Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Gwybodaeth

Mae ein canolfan gwybodaeth yn agored i bawb

Mae ein canolfan gwybodaeth wedi ei lleoli ger y brif fynedfa, ac mae’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth a chanllawiau cymorth am ganser. Rydym yn darparu mynediad i'r rhyngrwyd trwy gyfrifiadur pwrpasol er defnydd cleifion / ymwelwyr. Mae gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim yn gysylltiedig â’r rhan fwyaf o linellau cymorth canser.  Mae cadeiriau yno lle gallwch chi eistedd a darllen neu gallwch fynd â gwybodaeth i ffwrdd i’w darllen yn nes ymlaen.  Rydych yn rhydd i dreulio cymaint o amser ag y dymunwch yn y ganolfan. Mae ein ‘bagiau gwybodaeth i gleifion’ hefyd ar gael o’r man yma.  Mae'r bagiau yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd â chanser.

Os oes angen unrhyw gymorth neu wybodaeth arnoch, mae ein Rheolwr Gwybodaeth i Gleifion ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa.  Mae swyddfa’r rheolwr wedi ei lleoli ger y ganolfan wybodaeth.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau allanol ac mae gennym dudalen calendr digwyddiadau sy'n rhoi manylion a dyddiadau o ddigwyddiadau sydd i ddod.

Mae ein canolfan yn darparu gwybodaeth am:

• fathau o ganser a thriniaethau
• grwpiau cymorth a gwasanaethau lleol
• gymorth emosiynol ac ymarferol
• fywyd ar ôl canser
• brofedigaeth
• gymorth i ofalwyr
• hybu iechyd

Mae gennym wybodaeth hefyd ar DVD, CD, casét, ac mewn Braille, yn Gymraeg ac mewn rhai ieithoedd eraill.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888