Neidio i'r prif gynnwy

Anghenion Penodol a Dementia

Dementia a gofal canser.

Gall dementia effeithio ar unrhyw un.  Gall cleifion sydd yn dioddef o ganser a dementia yn aml fod yn ddryslyd ac yn bryderus oherwydd newidiadau i’w bywyd arferol yn ystod triniaeth.  Gall ein nyrs cymorth dementia helpu mewn nifer o ffyrdd sy’n cynnwys:

  • Darparu cefnogaeth emosiynol ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ddementia a’u teuluoedd yn ystod triniaeth canser
  • Rhoi gwybodaeth ymarferol a’u cyfeirio at wasanaethau perthnasol.
  • Rhoi cyngor ar dechnegau cyfathrebu ac ar  wella’r amgylchedd ar gyfer cleifion sydd â dementia.
  • Darparu cymorth ar sut i ymdopi â newidiadau / ymgartrefu mewn wardiau i gael  triniaeth.
  • Gweithio gyda chleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff i adeiladu cynlluniau gofal sy’n canolbwyntio ar ofalu am y person fel unigolyn
  • Cefnogi staff drwy addysg  er mwyn gwella’r gofal i berson sydd yn dioddef o ddementia.  Galluogi staff i gefnogi nod Felindre o ddarparu gofal tosturiol urddasol a chanolbwyntio ar natur unigryw pob unigolyn.

Os hoffech ragor o wbodaeth, cysylltwch â Michele Pengelly / Leigh Porter : 029 2061 5888 est 6132

Youtube Dementia (Saesneg yn unig)

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888