Neidio i'r prif gynnwy

Dr Simon Waters

Rôl: Ymgynghorydd Oncoleg Feddygol
Safle: Bron
Ysgrifennydd Ffôn: 029 20 316910
E-bost Ysgrifennydd: VCC.MedicalSecretaries.Team2@wales.nhs.uk 

Mae Simon Waters yn Oncolegydd Meddygol sy'n arbenigo ar ganser y fron. Ar ôl cael hyfforddiant ym maes oncoleg feddygol a chwblhau PhD mewn labordy yn Swydd Efrog, ymunodd Dr Waters â Chanolfan Ganser Felindre yn 2011 gan ddatblygu diddordeb arbennig mewn rheoli mathau datblygedig o ganser y fron mewn modd systemig. Yn ogystal â hynny, mae’n aelod craidd o’r tîm amlddisgyblaethol ar gyfer y fron ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ymhlith ei ddiddordebau o ran ymchwil mae gwerthuso triniaethau newydd ar gyfer canser y fron, a hynny yn ystod y cyfnod cynnar a’r cyfnod hwyr, ac mae'n weithgar iawn yn ei rôl yn Brif Ymchwilydd mewn treialon clinigol rhyngwladol sy’n cael eu cynnal dros sawl canolfan. Ac yntau’n rhoi blaenoriaeth fawr i ddiogelwch cleifion, mae’n Arweinydd Meddygol ar gyfer Therapi Gwrth-ganser Systemig yn Felindre ac yn gynrychiolydd Cymru ar Grŵp Llywio Cenedlaethol Cancer Research UK ar gyfer ffurflenni cydsynio i driniaeth gwrth-ganser systemig.