felindre.

 

Dolenni defnyddiol

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â therapïau cyflenwol yn ystod gofal canser, edrychwch ar y canlynol:

 

Os ydych chi am ddod o hyd i therapydd cyflenwol cymwys lleol sy'n gallu darparu triniaethau diogel i chi, ewch trwy'r cyrff proffesiynol hyn i ddod o hyd i ymarferydd cofrestredig:

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888