Neidio i'r prif gynnwy

Dr Sonali Dasgupta

Rôl: Ymgynghorydd Oncoleg Feddygol
Safle: Colon a’r rhefr
Ysgrifennydd Ffôn: 029 20 615888 ext 6372
E-bost Ysgrifennydd: Pauline.Attley2@wales.nhs.uk

Mae hyfforddiant meddygol ac academaidd ôl-raddedig Dr Dasgupta yn ymestyn dros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Enillodd ei chymhwyster meddygol israddedig o Kolkata, India. Yn 2016, dyfarnwyd PhD (Cancer Research UK) iddi am ddarganfod biofarcwyr rhagfynegol/prognostig newydd mewn canser y colon a’r rhefr (Prifysgol y Frenhines, Belfast, DU). Ar yr un pryd, dyfarnwyd marciau rhagoriaeth iddi hefyd mewn Diploma Ôl-raddedig mewn Oncoleg (Prifysgol Newcastle, DU). Mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, fel prif awdur ac fel cydawdur; a chyflwynodd ei gwaith mewn fforymau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hi’n Brif Ymchwilydd ar gyfer nifer o hap-dreialon a phrojectau trosiadol. Mae hi’n gydawdur Medical Oncology SCE Handbook (ACP, 2022), yn Oruchwyliwr Addysgol ar gyfer myfyrwyr Oncoleg Feddygol dan hyfforddiant, yn fentor ar gyfer myfyrwyr Fferylliaeth dan hyfforddiant, ac yn aelod o FRCR (Fellowship Royal College of Radiologists) dan arweiniad Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Datblygodd angerdd Dr Dasgupta dros Ganserau o Darddiad Anhysbys yn ystod yr amser yr arweiniodd wasanaeth Oncoleg Acíwt newydd sbon,  gyda gwasanaeth Canserau o Darddiad Anhysbys tebyg ar gyfer Gogledd Iwerddon (North West Cancer Centre, Western Health and Social Care Trust). Cafodd y model newydd hwn o wasanaeth integredig ei adolygu gan gymheiriaid allanol, a chafodd ganmoliaeth uchel. Yn sgil adleoli nôl i Gymru, daeth Dr Dasgupta yn sylfaenydd ac yn Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwasanaeth Canserau o Darddiad Anhysbys newydd yn Ne Ddwyrain Cymru. Yn 2023, fe’i penodwyd yn Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Grŵp Safle Canser CUP Cymru Gyfan. Mae hi hefyd yn cynrychioli Cymru yn ffrwd waith CUP y DU y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI).

Mae pob claf yn unigryw yn ei ffordd ei hun; mae cydnabod hyn a defnyddio polisi o feddyginiaeth wedi’i bersonoli, drwy integreiddio manylion clinigol, triniaeth gonfensiynol, ymchwil amserol a dymuniadau cleifion, yn dod â boddhad mawr iddi.