Neidio i'r prif gynnwy

Uwchsain

Beth yw sgan uwchsain?

Mae uwchsain yn defnyddio seindonnau amledd uchel i gynhyrchu delwedd o rannau amrywiol o’r corff. Mae’r seindonnau’n cael eu cynhyrchu drwy stilydd sy’n cael ei ddal â llaw ac sy’n cael ei symud dros arwyneb y croen. Er mwyn helpu i drawsyrru’r seindonnau, mae ‘gel cyplysu’ yn cael ei roi ar yr ardal sy’n cael ei sganio. Mae sgan uwchsain yn ddi-boen a dim ond ychydig funudau sydd eu hangen i’w wneud. Gan amlaf, nid oes angen gwneud unrhyw baratoadau arbennig cyn sgan. Weithiau, serch hynny, gofynnir i chi fod â phledren lawn neu i beidio â bwyta bwyd am ychydig oriau ymlaen llaw.

Mae uwchsain hefyd yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin ar gyfer sganiau beichiogrwydd. Yn Felindre, rydym yn defnyddio uwchsain i:

  • weld casgliadau o hylifau
  • archwilio ardaloedd sydd efallai wedi cael eu hamlygu ar famogram
  • gadarnhau nad oes clot yng ngwythiennau eich breichiau neu eich coesau.

Mae sganiau’n cael eu cynnal gan radiolegwyr ac uwch radiograffydd.

Nid oes unrhyw ymbelydredd yn cael ei ddefnyddio yn y math hwn o archwiliad.

Isod, delwedd uwchsain o’r abdomen a delwedd Doppler o wythiennau’r coesau.