Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cyswllt Cleifion (PLG)

Llais cleifion yn Felindre

Llais yw'r'Grŵp Cyswllt Cleifion' yng Nghanolfan Ganser Felindre ar gyfer cleifion canser a'u gofalwyr. Mae’r grŵp, a sefydlwyd yn 2002, yn cyfarfod â’r rheolwyr yn Felindre bob mis i drafod prosiectau newydd, datblygiadau mewn gwasanaethau ac unrhyw faterion yn ymwneud â hyfforddiant staff. Ein prif rôl yw creu fforwm i drafod a rhoi mewnbwn i wasanaethau presennol a rhai sy'n cael eu cynllunio.

Mae’r grŵp yn rhagweithiol o ran codi sylwadau a phryderon gyda’r rheolwyr - ar ran cleifion, gofalwyr, neu’r ddau.

Nod pwysig arall y grŵp yw cysylltu â defnyddwyr presennol y ganolfan ganse. Rydym yn sicrhau bod trafodaethau'n cael eu cynnal am unrhyw faterion sy'n cael eu codi a bod penderfyniadau’n seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888