Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun ailgylchu cymhorthion cerdded

Three people hold a wooden sign that says

Mae ein Hadran Therapïau yng Nghanolfan Ganser Felindre yn rhoi cannoedd o gymhorthion cerdded i gleifion bob blwyddyn er mwyn eu helpu i symud, parhau’n annibynnol a gwella.

Gall cymhorthion cerdded gynnwys ffyn cerdded, ffyn baglau (crutches) a fframau Zimmer. Mae modd adfer ac ailgylchu y rhan fwyaf o’r rhain yn ddiogel, a byddai hyn yn arbed miloedd o bunnoedd i’r GIG bob blwyddyn.

Hoffem ni ailgylchu cymaint o gymhorthion cerdded â phosib ac mae hyn yn dibynnu ar gymorth gan gleifion a’u hanwyliaid. Bydd dychwelyd unrhyw gymhorthion cerdded diangen yn gyflym yn ein helpu i’w rhoi i gleifion yn y dyfodol cyn gynted â phosib.

Dyma Helena Goode, sy’n ffisiotherapydd arbenigol yn ein Hadran Therapïau, yn sôn mwy am bwysigrwydd ailgylchu cymhorthion cerdded.
 

 

Sut i defynddio'r gwasaenaeth hwn

Enw ein sied ar gyfer ailgylchu cymhorthion cerdded yw ‘Y Sied’ ac fe welwch chi hi ym maes parcio’r Adran Radiotherapi yng nghefn y safle.

Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw dod ag unrhyw hen gymhorthion cerdded i’r Sied a dyna fe! Bydd ein staff yn gwneud gweddill y gwaith.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r gwasanaeth, cysylltwch â’n Hadran Therapïau ar 029 2061 5888.

 

Effaith amgylcheddol

Nod ein cynllun ailgylchu cymhorthion cerdded yw:

  • Lleihau gwastraff trwy atal cymhorthion cerdded rhag mynd i safleoedd tirlenwi
  • Arbed costau trwy ailddefnyddio cymhorthion cerdded sy’n gallu cael eu hailgylchu’n ddiogel.
  • Atal allyriadau carbon sy’n ymwneud â’u taflu i ffwrdd ac sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi.

Wrth ddychwelyd cymhorthion cerdded i Ganolfan Ganser Felindre, nid yn unig byddwch chi’n ein helpu i arbed arian, byddwch chi hefyd yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Er enghraifft, wyddech chi fod ailddefnyddio cymorth cerdded yn allyrru 98% yn llai o garbon ar gyfartaledd nag archebu cymorth cerdded newydd?

Gweithio gyda'r gymuned

I gynnal y prosiect hwn, roedd angen i ni adeiladu sied yn yr awyr agored er mwyn i gleifion allu dod â’u cymhorthion cerdded diangen atom heb fod angen camu i mewn i amgylchedd clinigol.

Er mwyn cyflawni hyn, daeth Walters UK, ein partneriaid ar gyfer gwaith galluogi Canolfan Ganser Felindre newydd, a grŵp cymunedol Men’s Sheds.

Gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu o safle Canolfan Ganser Felindre newydd a chymorth gan Walters UK, adeiladodd Men’s Sheds sied gan ddilyn manyleb unigryw ein Hadran Therapïau.

Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r bartneriaeth hon sy’n helpu ein cynllun i leihau gwastraff, arbed costau ac atal allyriadau carbon.
 

The team at Men Sheds stand next to the shed during its making. A team of workers from Walters load the shed onto a van.