Neidio i'r prif gynnwy

Ambulatory Care FAQ

16/08/23
Beth yw rôl yr Uned Gofal Ambulatory?

Rydym bob amser wedi darparu Gofal Ambulatory ochr yn ochr â thriniaethau gwrth-ganser. Mae hyn yn galluogi cleifion i barhau â'u triniaethau canser heb ymyriad. Mae’n sicrhau hefyd, bod cleifion yn treulio llai o amser yn yr ysbyty, drwy fynychu triniaethau y gellir eu darparu mewn ychydig oriau, yn hytrach na gorfod aros dros nos.

Mae angen y gweithdrefnau, yr ymyriadau a'r triniaethau hyn ar frys i gynnal iechyd cleifion. Maen nhw’n galluogi cleifion i barhau ar eu llwybr triniaeth, aros gartref, ac i fedru rheoli eu triniaethau eu hunain yn y gymuned.

16/08/23
Beth yw rôl yr Uned Cefnogi Cleifion?

Mae triniaeth canser y pen a'r gwddf yn driniaeth ddwys. Mae'r gofal hwn yn aml yn cynnwys cydbwysedd anodd rhwng cynnal dwyster triniaeth i drin canserau y gellir eu gwella'n llawn, a rheoli'r sgîl-effeithiau cymhleth a difrifol a allai godi yn ddiogel. Mae’r sgîl-effeithiau hyn yn cael eu galw’n wenwyndra.

Mae'n bwysig rheoli gwenwyndra'n ofalus, oherwydd gall achosi niwed i'r mannau anadlu, llyncu a’r lleferydd. Mae ein Huned Cefnogi Cleifion yn darparu ymyriadau amserol, sy'n helpu i atal cleifion rhag dioddef gwenwyndra difrifol ac yn sgil hynny, gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty fel cleifion mewnol.

16/08/23
Pa wasanaethau gofal brys sydd ar gael i gleifion?
  • Rheoli Anaf Acíwt i’r Arennau (AKI)
  • Parasentesis
  • Rheoli cymhlethdodau ynghylch ceisio gosod drip mewnwythiennol, gan gynnwys elifiad posibl
  • Amnewid electrolytau
  • Triniaeth electrolytau
  • Trallwysiadau gwaed / trallwysiadau haearn
  • Rheoli Thrombws Cysylltiedig â Chanser (CAT)
  • Gwasanaeth gwenwyndra imiwnotherapi
  • Mewnosod Tiwb Nasogastrig (NGT) a hyfforddiant
  • Gofal a hyfforddiant - Gastrostomi Endosgopig trwy'r Croen (PEG)
  • Cyngor ar faeth a rhagnodi atchwanegiadau maethol
  • Asesiad lleferydd ac iaith - lleferydd a llyncu
  • Rheoli tiwb traceostomi a stoma laryngectomi
  • Rheoli symptomau e.e. gosod gyrwyr chwistrelli ar gyfer chwydu afreolus a/neu boen
16/08/23
Ydy'r Uned Gofal Ambulatory yn gallu darparu ar gyfer Adolygiadau gan wasanaethau eraill?

Mae'r adolygiadau sydd ar gael gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd drwy’r Uned Gofal Ambulatory yn cynnwys:
 

  • Ffisiotherapi
  • Therapi Lleferydd ac Iaith
  • Therapi Galwedigaethol
  • Dietegydd
  • Seicoleg Glinigol
16/08/23
Sut mae profiad ac adborth cleifion yn cael eu monitro?

Mae profiad ac adborth cleifion yn cael eu monitro trwy’r system adborth  electronig CIVICA i gleifion. Mae'r system hon yn cael ei chyrchu gan gleifion ar eu dyfeisiau symudol eu hunain neu ar iPad yr Uned Gofal Ambulatory, sydd wedi'i weithredu i gefnogi cleifion i roi adborth ynghylch eu profiad.