Neidio i'r prif gynnwy

Maeth a Deieteg

Mae bwyta'n dda yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Fodd bynnag, pan mae rhywun yn wynebu diagnosis o ganser, mae bwyta,  a gwybod beth i'w fwyta, yn gallu bod yn anodd. Ychwanegwch y llu o wybodaeth (sydd weithiau'n anghywir) sydd ar gael ar ddeiet / maeth, ac mae’n gallu bod yn ddryslyd. Bydd y dudalen we hon yn rhoi ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth ddeietegol i chi. Mae’r dudalen yn eich arwain chi hefyd, at y tîm deieteg yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac at y gwasanaethau y gallant eu cynnig i chi.

Pam ymddiried mewn dietegydd?

Deietegwyr yw'r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwys sy'n asesu, yn diagnosio ac yn trin problemau deietegol a maethol ar lefel iechyd cyhoeddus unigol ac ehangach. Maen nhw’n gweithio gyda phobl iach a sâl. Yn unigryw, mae deietegwyr yn defnyddio'r ymchwil iechyd a gwyddonol mwyaf diweddar ar fwyd, iechyd a chlefyd, ac yn trosi’r ymchwil hwnnw i fod yn arweiniad ymarferol i alluogi pobl i wneud dewisiadau priodol o ran bwyd a’u ffordd o fyw.  Deietegwyr yw'r unig weithwyr proffesiynol ym maes maeth sy'n cael eu rheoleiddio yn ôl y gyfraith, ac maen nhw’n cael eu llywodraethu gan god moesegol i sicrhau eu bod nhw’n gweithio i'r safon uchaf bob amser. Mae deietegwyr yn gweithio yn y GIG, mewn practisys preifat, yn y byd diwydiant, addysg, ymchwil, chwaraeon, y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, cyhoeddi, ac yn y llywodraeth a Sefydliadau Anllywodraethol.  Mae deietegwyr yn cynghori ac yn dylanwadu ar bolisïau bwyd ac iechyd ar draws y sbectrwm, o'r llywodraeth, i gymunedau lleol ac unigolion.

Pam bod maeth yn bwysig pan mae unigolyn wedi cael ei ddiagnosio gyda chanser?

Mae angen maeth ar eich corff i weithio’n effeithlon. Mae’n bwysig cael yr holl ynni, protein, carbohydrad, braster, fitaminau a mwynau sydd eu hangen ar y corff, ac y balans cywir ohonynt hefyd. Pan rydych yn cael eich diagnosio gyda chanser efallai y bydd eich gofynion o ran maeth yn newid neu’n cynyddu, ac efallai y byddwch chi angen help a chymorth i ddeall When you have a cancer diagnosis your nutritional requirements may change or increase and you may need help and support to understand how best to improve your intake.

Mae bwyta’n dda yn gallu rhoi cryfder ac egni i unigolyn, a theimlad o les, ac yn gallu eich helpu i iachau o unrhyw driniaethau y gallech fod yn eu cael, neu wedi eu cael. Os ydych chi’n cael digon o faeth, rydych chi’n fwy tebygol o fedru ymdopi a gwella’n well o’ch triniaeth. Mae dewis y bwydydd cywir i’w bwyta yn gallu eich helpu i gael rhywfaint o ryddhad o’r symptomau trafferthus hynny y gallai’r clefyd neu’r drinieth eu hachosi.

Mae bwyta’r bwydydd cywir fel rhan o ffordd o fyw iach yn gallu helpu i amddiffyn clefydau/cyflyrau eraill hefyd, fel clefyd y galon, a diabetes Math 2. Mae’n nhw’n gallu helpu i atal y canser rhag dychwelyd hefyd, a lleihau eich risg o gael mathau penodol o ganserau. 

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888