Neidio i'r prif gynnwy

Gofal lliniarol

Ynghylch gofal lliniarol

Mae’r tîm Gofal Lliniarol Arbenigol yng Nghanolfan Ganser Felindre yn cynnwys ymgynghorwyr ar feddygaeth liniarol, meddygon arbenigol dan hyfforddiant ac arbenigwyr nyrsio clinigol. Efallai y bydd cleifion mewnol a chleifion allanol yn y ganolfan yn cael eu hatgyfeirio at y tîm gofal lliniarol.  Yna, bydd y tîm yn gweithio gyda’r ymgynghorwyr oncoleg a chyda chlinigwyr eraill i ddarparu’r gofal gorau i fodloni anghenion y cleifion. 

 

Cyswllt:

Gellir cysylltu â’n tîm o feddygon, nyrsys a staff cymorth drwy'r switsfwrdd ar 02920 615 888 neu drwy ein hysgrifenyddion ar 02920 19 6113.
Os hoffech gyngor ar alwad neu y tu allan i oriau (gan gynnwys gwyliau’r Banc) ar gyfer ymholiadau sy’n berthnasol i Ofal Lliniarol De Ddwyrain Cymru, dylech ffonio rhif yr hosbis ar 02920 42 6000 (bydd nyrs neu feddyg ar alwad yn gallu helpu). Mae gennym nyrs gofal lliniarol ar alwad ar ddydd Sadwrn, Sul ac ar wyliau’r banc, sy’n gweithio 9-5 yn Felindre; gellir cysylltu â’r nyrs drwy’r switsfwrdd.  Cofiwch, efallai, na fyddwch yn cael ateb ar unwaith, gan y gallai ef neu hi fod mewn sgwrs bwysig gyda chlaf neu deulu. 

Ein gwaith

Mae’r tîm gofal lliniarol yn gweithio yn y ganolfan ganser gydag ymgynghorwyr y cleifion. Rydym yn gweithio gyda chleifion, perthnasau a gofalwyr i geisio sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl i gleifion canser. Gall cleifion fod yn cael triniaeth ar yr un pryd.

Rydym yn cyflawni hyn trwy:

Ble rydyn ni wedi ein lleoli a ble rydyn ni'n gweld cleifion?

Rydym wedi ein lleoli yn yr adran meddygaeth liniarol yng Nghanolfan Ganser Velindre. Rydym yn gweld cleifion ar bob ward, uned ddydd Rhosyn, cleifion allanol cemotherapi, achos dydd cemotherapi, prif gleifion allanol oncoleg ac ardaloedd triniaeth radiotherapi. Mae gennym hefyd glinig meddygaeth liniarol wythnosol lle gellir asesu cleifion lleol a chael apwyntiadau dilynol rheolaidd ar gyfer rheoli symptomau.

Sut mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio at y tîm gofal lliniarol? 

Cleifion mewnol:

Nid oes unrhyw broses atgyfeirio ysgrifenedig ffurfiol – mae’r atgyfeiriad yn cael ei wneud ar lafar fel arfer. Cawn ein gwahodd i weld cleifion gan:

  • Oncolegwyr a’u cofrestryddion arbenigol a’u meddygon iau
  • Nyrsys ward
  • Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol
  • Nyrsys clinigol arbenigol eraill

Rydym yn nodi atgyfeiriadau drwy fynd i gyfarfodydd y wardiau. Yn aml, rydym yn cael gwybod am y cleifion sy’n cael eu trosglwyddo atom ni o ysbytai/hosbisau eraill gan y tîm gofal lliniarol arbenigol yn yr ysbytai/hosbisau sy’n gwneud yr atgyfeiriadau. Rydym fel arfer yn cael gwybod am gleifion sy’n cael eu derbyn o’r gymuned gan y tîm gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned.

Cleifion Allanol:

Gellir gwneud atgyfeiriadau ar lafar ond fel arfer, maent yn cael eu gwneud ar bapur.  Caiff cleifion eu hatgyfeirio at ein clinig meddygaeth liniarol i gleifion allanol gan:

  • Oncolegwyr a’u cofrestryddion arbenigol
  • Meddygon teulu.
  • Nyrsys clinigol arbenigol o’r ysbyty a’r gymuned.
Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888