Byddwch angen yr eitemau canlynol yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty:
- Deunyddiau ymolchi, tyweli, taclau siafio neu rasel drydan, 'wet wipes'
- Dillad cyfforddus i'w gwisgo yn ystod y dydd - Mae cleifion yn cael eu hannog i wisgo eu dillad arferol yn ystod y dydd. Dylai pobl sy'n cael radiotherapi ddilyn y cyngor ar ddillad yn ein llyfryn o'r enw Radiotherapi, sydd ar gael gan eu nyrs neu radiograffydd.
- Dillad nos, gŵn llofft a sliperi
- Llyfrau, cylchgronau, neu ddeunyddiau ysgrifennu llythyrau
- Arian ar gyfer stampiau, papurau newydd a losin
- Clustffonau ar gyfer y teledu sydd wrth y gwely
- Unrhyw eitemau arbennig eraill rydych chi'n eu defnyddio, fel teclynnau clyw, sbectol neu lensys cyffwrdd, ffon gerdded, ac yn y blaen. Rhowch wybod i ni os oes angen i chi ddod â'ch cadair olwyn eich hun.
- Unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd
- Sudd, ffrwyth, bisgedi neu snaciau eraill
- Llyfr pensiwn neu wybodaeth ar fudd-daliadau eraill yr Adran Nawdd Cymdeithasol (os ydych chi’n disgwyl bod yn yr ysbyty am fwy na 6 wythnos)