Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth niwclear

Meddygaeth Niwclear yn Felindre

Rydym yn darparu ystod o brosesau delweddu diagnostig, dim delweddu a therapi.

Mae Meddygaeth Niwclear yn edrych ar swyddogaeth gwahanol rannau o’r corff.  Mae cleifion yn derbyn traciwr radiofferyllol (traciwr ymbelydrol) fel rhan o ymchwiliad diagnostig triniaeth.

Mae camera hynod arbenigol, (o’r enw Camera Gamma), yn cymryd delweddau lle mae'r traciwr yn digwydd.  Mae cyfrifiadur y camera hwn yn gallu creu delweddau 3D o'r niferoedd os byddwn yn gwneud sgan SPECT. Os bydd angen i ni nodi'n union ble mae'r niferoedd yn y corff, byddwn yn gwneud sgan CT. Mae'r sgan CT yn dangos yr anatomeg neu'r strwythurau yn y rhan honno o'r corff. Gellir gorlwytho'r ddwy set o ddata i greu sgan SPECT/CT.

(o fewn y fideo – newidiwch y cyfeirad o ystafell driniaeth i ystafell sganio).

Mae profion delweddu’n cynnwys:

  • Sganiau o’r esgyrn Astudiaethau pwll gwaed cyfyngedig (MUGA)
  • Sganiau ïodin (ar ôl therapi)
  • Sganiau DMSA (arennol)
  • Sganiau o’r ysgyfaint

Gall profion heb ddelweddu gynnwys:

·       amcangyfrifon o'r Gyfradd Hidlo Glomerwlaidd -

·       y gyfradd dderbyn o ran y thyroid

Defnyddir gweiniadau therapiwtig o radioniwclidau wrth drin: 

  • thyrotocsicosis
  • canser y thyroid
  • pheochromocytoma malaen
  • poen yn yr esgyrn

Ar ôl cael rhai o’n triniaethau, bydd angen i gleifion aros yn yr ysbyty am gwpwl o ddiwrnodiau.

Mae gennym ddau giwbicl isotop i’w defnyddio’n benodol ar gyfer hyn.

Atgyfeiriadau

Caiff atgyfeiriadau delweddu diagnostig eu hasesu cyn cael y driniaeth gan Radiolegydd Ymgynghorol. Caiff ceisiadau diagnostig heb ddelweddu eu hasesu gan Oncolegwyr Ymgynghorol, a derbynnir atgyfeiriadau gweinyddu therapiwtig gan Oncolegwyr Ymgynghorol cymeradwy yn unig. Mae'r atgyfeiriadau'n cwmpasu ymchwiliadau clinigol arferol a'r rheiny sydd eu hangen er mwyn i'r adran gymryd rhan mewn Treialon Clinigol.  Caiff unrhyw amlygiad i ymbelydredd ei asesu’n llawn a’i gyfiawnhau cyn i’r ymchwiliad neu’r driniaeth ddechrau. Mae hyn yn sicrhau yr ystyrir bod yr ymchwiliad neu’r driniaeth o fudd i’r claf.

Cyfyngiadau

Os ydy'r prawf diagnostig neu'r driniaeth yn ei gwneud yn ofynnol dilyn rhai cyfyngiadau ar ddiogelu rhag ymbelydredd, bydd y rhain yn cael eu nodi yn y llythyr apwyntiad. Bydd staff yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau cyn dyddiad yr apwyntiad.

Yr adran

Prif offer

  • Camera gama dau ben SPECT/CT
  • Peiriant awtomatig i gyfrif samplau
  • Cabinet diogelwch biolegol ar gyfer gweinyddu deunyddiau radiofferyllol
  • Cwpwrdd gwyntyllu
  • Cyfifydd mewnlifiad y thyroid

Staff

Mae’r tîm yn cynnwys Gwyddonwyr Clinigol a Thechnolegwyr Clinigol.  

Mae Radiolegwyr, Oncolegwyr, staff ward a staff adrannau eraill yn cael eu cysylltu’n agos gyda’r adran.

Rhif ffôn cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch: 02920 316237

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888