Neidio i'r prif gynnwy

Dr Ricky Frazer

Dr Ricky Frazer MBBCH (Hons), MSc (MedEduc), BSc, PgCert (Onc), PgCert (ClinLead), PgCert (AcuteMed) MAcadMEd, MRCP, AFFMLM
Rôl: Ymgynghorydd Oncoleg Feddygol

Safle: Melanoma
Ysgrifennydd Ffôn: 029 20 316246
E-bost Ysgrifennydd: Andrea.Jones18@wales.nhs.uk

Safle: Arennau
Ysgrifennydd Ffôn: 029 20 316241
E-bost Ysgrifennydd: Michelle.Williams14@wales.nhs.uk

 

Mae Ricky Frazer yn oncolegydd meddygol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae’n arbenigo mewn canser yr arennau a’r croen, yn ogystal â mewn oncoleg acíwt. Mae’n arweinydd clinigol ar yr Uned Asesu Oncoleg Acíwt yn y Ganolfan ac ar y Gwasanaeth Trin Tocsigedd Imiwnotherapi. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg ac mae’n Arweinydd Cyfadran ac yn Diwtor Coleg yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon (RCP). Mae Ricky hefyd yn Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, yn Is-lywydd ar y Rhwydwaith Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Imiwno-oncoleg, ac yn Gyd-arweinydd ar y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Imiwno-oncoleg sy’n cael ei gynnal bob mis. Roedd ganddo rôl flaenllaw yn y gwaith o sefydlu a datblygu’r gyfres addysgol genedlaethol ‘Practical Management of your Immuno-Oncology Patient (PMI-OP)’ sy’n trafod gyda chydweithwyr arbenigol elfennau o nodi a rheoli sy’n ymwneud ag imiwnotherapi. Mae’n gyd-sylfaenydd ar bodlediad o’r enw ‘The Immunobuddies’ a lansiwyd yn 2023, lle mae’n trafod y defnydd o imiwnotherapi wrth drin canser a sut i drin sgil effeithiau. Mae’r podlediad ar gael yn rhad ac am ddim ar nifer o lwyfannau ar-lein, gan gynnwys Spotify!