Neidio i'r prif gynnwy

Radiograffeg Ffilm Plaen

Beth yw radiograffeg 'Ffilm blaen' (Radiograffeg Gyfrifiadurol (CR)?

I lawer o gleifion, dyma’r math mwyaf cyffredin o archwiliad radiolegol y byddant yn dod ar ei draws. Nid yw cynnal yr archwiliadau’n cymryd amser hir, ond gallant ddatgelu llawer iawn o wybodaeth am gyflwr.

Mae delweddau’n cael eu dal ar blât delweddu.  Yna, bydd laser yn darllen y plât ac yn cynhyrchu delwedd ‘ddigidol’. Bydd y delweddau’n cael eu cadw’n electronig ac ar gael i feddygon ac i weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae modd gweld y delweddau naill ai yn Felindre neu mewn ysbytai eraill (os yw hynny’n berthnasol). Mae hyn yn golygu y gellir gweld y delweddau ar yr un pryd o amrywiaeth o leoliadau, a gall triniaethau gael eu cynllunio mewn ffordd llawer mwy effeithiol.