Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapi

Mae radiotherapi yn gallu cael ei ddefnyddio i drin tiwmorau canseraidd a thiwmorau sydd ddim yn ganseraidd (anfalaen).

Mae radiotherapi yn defnyddio ffotonau pelydr-X ynni uchel, sydd wedi'u cyfrifo'n ofalus i dargedu rhan benodol o'r corff. Mae'r ffotonau pelydr-X yn achosi niwed i DNA y gell yn yr ardal hon. Mae gan gelloedd iach y gallu i adfer eu hunain, ond nid yw celloedd canser yn gallu gwneud hyn.
Mae radiotherapi yn cael ei roi dros nifer o driniaethau, er mwyn rhoi cyfle i gelloedd iach adfer eu hunain. Mae amserlen driniaeth pob claf yn wahanol - bydd eich meddyg yn esbonio eich amserlen driniaeth i chi.

Cywiro’r chwedlau

  • Dydy radiotherapi ddim yn brifo 
  • Nid oes 'zap', 'jolt' na 'sioc drydanol' yn cael eu gweld na'u teimlo 
  • Ni fyddwch yn ymbelydrol ar ôl cael triniaeth
  • Ni fyddwch yn achosi perygl i blant na menywod beichiog
  • Dim ond yn yr ardal sydd yn cael ei thrin y byddwch yn colli eich gwallt, ac nid yw bob amser yn barhaol

Cynllunio Triniaeth

Edrychwch ar y fideo cynllunio*

Mae radiotherapi yn cael ei gynllunio'n unigol ar gyfer pob claf, yn seiliedig ar sgan CT o’r rhan o’r corff sy'n cael ei drin.

Mae offer cynorthwyol yn cael ei ddefnyddio i greu safle atgynyrchadwy, y gellir ei efelychu bob dydd ar gyfer triniaeth.

Byddwch yn cael marciau tatŵ bach (gweler y llun) sy'n cael eu defnyddio fel pwyntiau cyfeirio i ganfod y safle bob dydd.
 
Os byddwch yn cael Radiotherapi o’r Pen a’r Gwddf, bydd masg yn cael ei wneud i chi. Bydd yn rhaid i chi wisgo hwn ar gyfer eich sgan cynllunio CT ac ar gyfer pob sesiwn driniaeth. Edrychwch ar y fideo ar sut i wneud y masg*.

Fel arfer, mae ychydig wythnosau rhwng yr adeg y byddwch yn cael yr apwyntiad cynllunio, a’r adeg y byddwch yn dechrau'r driniaeth.

Triniaeth

Edrychwch ar y fideo triniaeth*

Ar gyfer pob sesiwn driniaeth, byddwch yn cael eich gosod yn yr un safle ag ar gyfer eich sgan cynllunio CT.

Bydd eich marciau tatŵs yn cael eu defnyddio i sicrhau alinio cywir. Bydd hyn yn cael ei gyflawni yn defnyddio laserau golau yn yr ystafell driniaeth, a drwy symud y cowtsh driniaeth.
Unwaith y bydd y radiograffwyr yn hapus gyda'ch safle, byddant yn gadael yr ystafell.  Yna, gallant gymryd delweddau i gadarnhau eich bod chi yn y safle cywir cyn cyflwyno triniaeth.

Bydd y delweddu’n cael ei ail-wneud yn rheolaidd yn ystod y driniaeth at ddibenion lleoli - yn anffodus ni allwn asesu’r ymateb i’r driniaeth ar sail y delweddau hyn.

Mae'r peiriant yn cael ei reoli o bell o'r ardal reoli y tu allan i'r ystafell driniaeth. Rydych yn cael eich arsywli bob amser ar deledu cylch cyfyng, a gellir defnyddio intercom.

Gellir torri ar draws triniaeth os oes angen i chi roi'r gorau i driniaeth am unrhyw reswm ac yna, gellir ei hailgychwyn.

Mae amseroedd apwyntiadau yn amrywio rhwng 15 munud ac awr, yn dibynnu ar y driniaeth rydych yn ei chael.  Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi.

Adolygu eich Triniaeth

Byddwch yn cael eich gweld yn rheolaidd drwy gydol eich triniaeth yn y clinig adolygu.
Mae'r tîm adolygu a gwybodaeth a chymorth yn dîm arbenigol o radiograffwyr sy'n gallu asesu a rheoli sgil-effeithiau Radiotherapi. 

