Neidio i'r prif gynnwy

Profedigaeth

Hoffai staff Canolfan Ganser Felindre estyn ein cydymdeimlad diffuant i chi ar yr adeg anodd hon. 

Mae marwolaeth rhywun agos atoch yn gallu bod yn un o'r profiadau mwyaf dinistriol sydd yn rhaid i chi eu hwynebu yn eich bywyd. Yn aml, mae'n gysur rhannu eich galar gyda'ch teulu, ffrindiau agos, eich Meddyg Teulu neu Weinidog crefydd/darparwr gofal ysbrydol. Weithiau, mae pobl yn teimlo bod siarad â rhywun sydd yn gallu rhoi cyngor iddyn nhw neu sy'n syml, yn gallu gwrando arnyn nhw, yn ddefnyddiol. Hoffai ein staff gynnig cymorth i chi hefyd, a gobeithio bod y cyngor isod yn ddefnyddiol o ran ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych.

Os hoffech gael help i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal, cysylltwch â'r Tîm Gofal Cefnogol yng Nghanolfan Ganser Felindre ar 02920 196132, neu anfonwch e-bost at:- bostiwch : VCC.SupportiveCare@wales.nhs.uk

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888