Neidio i'r prif gynnwy

Tomograffeg Gyfrifedig (sganiau CT)

Beth yw Tomograffeg Gyfrifedig (CT)?

Mae Tomograffeg Gyfrifedig (sganiau CT), a elwir weithiau'n Tomograffeg Echelol Gyfrifedig (CAT), yn weithdrefn ddelweddu ddi-boen a soffistigedig.

Yn y sgan, bydd sawl delwedd yn cael eu cymryd. Mae’r delweddau yna’n cael eu casglu’n ddarluniau trawstoriadol ("sleisiau") o’r corff. Mae’r rhain yn dangos meinwe feddal, asgwrn, a gwythiennau. Mae sganiau CT yn gyflym (rhwng 5 a 10 munud yn aml).  I gynnal sgan, byddwn yn gofyn i chi orwedd yn llonydd ar wely tra bo hwn yn cael ei symud drwy gylch llydan agored (y sganiwr).

Os oes angen sgan CT arnoch, byddwn yn anfon cyfarwyddiadau llawn atoch gyda’ch apwyntiad. Gall unrhyw un o’r radiograffwyr ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.