Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Radioleg

07/01/21
Rwyf yn dioddef o glawstroffobia ac rwy'n pryderu ynghylch mynd i mewn i'r sganiwr CT?

Mae hyn yn eithaf cyffredin. Gofynnwch am gael gweld y sganiwr pan fyddwch chi’n trefnu’ch apwyntiad. Mae’r sganiwr yn llawer mwy o faint nag y mae pobl yn ei dybio ac efallai na fydd yn rhaid i chi fynd yr holl ffordd i mewn i’r peiriant. Byddwn ni yno bob amser i helpu ac i dawelu’ch meddwl yn ystod eich apwyntiad.

07/01/21
Rwyf wedi cael gwybod y bydd angen pigiad o lifyn pelydr-x arnaf i ar gyfer fy archwiliad – a oes unrhyw sgîl-effeithiau?

Fel yn achos y rhan fwyaf o gyffuriau, gallwch ddioddef rhai mân sgîl-effeithiau. Gall y rhain gynnwys gwrid cynnes, blas metelig yn eich ceg a’r ymdeimlad achlysurol eich bod chi’n pasio dŵr (ni fyddwch chi’n pasio dŵr, ond mae’n teimlo fel pe bai chi’n gwneud!). Mae hyn yn hollol gyffredin ac nid oes unrhyw beth i boeni yn ei gylch. Bydd y radiograffydd yn esbonio’r effeithiau hyn ac yn aros gyda chi pan fydd yn rhoi’r pigiad i chi.

07/01/21
Pryd fydda i'n cael y canlyniadau?

Fel arfer, byddwch chi’n cael y canlyniadau gan y meddygon sy’n gofalu amdanoch chi yn eich apwyntiad claf allanol nesaf. Os ydych chi’n glaf yn yr ysbyty pan fyddwch chi’n cael eich archwiliad, byddwn ni’n anfon copi o’r canlyniadau i’r ward. Fel arfer, gwneir hyn ar yr un diwrnod â’ch archwiliad.

07/01/21
Ar ôl fy sgan, a allaf i fwyta ac yfed fel arfer?

Gallwch ailddechrau bwyta ac yfed fel arfer ar ôl i’ch archwiliad orffen.

07/01/21
Beth sy'n digwydd os na allaf ddod i fy apwyntiad?

Os oes modd, dylech roi 24 awr o rybudd i ni. Bydd hyn yn caniatáu i ni gynnig yr apwyntiad i glaf arall.

07/01/21
Beth os ydw i'n ddiabetig?

Os oes diabetes gennych, dylech bob amser ddweud wrth staff yr adran. Bydd hyn yn ein galluogi ni i drefnu apwyntiad sy’n cymryd hyn i ystyriaeth.

Mae rhai sganiau neu archwiliadau’n golygu bod rhaid rhoi pigiad o gyfrwng cyferbynnu (llifyn pelydr-x) i chi. O ganlyniad, efallai y bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i gymryd eich meddyginiaeth ar gyfer diabetes am gyfnod byr. Byddwn ni’n trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn trefnu’ch apwyntiad.

07/01/21
Ydy pelydrau-x yn niweidiol?

Bob dydd o’n bywydau, rydym yn dod i gysylltiad â symiau mân o ymbelydredd. Mae hwn yn cael ei adnabod fel ymbelydredd cefndirol. Gall hwn ddod o belydrau cosmig neu o nwy radon. Bydd pob amlygiad meddygol yn ychwanegu 'dos' bach at hyn.  Bydd maint y dos yn dibynnu ar y math o archwiliad a gewch. Cyn pob radiograff (pelydr-x), bydd radiograffydd neu radiolegydd bob amser yn sicrhau bod budd i’r unigolyn o gael yr archwiliad.