Neidio i'r prif gynnwy

Allgymorth cemotherapi

Mae gan Ganolfan Ganser Felindre wasanaeth ‘allgymorth’ ar gyfer cemotherapi. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu triniaethau i gleifion yn eu hysbyty lleol.

Cynhelir clinigau yn:

Ar hyn o bryd cynhelir clinigau yn:

  • Ysbyty Nevill Hall
  • Ysbyty Tywysoges Cymru
  • Ysbyty Brenhinol Gwent
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Ysbyty’r Tywysog Siarl
  • Ysbyty Gymunedol Bronllys

Mae gennym hefyd ddau uned deithiol: 

  • Bws Cemo Nantgarw
  • Bws Cemo Cwmbrân

Mae’r tîm allgymorth yn ymweld â’r clinigau hyn bob wythnos ar ddiwrnod penodol i drin canser cyffredin megis canser y fron, yr ysgyfaint a’r coluddion. Caiff cleifion eu monitro’n ofalus.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888