Gallant ragnodi meddyginiaeth i helpu sgil-effeithiau triniaeth, a thrafod unrhyw bryderon emosiynol ac ymarferol sydd gennych.  Gallant sicrhau hefyd, y byddwch yn cael eich hatgyfeirio at wasanaethau cefnogol, os byddwch eu hangen.

Mae llyfrynnau sy'n benodol i'r safle ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth am sgil-effeithiau triniaeth. Gallwch ddod o hyd i’r rhain yn yr adran taflenni gwybodaeth ar y wefan.
 

Cefndir

Mae radiotherapi stereotactig yn un o'r technegau radiotherapi mwyaf newydd ar gyfer trin canser. Mae'n unigryw gan ei fod yn anfon dognau uchel o ymbelydredd i diwmorau ac yn dinistrio celloedd canser, ond yn achosi llai o ddifrod na radiotherapi confensiynol i’r meinwe iach sydd o’u cwmpas ac yn lleihau sgil-effeithiau.

Yn hytrach na gorfod mynd dan gyllell y llawfeddyg, gall y dechneg hon gael ei defnyddio ar gyfer sawl math gwahanol o ganser– ar gyfer canser yr ysgyfaint er enghraifft, neu i drin mannau lle mae'r canser wedi lledaenu i amrywiaeth o lefydd o amgylch y corff.  Mae ei photensial i wella tiwmor metastatig rhag lledaenu wedi rhoi gobaith i gleifion sydd yn draddodiadol, ddim ond wedi cael eu trin â therapïau lliniarol.

SBRT computer screen scan image

Mae Canolfan Ganser Felindre wedi cymryd camau breision wrth ddatblygu gwasanaeth stereotactig, ac mae eisoes wedi gwneud cynnydd wrth drin canser yr ysgyfaint a chanser yr afu, tiwmorau'r ymennydd a thiwmorau anfalaen ar waelod y benglog. Yn hanesyddol, anfonwyd pob claf oedd â thiwmorau anfalaen ar waelod y benglog i ganolfannau canser dros y ffin ond nawr, dros y flwyddyn ddiwethaf, gallwn eu trin yn llwyddiannus yma yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd, gan y gwyddom y gall y dechneg hon gael ei defnyddio i drin llawer mwy o fathau o ganser, a gyda'r brwdfrydedd a'r wybodaeth y mae staff Canolfan Ganser Felindre yn ymfalchïo eu hunain o’u cael, rydym yn gobeithio cyflwyno’r dechneg hon i lawer mwy o gleifion yng Nghymru.

Allech chi elwa o Radiotherapi Stereotactig y Corff?

Image of radiographer at computer terminal

Mae yna lawer o feini prawf llym ar gyfer triniaeth o'r fath gan fod risgiau a sgîl-effeithiau yn gysylltiedig â'i defnyddio. Mae pob claf sy'n cael ei ystyried ar gyfer y driniaeth hon yn cael trafodaethau, cynllunio a monitro helaeth trwy dîm mawr o arbenigwyr i sicrhau mai dim ond y cleifion cywir sy'n cael eu dewis a bod y driniaeth o safon uchel yn cael ei darparu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Peidiwch ag oedi cyn trafod radiotherapi ystrydebol gyda'ch Oncolegydd os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn addas.
 

Rhifau cyswllt defnyddiol

Os ydych chi’n derbyn triniaeth ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch peiriant triniaeth - mae eu rhif ffôn ar du blaen eich cerdyn apwyntiad triniaeth. Neu cysylltwch â Derbynfa’r Adran Radiotherapi ar 02920615888 est 6434/6433 sydd ar gael rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch siarad â'r tîm Adolygu a Gwybodaeth a Chymorth ynghylch unrhyw sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â thriniaeth ar 02920615888 est 6421, rhwng 8.30am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych wedi dechrau eich triniaeth Radiotherapi, a bod gennych gwestiynau am apwyntiadau, cysylltwch â’r Llinell Bwcio Radiotherapi ar 02920615888 est 6134/6836, rhwng 8.30am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os oes gennych ymholiadau ynghylch apwyntiadau cynllunio, cysylltwch â’r Adran Cynllunio Radiotherapi ar 02920615888 est 6150, rhwng 8.30am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os ydych chi’n sâl y tu allan i'r oriau hyn neu dros y penwythnos, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Triniaethau 02920 615 888 (sydd ar gael 24/7).
 

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888