Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch ein staff

Ein staff a'u diogelwch

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre gyfrifoldeb i amddiffyn ei staff rhag digwyddiadau o drais, ymddygiad bygythiol a cham-drin geiriol. Gall ein staff ddefnyddio dyfeisiadau i fonitro a chofnodi digwyddiadau pan fyddant yn teimlo bod eu diogelwch dan fygythiad. Gellir defnyddio tystiolaeth, gan gynnwys recordiau sain, a gafwyd trwy’r dyfeisiadau hyn, mewn achosion troseddol a sifil ac/neu i gymryd mesurau lleol yn erbyn troseddwyr honedig. Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn gyfrifol am ddefnydd y dyfeisiadau ac am unrhyw recordiadau.  Mae Reliance (y darparwr gwasanaeth) yn rheoli’r gwasanaeth hwn ar ran Ymddiriedolaeth GIG Felindre.  I gael rhagor o wybodaeth ynghylch diogelwch staff, cysylltwch â Tina Hitt.

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn parhau i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau bod cyfrinachedd y cleifion yn cael ei gadw.  O ganlyniad, rydym wedi cynhyrchu’r posteri gwybodaeth canlynol ar eich cyfer.

Gellir gweld y dogfennau canllawiau isod.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888