Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd amser bwyd?

Rydym yn annog cleifion i fwyta prydau bwyd wrth y bwrdd bwyta. Bydd staff arlwyo yn dod â throli gwasanaeth Croesawydd i'r bwrdd bwyta neu wrth erchwyn eich gwely ar bob amser bwyd. Bydd dewis o brydau bwyd neu frechdanau poeth ac oer. Byddwch yn gallu gwneud eich dewis o'r prydau bwyd a fydd yn cael eu harddangos o'ch blaen. Gallwch chi gael cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Dywedwch wrth arlwywr y ward beth rydych chi ei eisiau. Os oes gennych ofyniad dietegol arbennig, rhowch wybod i arlwywr ward neu nyrs cyn gynted â phosibl.