Neidio i'r prif gynnwy

Seicoleg Glinigol

Cysylltwch â ni

Gellir cysylltu â'r tîm Seicoleg Glinigol ar 029 2019 6141

Amdanom ni

Mae seicolegwyr clinigol a cynghorwyr yn gweithio gyda phobl sy'n dioddef gwahanol fathau o anawsterau seicolegol er mwyn lleihau gofid a hybu lles yng nghyd-destun salwch meddygol.

Mae seicolegwyr clinigol yn cael eu hyfforddi i helpu pobl i gyflawni newid cadarnhaol ar gyfer eu hunain, yn seiliedig ar dystiolaeth am y cysylltiadau rhwng ymddygiad, emosiynau, meddyliau, perthnasoedd ac agweddau biolegol ar iechyd a salwch. Nid ydynt yn cael eu hyfforddi yn feddygol ac nid ydynt yn rhoi diagnosis iechyd meddwl neu ddarparu meddyginiaeth.

Mae tîm bach o seicolegwyr clinigol a cynghorwyr wedi ei leoli yng Nghanolfan Ganser Felindre, i weithio gyda chleifion mewnol a chleifion allanol, a'r bobl bwysig yn eu bywydau. Gallant helpu os yw pobl yn dioddef ac anawsterau emosiynol neu bersonol ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu salwch.

Mae'r tîm yn gweithio gyda materion fel:

  • Gwneud synnwyr o sut mae person wedi bod yn teimlo
  • Addasu i ac ymdopi â diagnosis a thriniaeth
  • Rheoli teimladau fel pryder, tristwch, dicter, colled ac iselder
  • Rheoli materion blinder, poen, diffyg anadl a bwydo
  • Dysgu ffyrdd i ymdopi â, ac i baratoi ar gyfer profion, gweithdrefnau a thriniaethau
  • Gwneud penderfyniadau am driniaeth
  • Rheoli pryderon a byw gydag ansicrwydd
  • Cefnogi plant a phobl ifanc drwy effaith canser
  • Anawsterau Perthynas
  • Anawsterau rhywiol

Y Tîm

Mae'r tîm seicoleg glinigol yn cynnwys Ymgynghorydd Seicolegydd Clinigol Macmillan, Seicolegydd Clinigol Macmillan, Gynghorwr Macmillan a Chynghorwr Gofal Canser Tenovus.

Mae'r gwasanaeth seicoleg glinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 8:30-17:30 (ac eithrio gwyliau banc).

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888